Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 17 Mai 2017
 i'w hateb ar 24 Mai 2017

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

1. Huw Irranca–Davies (Ogwr): Pa sicrwydd y gwnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ei roi i sicrhau y caiff yr amddiffyniadau amgylcheddol sydd yn eu lle o dan ddeddfwriaeth yr UE, yn arbennig cyfarwyddebau natur, eu cadw yng Nghymru ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd? OAQ(5)0140(ERA)

 

2. David Melding (Canol De Cymru): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â'r diffyg ffrwythau a llysiau yng Nghymru? OAQ(5)0150(ERA)

 

3. David Rees (Aberafan):A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cynnydd a gaiff ei wneud i wella ansawdd aer ledled Cymru? OAQ(5)0147(ERA)

 

4. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i leihau achosion o ollwng sbwriel? OAQ(5)0146(ERA)

 

5. Michelle Brown (Gogledd Cymru): Beth yw bwriadau Llywodraeth Cymru ar gyfer rheoli pysgota mewndirol ac arfordirol ar ôl gadael yr UE? OAQ(5)0149(ERA) TYNNWYD YN ÔL

 

6. David Melding (Canol De Cymru): Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella ôl troed ecolegol amgylcheddau trefol Cymru? OAQ(5)0144(ERA)

 

7. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y risg o lifogydd ar afon Tawe? OAQ(5)0137(ERA)

8. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi cynaliadwyedd busnesau amgylcheddol yng Nghymru? OAQ(5)0139(ERA)

 

9. Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wella lles anifeiliaid yng Nghymru? OAQ(5)0148(ERA)

 

10. Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i baratoi ar gyfer yr adeg pan gaiff arian ei dynnu yn ôl o Gynllun Datblygu Gwledig 2020? OAQ(5)0151(ERA)

 

11. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo pobl sydd mewn tlodi tanwydd? OAQ(5)0138(ERA)

 

12. Gareth Bennett (Canol De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynnal a chadw llwybrau cerdded a llwybrau ceffylau yng Nghymru? OAQ(5)0141(ERA)

 

13. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y data a ryddhawyd gan y dangosfwrdd TB? OAQ(5)0143(ERA)

 

14. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r effaith a gaiff y defnydd ehangach o geir trydanol ar lygredd aer yng Nghymru? OAQ(5)0145(ERA)W

 

15. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion i fynd i'r afael â chlymog Japan yng Nghymru? OAQ(5)0136(ERA)

 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

1. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynnydd y cynnig gofal plant ar gyfer Cymru. OAQ(5)0148(CC)

 

2. Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau i leddfu effaith negyddol unrhyw brosesau ar hyn o bryd ac yn y dyfodol i ddiwygio nawdd cymdeithasol? OAQ(5)0146(CC)

 

3. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwreiddio egwyddorion a nodir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn ei gwaith? OAQ(5)0145(CC)

 

4. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn diwallu anghenion llety y gymuned Sipsiwn a Theithwyr? OAQ(5)0142(CC)

 

5. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r sefyllfa ddigartrefedd yng Nghymru? OAQ(5)0155(CC) TYNNWYD YN ÔL

 

6. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am rôl profiadau niweidiol yn ystod plentyndod o ran llywio polisi Llywodraeth Cymru ar blant? OAQ(5)0150(CC)

 

7. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa gamau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i rwystro plant yng Nghymru rhag dioddef profiadau niweidiol yn ystod plentyndod? OAQ(5)0147(CC)

 

8. David Melding (Canol De Cymru): Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o adroddiad Breuddwydion Cudd Comisiynydd Plant Cymru? OAQ(5)0144(CC)

 

9. Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am adeiladu cartrefi newydd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(5)0152(CC)

 

10. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen Cefnogi Pobl? OAQ(5)0141(CC)

 

11. Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer adfywio yng Nghasnewydd? OAQ(5)0153(CC)

 

12. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am lefel bresennol gweithgareddau Cymunedau yn Gyntaf yng Nghaerdydd? OAQ(5)0154(CC)

 

13. Hannah Blythyn (Delyn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i wasanaethau'r swyddfa bost yng Nghymru? OAQ(5)0151(CC)

 

14. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Beth yw blaenoriaethau tai Llywodraeth Cymru ar gyfer Sir Benfro dros y 12 mis nesaf? OAQ(5)0140(CC)

 

15. Nathan Gill (Gogledd Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ofalwyr maeth yng Ngogledd Cymru? OAQ(5)0143(CC)