Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 43(v3) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/01/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cofnod y Trafodion

Datganiad gan y Llywydd

Croesawodd y Llywydd gynrychiolaeth seneddol o Basra, Irac, oedd ar ymweliad â’r Cynulliad Cenedlaethol.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(10 munud)

Cwestiwn Brys 1

Dechreuodd yr eitem am 14.19

I Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:

Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am atal cyllid Llywodraeth Cymru i NSA Afan?

(10 munud)

Cwestiwn Brys 2

Dechreuodd yr eitem am 14.25

I Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith:

Mark Reckless (Dwyrain De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyfodol tollau ar Bontydd Hafren?

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.43

 

(45 munud)

3.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol: Y Fframwaith Cyllidol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.02

(90 muned)

4.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cymru

NDM6203 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau ym Mil Cymru, i'r graddau eu bod yn dod o dan gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, neu yn ei addasu, barhau i gael eu hystyried gan Senedd y DU.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Tachwedd 2016 a gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Ionawr 2017 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Mae copi o'r Bil i'w weld ar wefan Senedd y DU:

Bill documents — Wales Bill 2016-17 — UK Parliament (Saesneg yn unig)

Dogfennau ategol
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol
Memorandwm Esboniadol yn ymgorffori’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol a’r Nodiadau Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.54

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM6203 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau ym Mil Cymru, i'r graddau eu bod yn dod o dan gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, neu yn ei addasu, barhau i gael eu hystyried gan Senedd y DU.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Tachwedd 2016 a gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Ionawr 2017 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Mae copi o'r Bil i'w weld ar wefan Senedd y DU:

Bill documents — Wales Bill 2016-17 — UK Parliament

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

17

55

Derbyniwyd y cynnig.

 

(15 munud)

5.

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2017

NDM6200 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2017 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Rhagfyr 2016.

Dogfennau Ategol
Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2017
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.04

NDM6200 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Rhagfyr 2016.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

(15 munud)

6.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cyflenwadau Meddygol (Costau) y Gwasanaeth Iechyd

NDM6201 Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil Cyflenwadau Meddygol (Costau) y Gwasanaeth Iechyd  sy'n ymwneud â chael a rhannu gwybodaeth am gynhyrchion y gwasanaeth iechyd i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Tachwedd 2016 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).

Mae copi o'r Bil i'w weld ar wefan Senedd y DU:

Bill documents — Health Service Medical Supplies (Costs) Bill 2016-17 — UK Parliament  (Saesneg yn unig)

Dogfennau ategol
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Adroddiad Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.07

NDM6201 Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil Cyflenwadau Meddygol (Costau) y Gwasanaeth Iechyd  sy'n ymwneud â chael a rhannu gwybodaeth am gynhyrchion y gwasanaeth iechyd i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Tachwedd 2016 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).

Mae copi o'r Bil i'w weld ar wefan Senedd y DU:

Bill documents — Health Service Medical Supplies (Costs) Bill 2016-17 — UK Parliament

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

(60 munud)

7.

Dadl: Setliad Llywodraeth Leol 2017-18

NDM6202 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2017-2018 (Setliad Terfynol – Cynghorau). Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Rhagfyr 2016.

Dogfen ategol
Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2017-2018 (Setliad Terfynol – Cynghorau)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.09

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM6202 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2017-2018 (Setliad Terfynol – Cynghorau). Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Rhagfyr 2016.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

10

9

55

Derbyniwyd y cynnig.

 

8.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.44, canwyd y gloch a gohiriwyd y cyfarfod gan ailgynnull am 18.42 ar gyfer y cyfnod pleidleisio.

 

Dechreuodd yr eitem am 18.42

 

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: