R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Mark Isherwood (Gogledd Cymru):Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo pobl ag anableddau yng Nghymru? OAQ(5)0369(FM)
2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi ffermwyr yn Sir Benfro? OAQ(5)0365(FM)
3. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru):Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau gwastraff bwyd yng nghartrefi Cymru? OAQ(5)0373(FM)
4. Hefin David (Caerffili): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau ar gyfer caffael cerbydau newydd ar ddechrau masnachfraint reilffyrdd newydd Cymru a'r Gororau? OAQ(5)0371(FM)
5. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pa bryd y gwnaeth y Prif Weinidog gyfarfod ddiwethaf â Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig i drafod perthynas Cymru â'r Undeb Ewropeaidd? OAQ(5)0372(FM)W
6. Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Prif Weinidog ddatgan pa gynlluniau sydd ganddo i drafod y pecyn o gynigion y mae TATA Steel wedi'i gyflwyno i'r gweithlu gyda'r Cadeirydd dros dro, Ratan Tata? OAQ(5)0370(FM)
7. Sian Gwenllian (Arfon):A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar gynllun ffordd osgoi Caernarfon/Bontnewydd? OAQ(5)0367(FM)W
8. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cymorth ariannol sydd ar gael i fusnesau newydd yng Nghymru? OAQ(5)0378(FM)
9. David Rees (Aberafan):A wnaiff y Prif Weinidog roi manylion am strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0384(FM)
10. Leanne Wood (Rhondda): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion Llywodraeth Cymru i wella gwybodaeth am wleidyddiaeth? OAQ(5)0368(FM)
11. Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer de-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0366(FM)
12. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael yn ddiweddar â Llywodraeth y DU ynghylch ymadael â'r UE? OAQ(5)0376(FM)
13. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i gynyddu ymarfer corff ledled Cymru? OAQ(5)0379(FM)
14. Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cymorth ar gyfer undebau credyd yng Nghymru? OAQ(5)0383(FM)
15. Caroline Jones (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am unrhyw gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella seilwaith technoleg gwybodaeth y GIG yng Nghymru? OAQ(5)0381(FM)