Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Zoom
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Amseriad disgwyliedig: 319(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 27/01/2021 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn
ar ffurf rhithwir, gyda’r Aelodau yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn
cyntaf. Atebwyd cwestiwn 4 gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth.
Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl
cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.26 Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf.
Tynnwyd cwestiwn 8 yn ôl. Yn unol â Rheol Sefydlog
12.18, am 14.29 cafodd y trafodion eu hatal dros dro tan 14.38. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol [Gofyn
i’r Prif Weinidog] Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog
ddatganiad am nifer yr achosion o COVID-19 yn y DVLA yn Abertawe? [I’w
ateb gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol] David Rees (Aberafan): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru
yn eu cymryd i gefnogi trigolion a gafodd eu symud o'u cartrefi yn Sgiwen yn
dilyn llifogydd a achoswyd gan ddŵr sy'n deillio o hen safle glofaol? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.22 I’r Prif Weinidog: Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am nifer
yr achosion o COVID-19 yn y DVLA yn Abertawe? I’r Gweinidog Tai a
Llywodraeth Leol: David Rees (Aberafan): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd
i gefnogi trigolion a gafodd eu symud o'u cartrefi yn Sgiwen yn dilyn llifogydd
a achoswyd gan ddŵr sy'n deillio o hen safle glofaol? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.44 Gwnaeth David Melding
ddatganiad am - Diwrnod Cofio'r Holocost. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Penodi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Dros Dro NDM7559
John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â pharagraff 4 (1) o Atodlen 1 i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus (Cymru) 2019 a Rheol Sefydlog 10.5, yn enwebu Nick Bennett i’w benodi
gan Ei Mawrhydi fel Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Dros Dro ar gyfer
tymor sy’n dechrau ar 1 Awst 2021 ac yn dod i ben ar 31 Mawrth 2022. Dogfennau
ategol Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.46 Gohiriwyd y bleidlais ar y
cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7559 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) Cynnig bod y Senedd, yn unol â
pharagraff 4 (1) o Atodlen 1 i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru)
2019 a Rheol Sefydlog 10.5, yn enwebu Nick Bennett i’w benodi gan Ei Mawrhydi
fel Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Dros Dro ar gyfer tymor sy’n dechrau
ar 1 Awst 2021 ac yn dod i ben ar 31 Mawrth 2022. Cynhaliwyd pleidlais ar y
cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) – Gofal a chymorth ar gyfer goroeswyr strôc NDM7463
Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn nodi bod y Gymdeithas Strôc wedi cyhoeddi ymchwil i brofiadau goroeswyr
strôc yn ystod pandemig COVID-19, a ganfu fod goroeswyr strôc a gofalwyr yn ei
chael hi'n anodd cael gafael ar y gwasanaethau a'r cymorth sydd eu hangen
arnynt. 2.
Yn nodi bod derbyniadau mewn unedau strôc acíwt yng Nghymru wedi gostwng 12 y
cant rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2020 o gymharu â 2019. 3.
Yn credu, er gwaethaf pandemig COVID-19, y dylai goroeswyr strôc allu parhau i
gael gafael ar y gofal acíwt, y gwasanaethau adsefydlu, y driniaeth iechyd
meddwl a'r cymorth sydd eu hangen arnynt i adfer cystal â phosibl. 4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod byrddau iechyd lleol yng Nghymru yn
parhau â'u gwaith i wella gofal strôc yng Nghymru ac nad ydynt yn caniatáu i
COVID-19 ohirio newidiadau strwythurol y mae mawr eu hangen. 5.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun cenedlaethol newydd ar gyfer
gwasanaethau strôc pan ddaw'r cynllun cyflawni presennol ar gyfer strôc i ben
er mwyn sicrhau bod gofal i'r rhai y mae strôc yn effeithio arnynt yn cael ei
gryfhau ledled Cymru yn y dyfodol. Cynllun
Cyflawni ar gyfer Strôc 2017-2020 Cyd-gyflwynwyr Cefnogwyr Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.49 Gohiriwyd y bleidlais ar y
cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7463 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod y Gymdeithas
Strôc wedi cyhoeddi ymchwil i brofiadau goroeswyr strôc yn ystod pandemig
COVID-19, a ganfu fod goroeswyr strôc a gofalwyr yn ei chael hi'n anodd cael
gafael ar y gwasanaethau a'r cymorth sydd eu hangen arnynt. 2. Yn nodi bod derbyniadau
mewn unedau strôc acíwt yng Nghymru wedi gostwng 13 y cant rhwng mis Ebrill a
mis Mehefin 2020 o gymharu â 2019. 3. Yn credu, er gwaethaf
pandemig COVID-19, y dylai goroeswyr strôc allu parhau i gael gafael ar y gofal
acíwt, y gwasanaethau adsefydlu, y driniaeth iechyd meddwl a'r cymorth sydd eu
hangen arnynt i adfer cystal â phosibl. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i sicrhau bod byrddau iechyd lleol yng Nghymru yn parhau â'u gwaith i wella
gofal strôc yng Nghymru ac nad ydynt yn caniatáu i COVID-19 ohirio newidiadau
strwythurol y mae mawr eu hangen. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gyhoeddi cynllun cenedlaethol newydd ar gyfer gwasanaethau strôc pan ddaw'r
cynllun cyflawni presennol ar gyfer strôc i ben er mwyn sicrhau bod gofal i'r
rhai y mae strôc yn effeithio arnynt yn cael ei gryfhau ledled Cymru yn y
dyfodol. Cynllun Cyflawni ar gyfer Strôc 2017-2020 Cyd-Gyflwynwyr Andrew RT Davies
(Canol De Cymru) Adam Price (Dwyrain
Caerfyrddin a Dinefwr) Neil Hamilton
(Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cefnogwyr Caroline Jones
(Gorllewin De Cymru) Mark Isherwood
(Gogledd Cymru) Cynhaliwyd pleidlais ar y
cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Cyflenwad a chyflwyno brechlynnau COVID-19 NDM7562
Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn croesawu'r camau cyflym a gymerwyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU i sicrhau
mynediad at 367 miliwn o ddosau o frechlynnau a sicrhau mai'r DU oedd y wlad
gyntaf yn y byd i awdurdodi brechlyn. 2.
Yn cydnabod y cyflenwad sylweddol o frechlynnau a ddarparwyd gan Lywodraeth
Geidwadol y DU i bob gwlad gartref. 3.
Yn gresynu at y ffaith y dechreuodd y broses o gyflwyno'r brechlyn COVID-19 mor
araf yng Nghymru. 4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu cynllun pum pwynt i warantu llwyddiant
y rhaglen frechu, sy'n cynnwys: a)
penodi gweinidog brechlynnau Llywodraeth Cymru; b)
torri biwrocratiaeth i alluogi fferyllfeydd a gweithwyr iechyd proffesiynol
sydd wedi ymddeol neu gyn-weithwyr iechyd proffesiynol i roi'r brechlynnau; c)
pennu targedau clir a chyhoeddi gwybodaeth ddyddiol fanwl i sicrhau bod y
rhaglen frechu ar y trywydd iawn ym mhob rhan o Gymru; d)
ysgogi 'byddin' o wirfoddolwyr i gefnogi GIG Cymru i gyflawni'r rhaglen frechu;
ac e)
cyflwyno brechiadau 24/7 mewn canolfannau ledled y wlad. Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn: Gwelliant 1. Rebecca Evans
(Gwyr) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn croesawu gwaith prydlon y rheoleiddiwr annibynnol, yr MHRA, i
sicrhau mai’r Deyrnas Unedig oedd y wlad gyntaf yn y byd i awdurdodi brechlyn. 2. Yn nodi’r camau a gymerodd Llywodraeth y DU ar ran y 4 cenedl i
sicrhau cyflenwadau brechlyn. 3. Yn nodi bod cyflwyno brechlyn ledled Cymru a gweddill y DU yn dibynnu
ar sicrwydd y cyflenwad gan gynhyrchwyr. 4. Yn nodi bod oedi o ran cyflenwi OAZ wedi cael effaith uniongyrchol ar
gyflwyno’r brechlyn ym maes gofal sylfaenol. 5. Yn nodi strategaeth Llywodraeth Cymru i gyflawni 3 carreg filltir
allweddol: a) erbyn canol mis Chwefror – cynnig brechiad i holl breswylwyr ac
aelodau o staff cartrefi gofal; aelodau o staff iechyd a gofal cymdeithasol
rheng flaen; pawb dros 70 a phawb eithriadol o agored i niwed yn glinigol; b) erbyn y gwanwyn – cynnig brechiad i bob grŵp blaenoriaeth arall
yng ngham un, sef pawb dros 50 a phawb sydd â risg uwch oherwydd cyflwr iechyd
sylfaenol; c) erbyn yr hydref – cynnig brechiad i bob oedolyn cymwys arall yng
Nghymru, yn unol â chanllawiau’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI). Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliant 2 a
gyflwynwyd i’r cynnig. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.15 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7562 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn croesawu'r camau cyflym a gymerwyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU i
sicrhau mynediad at 367 miliwn o ddosau o frechlynnau a sicrhau mai'r DU oedd y
wlad gyntaf yn y byd i awdurdodi brechlyn. 2. Yn cydnabod y cyflenwad sylweddol o frechlynnau a ddarparwyd gan
Lywodraeth Geidwadol y DU i bob gwlad gartref. 3. Yn gresynu at y ffaith y dechreuodd y broses o gyflwyno'r brechlyn
COVID-19 mor araf yng Nghymru. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu cynllun pum pwynt i warantu
llwyddiant y rhaglen frechu, sy'n cynnwys: a) penodi gweinidog brechlynnau Llywodraeth Cymru; b) torri biwrocratiaeth i alluogi fferyllfeydd a gweithwyr iechyd
proffesiynol sydd wedi ymddeol neu gyn-weithwyr iechyd proffesiynol i roi'r
brechlynnau; c) pennu targedau clir a chyhoeddi gwybodaeth ddyddiol fanwl i sicrhau
bod y rhaglen frechu ar y trywydd iawn ym mhob rhan o Gymru; d) ysgogi 'byddin' o wirfoddolwyr i gefnogi GIG Cymru i gyflawni'r
rhaglen frechu; ac e) cyflwyno brechiadau 24/7 mewn canolfannau ledled y wlad.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Rebecca Evans (Gwyr) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn croesawu gwaith
prydlon y rheoleiddiwr annibynnol, yr MHRA, i sicrhau mai’r Deyrnas Unedig oedd
y wlad gyntaf yn y byd i awdurdodi brechlyn. 2. Yn nodi’r camau a
gymerodd Llywodraeth y DU ar ran y 4 cenedl i sicrhau cyflenwadau brechlyn. 3. Yn nodi bod cyflwyno
brechlyn ledled Cymru a gweddill y DU yn dibynnu ar sicrwydd y cyflenwad gan
gynhyrchwyr. 4. Yn nodi bod oedi o
ran cyflenwi OAZ wedi cael effaith uniongyrchol ar gyflwyno’r brechlyn ym maes
gofal sylfaenol. 5. Yn nodi strategaeth
Llywodraeth Cymru i gyflawni 3 carreg filltir allweddol: a) erbyn canol mis
Chwefror – cynnig brechiad i holl breswylwyr ac aelodau o staff cartrefi gofal;
aelodau o staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen; pawb dros 70 a phawb
eithriadol o agored i niwed yn glinigol; b) erbyn y gwanwyn –
cynnig brechiad i bob grŵp blaenoriaeth arall yng ngham un, sef pawb dros
50 a phawb sydd â risg uwch oherwydd cyflwr iechyd sylfaenol; c) erbyn yr hydref –
cynnig brechiad i bob oedolyn cymwys arall yng Nghymru, yn unol â chanllawiau’r
Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI). Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliant 2 a gyflwynwyd
i’r cynnig Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7562 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn croesawu gwaith
prydlon y rheoleiddiwr annibynnol, yr MHRA, i sicrhau mai’r Deyrnas Unedig oedd
y wlad gyntaf yn y byd i awdurdodi brechlyn. 2. Yn nodi’r camau a
gymerodd Llywodraeth y DU ar ran y 4 cenedl i sicrhau cyflenwadau brechlyn. 3. Yn nodi bod cyflwyno
brechlyn ledled Cymru a gweddill y DU yn dibynnu ar sicrwydd y cyflenwad gan
gynhyrchwyr. 4. Yn nodi bod oedi o
ran cyflenwi OAZ wedi cael effaith uniongyrchol ar gyflwyno’r brechlyn ym maes
gofal sylfaenol. 5. Yn nodi strategaeth
Llywodraeth Cymru i gyflawni 3 carreg filltir allweddol: a) erbyn canol mis
Chwefror – cynnig brechiad i holl breswylwyr ac aelodau o staff cartrefi gofal;
aelodau o staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen; pawb dros 70 a phawb
eithriadol o agored i niwed yn glinigol; b) erbyn y gwanwyn –
cynnig brechiad i bob grŵp blaenoriaeth arall yng ngham un, sef pawb dros
50 a phawb sydd â risg uwch oherwydd cyflwr iechyd sylfaenol; c) erbyn yr hydref –
cynnig brechiad i bob oedolyn cymwys arall yng Nghymru, yn unol â chanllawiau’r
Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI).
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Plaid Cymru – Llifogydd yn Rhondda Cynon Taf NDM7561
Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig
bod y Senedd: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu ymchwiliad annibynnol i lifogydd yn Rhondda
Cynon Taf. Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn: Gwelliant 1. Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
ddiogelu cymunedau yn Rhondda Cynon Taf a ledled Cymru rhag llifogydd, drwy: a) sefydlu asiantaeth
llifogydd i Gymru i gydlynu'r gwaith o reoli perygl llifogydd a'r ymateb i
lifogydd; b) dynodi lleiniau glas i
gyfyngu ar ddatblygiadau diangen mewn ardaloedd lle mae perygl llifogydd
sylweddol; c) cynyddu buddsoddiad mewn
amddiffynfeydd rhag llifogydd a rheoli perygl llifogydd; d) hwyluso ymchwiliadau
annibynnol i lifogydd sylweddol er mwyn sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu; e) sicrhau bod cyllid ar gael
ar unwaith i gynghorau, gwasanaethau brys a Chyfoeth Naturiol Cymru i fynd
drwy'r cam glanhau cychwynnol yn effeithiol; a f) gweithio gyda'r diwydiant
yswiriant i sicrhau y gall cartrefi a busnesau gael yswiriant fforddiadwy sy'n
gysylltiedig â llifogydd. [Os derbynnir gwelliant 1,
caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol] Gwelliant 2. Rebecca Evans
(Gwyr) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i: a) cymeradwyo gwaith yr
ymatebwyr brys, yr awdurdodau rheoli perygl llifogydd a phawb a gyfrannodd at
yr ymateb i achosion difrifol o lifogydd yn 2020 a 2021 yn Rhondda Cynon Taf ac
ar draws Cymru; b) sicrhau bod yr holl
ymchwiliadau annibynnol ynghylch llifogydd yn destun craffu gan y cyhoedd ac
arbenigwyr annibynnol fel bod y ffeithiau llawn ar gael a bod modd gweithredu
yn eu cylch; c) parhau i gefnogi ein
Hawdurdodau Rheoli Perygl Llifogydd yn Rhondda Cynon Taf ac ar draws Cymru er
mwyn sicrhau bod yr amddiffynfeydd yn parhau’n weithredol ac er mwyn helpu’r
perchenogion cartrefi y mae’r llifogydd wedi effeithio arnynt a hynny wrth
iddynt ymdopi â phandemig y coronafeirws; a d) cefnogi’r mesurau yn ein Strategaeth
Genedlaethol newydd ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol er
mwyn sicrhau ein bod yn gwneud ein cymunedau’n fwy cydnerth fel eu bod yn gallu
ymdopi â’r peryglon cynyddol ddifrifol sy’n deillio o’r newid yn yr hinsawdd. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.52 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7561 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
sefydlu ymchwiliad annibynnol i lifogydd yn Rhondda Cynon Taf.
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu cymunedau yn
Rhondda Cynon Taf a ledled Cymru rhag llifogydd, drwy: a) sefydlu asiantaeth llifogydd i Gymru i gydlynu'r
gwaith o reoli perygl llifogydd a'r ymateb i lifogydd; b) dynodi lleiniau glas i gyfyngu ar ddatblygiadau
diangen mewn ardaloedd lle mae perygl llifogydd sylweddol; c) cynyddu buddsoddiad mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd
a rheoli perygl llifogydd; d) hwyluso ymchwiliadau annibynnol i lifogydd sylweddol
er mwyn sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu; e) sicrhau bod cyllid ar gael ar unwaith i gynghorau,
gwasanaethau brys a Chyfoeth Naturiol Cymru i fynd drwy'r cam glanhau
cychwynnol yn effeithiol; a f) gweithio gyda'r diwydiant yswiriant i sicrhau y gall
cartrefi a busnesau gael yswiriant fforddiadwy sy'n gysylltiedig â llifogydd. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2. Rebecca Evans (Gwyr) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) cymeradwyo gwaith yr ymatebwyr brys, yr awdurdodau
rheoli perygl llifogydd a phawb a gyfrannodd at yr ymateb i achosion difrifol o
lifogydd yn 2020 a 2021 yn Rhondda Cynon Taf ac ar draws Cymru; b) sicrhau bod yr holl ymchwiliadau annibynnol ynghylch
llifogydd yn destun craffu gan y cyhoedd ac arbenigwyr annibynnol fel bod y
ffeithiau llawn ar gael a bod modd gweithredu yn eu cylch; c) parhau i gefnogi ein Hawdurdodau Rheoli Perygl
Llifogydd yn Rhondda Cynon Taf ac ar draws Cymru er mwyn sicrhau bod yr
amddiffynfeydd yn parhau’n weithredol ac er mwyn helpu’r perchenogion cartrefi
y mae’r llifogydd wedi effeithio arnynt a hynny wrth iddynt ymdopi â phandemig
y coronafeirws; a d) cefnogi’r mesurau yn ein Strategaeth Genedlaethol
newydd ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol er mwyn sicrhau ein
bod yn gwneud ein cymunedau’n fwy cydnerth fel eu bod yn gallu ymdopi â’r
peryglon cynyddol ddifrifol sy’n deillio o’r newid yn yr hinsawdd. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7561 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) cymeradwyo gwaith yr ymatebwyr brys, yr awdurdodau
rheoli perygl llifogydd a phawb a gyfrannodd at yr ymateb i achosion difrifol o
lifogydd yn 2020 a 2021 yn Rhondda Cynon Taf ac ar draws Cymru; b) sicrhau bod yr holl ymchwiliadau annibynnol ynghylch
llifogydd yn destun craffu gan y cyhoedd ac arbenigwyr annibynnol fel bod y
ffeithiau llawn ar gael a bod modd gweithredu yn eu cylch; c) parhau i gefnogi ein Hawdurdodau Rheoli Perygl
Llifogydd yn Rhondda Cynon Taf ac ar draws Cymru er mwyn sicrhau bod yr
amddiffynfeydd yn parhau’n weithredol ac er mwyn helpu’r perchenogion cartrefi
y mae’r llifogydd wedi effeithio arnynt a hynny wrth iddynt ymdopi â phandemig
y coronafeirws; a d) cefnogi’r mesurau yn ein Strategaeth Genedlaethol
newydd ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol er mwyn sicrhau ein
bod yn gwneud ein cymunedau’n fwy cydnerth fel eu bod yn gallu ymdopi â’r
peryglon cynyddol ddifrifol sy’n deillio o’r newid yn yr hinsawdd.
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18,
am 17.23 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y
Cyfnod Pleidleisio. Dechreuodd yr eitem am 17.28 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM7560
Laura Anne Jones (Dwyrain De Cymru) Paratoi
at y dyfodol: manteision caeau chwaraeon porfa artiffisial yng Nghymru Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.34 NDM7560 Laura Anne Jones
(Dwyrain De Cymru) Paratoi at y dyfodol:
manteision caeau chwaraeon porfa artiffisial yng Nghymru |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |