Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd/Zoom
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Amseriad disgwyliedig: 297(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 20/10/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiad y Llywydd Mynegodd y
Llywydd ei chydymdeimlad â’r Dirprwy Lywydd, Ann Jones a’i theulu ar farwolaeth
ei gŵr Adrian. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.31 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn
cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif
Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol") Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.31 Gofynnwyd y 7 cwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.08 Yn
unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.34 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y
Llywydd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
I'w gyhoeddi fel Datganiad Ysgrifenedig - Datganiad gan y Prif Weinidog: Y sefyllfa bresennol o ran Cysylltiadau Rhynglywodraethol Cofnodion: Cyhoeddwyd y datganiad
fel datganiad ysgrifenedig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Cyllid ar gyfer Bysiau Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 15.40 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
I'w gyhoeddi fel Datganiad Ysgrifenedig - Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Cynllun Drafft ar gyfer Trechu Tlodi Tanwydd yng Nghymru Cofnodion: Cyhoeddwyd y datganiad
fel datganiad ysgrifenedig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) (Diwygio) 2020 NDM7435 Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1.
Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws)
(Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) (Diwygio) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 9 Hydref 2020. Dogfennau Ategol Adroddiad
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.21 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7435 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog
27.5: 1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws)
(Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) (Diwygio) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar
9 Hydref 2020. Dogfennau Ategol Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 18) (Bangor) 2020 NDM7434 Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd
(Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 18) (Bangor) 2020 a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 12 Hydref 2020. Dogfennau Ategol Adroddiad
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.21 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7434 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog
27.5: 1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif
2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 18) (Bangor) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar
12 Hydref 2020. Dogfennau Ategol Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Gorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2020 NDM7436 Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1.
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2020
yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 29 Medi 2020. Dogfennau Ategol Adroddiad
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.42 NDM7436 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog
27.5: 1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Senedd Cymru
(Anghymhwyso) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Medi 2020. Dogfennau Ategol Adroddiad y Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Rheoliadau Mangreoedd a Cherbydau Di-fwg (Cymru) 2020 NDM7437 Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1.
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Mangreoedd a Cherbydau Di-fwg
(Cymru) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 29 Medi 2020. Dogfennau Ategol Adroddiad
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.48 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7437 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog
27.5: 1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Mangreoedd a Cherbydau
Di-fwg (Cymru) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Medi 2020. Dogfennau Ategol Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog Dechreuodd yr eitem am 17.01 Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8: Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i), 12.22(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog
11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog
11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos
ganlynol, er mwyn caniatáu i ddadl ar NDM7441 gael ei hystyried yn y Cyfarfod
Llawn ddydd Mawrth 20 Hydref 2020. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. Yn unol â Rheol Sefydlog
12.18, am 17.02 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Cadeirydd dros-dro. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(90 munud) |
Dadl: Coronafeirws NDM7441 Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd 1.
Yn
cydnabod difrifoldeb y sefyllfa a grëwyd gan y niferoedd cynyddol o achosion a
difrifoldeb COVID-19 yng Nghymru a’r niferoedd cynyddol o bobl sydd yn yr
ysbyty ac mewn Unedau Gofal Dwys o ganlyniad; 2.
Yn
cytuno y dylid cyflwyno ‘cyfnod atal byr’, fel y cynigiwyd gan y Grŵp
Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) a Grŵp Cynghori Technegol
Llywodraeth Cymru, er mwyn gostwng yr R, lleihau cadwyni o drosglwyddiadau
pellach, cyfyngu i’r eithaf ar glystyrau o haint yn y gymuned a chryfhau’r
system Profi Olrhain Diogelu ymhellach; 3.
Yn
cytuno bod rhaid i gyfnod atal byr gael ei seilio ar gymorth ychwanegol i
ddiogelu ffyrdd o fyw a llesiant ac yn nodi’r ddarpariaeth o gymorth ariannol
brys a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer busnesau yr effeithiwyd arnynt
gan y cyfnod atal byr. Cyd-gyflwynwyr Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Yn unol â Rheol
Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliannau 1 a 2 a gyflwynwyd i’r cynnig
hwn. Gwelliant 3 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod y
tueddiadau diweddar yn nifer yr achosion o ganlyniad positif mewn profion
COVID-19 yng Nghymru a nifer y bobl mewn ysbytai ac unedau gofal dwys sydd gyda
COVID-19. 2. Yn mynegi siom
ynghylch methiant Llywodraeth Cymru i gyhoeddi digon o ddata a thystiolaeth i
ddangos bod cyfnod atal byr ar gyfer pob rhan o Gymru naill ai'n gymesur neu'n
angenrheidiol. 3. Yn credu bod yn
rhaid i unrhyw gyfyngiadau coronafeirws gael eu hategu gan gymorth i'r rhai yr
effeithir yn andwyol arnynt, gan gynnwys cymorth i fusnesau, bywoliaeth a lles. 4. Yn croesawu'r
cymorth ariannol digynsail gan Lywodraeth Ei Mawrhydi, gan gynnwys mwy na £4.4
biliwn i helpu i ymateb i heriau pandemig y coronafeirws. 5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ailystyried ei strategaeth coronafeirws a mabwysiadu dull
mwy penodol o ymyrryd. Gwelliant 4 Sian
Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn cytuno y dylid
defnyddio'r capasiti presennol yn llawn ac y dylai'r adnoddau ychwanegol sy'n
angenrheidiol gael eu darparu fel mater o frys i system profi olrhain diogelu
Cymru er mwyn sicrhau bod yr holl ganlyniadau'n cael eu dychwelyd a bod timau
olrhain yn cael gwybod am ganlyniadau positif o fewn 24 awr i gynnal brawf. Gwelliant 5 Sian
Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn cytuno y dylid
defnyddio'r cyfnod atal byr fel cyfle i gynllunio a gweithredu cyfres newydd o
ymyriadau yn seiliedig ar strategaeth lle bwriedir cael dim achosion o COVID-19
neu ddileu COVID-19 sy'n ceisio osgoi'r angen am donnau olynol o gyfyngiadau
symud dros dro, gan ddefnyddio'r gwersi arfer gorau o Gymru ac yn rhyngwladol
mewn meysydd fel, er heb fod yn gyfyngedig i: brofion torfol a rheolaidd gan
gynnwys profi cysylltiadau asymptomatig; awyru; atal achosion rhag cael eu
mewnforio o'r tu allan i Gymru; cymorth a chyngor ymarferol ac ariannol ar
gyfer y rhai y mae angen iddynt ynysu; cyfathrebu cyhoeddus clir a chyson; ac
ymestyn gwisgo mwgwd i sefyllfaoedd eraill. Yn unol â Rheol
Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliannau 6 a 7 a gyflwynwyd i’r cynnig
hwn. Gwelliant 8 Sian
Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i adolygu ei pholisïau rheoli heintiau mewn ysbytai ar gyfer atal
heintiau COVID-19 a geir mewn ysbytai ac ystyried sefydlu safleoedd dynodedig
lle bwriedir cael dim achosion o COVID-19 i hwyluso triniaeth amserol a diogel
ar gyfer canser ac anhwylderau eraill sy'n bygwth bywyd. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.07 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7441 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd 1. Yn cydnabod difrifoldeb y sefyllfa a grëwyd gan y niferoedd cynyddol o
achosion a difrifoldeb COVID-19 yng Nghymru a’r niferoedd cynyddol o bobl sydd
yn yr ysbyty ac mewn Unedau Gofal Dwys o ganlyniad; 2. Yn cytuno y dylid cyflwyno ‘cyfnod atal byr’, fel y cynigiwyd gan y Grŵp
Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) a Grŵp Cynghori Technegol
Llywodraeth Cymru, er mwyn gostwng yr R, lleihau cadwyni o drosglwyddiadau
pellach, cyfyngu i’r eithaf ar glystyrau o haint yn y gymuned a chryfhau’r
system Profi Olrhain Diogelu ymhellach; 3. Yn cytuno bod rhaid i gyfnod atal byr gael ei seilio ar gymorth ychwanegol
i ddiogelu ffyrdd o fyw a llesiant ac yn nodi’r ddarpariaeth o gymorth ariannol
brys a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer busnesau yr effeithiwyd arnynt
gan y cyfnod atal byr. Cyd-gyflwynwyr Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii),
ni ddewiswyd gwelliannau 1 a 2 a gyflwynwyd i’r cynnig hwn. Gwelliant 3 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod y tueddiadau diweddar yn nifer yr
achosion o ganlyniad positif mewn profion COVID-19 yng Nghymru a nifer y bobl
mewn ysbytai ac unedau gofal dwys sydd gyda COVID-19. 2. Yn mynegi siom ynghylch methiant Llywodraeth
Cymru i gyhoeddi digon o ddata a thystiolaeth i ddangos bod cyfnod atal byr ar
gyfer pob rhan o Gymru naill ai'n gymesur neu'n angenrheidiol. 3. Yn credu bod yn rhaid i unrhyw gyfyngiadau
coronafeirws gael eu hategu gan gymorth i'r rhai yr effeithir yn andwyol
arnynt, gan gynnwys cymorth i fusnesau, bywoliaeth a lles. 4. Yn croesawu'r cymorth ariannol digynsail gan
Lywodraeth Ei Mawrhydi, gan gynnwys mwy na £4.4 biliwn i helpu i ymateb i
heriau pandemig y coronafeirws. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried ei
strategaeth coronafeirws a mabwysiadu dull mwy penodol o ymyrryd. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 Sian Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cytuno y dylid defnyddio'r capasiti presennol
yn llawn ac y dylai'r adnoddau ychwanegol sy'n angenrheidiol gael eu darparu
fel mater o frys i system profi olrhain diogelu Cymru er mwyn sicrhau bod yr
holl ganlyniadau'n cael eu dychwelyd a bod timau olrhain yn cael gwybod am
ganlyniadau positif o fewn 24 awr i gynnal prawf. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 Sian Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn cytuno y dylid defnyddio'r
cyfnod atal byr fel cyfle i gynllunio a gweithredu cyfres newydd o ymyriadau yn
seiliedig ar strategaeth lle bwriedir cael dim achosion o COVID-19 neu ddileu
COVID-19 sy'n ceisio osgoi'r angen am donnau olynol o gyfyngiadau symud dros
dro, gan ddefnyddio'r gwersi arfer gorau o Gymru ac yn rhyngwladol mewn meysydd
fel, er heb fod yn gyfyngedig i: brofion torfol a rheolaidd gan gynnwys profi
cysylltiadau asymptomatig; awyru; atal achosion rhag cael eu mewnforio o'r tu
allan i Gymru; cymorth a chyngor ymarferol ac ariannol ar gyfer y rhai y mae
angen iddynt ynysu; cyfathrebu cyhoeddus clir a chyson; ac ymestyn gwisgo mwgwd
i sefyllfaoedd eraill. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 5:
Derbyniwyd gwelliant 5. Yn unol â Rheol Sefydlog
12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliannau 6 a 7 a gyflwynwyd i’r cynnig hwn Gwelliant 8 Sian Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ei
pholisïau rheoli heintiau mewn ysbytai ar gyfer atal heintiau COVID-19 a geir
mewn ysbytai ac ystyried sefydlu safleoedd dynodedig lle bwriedir cael dim
achosion o COVID-19 i hwyluso triniaeth amserol a diogel ar gyfer canser ac
anhwylderau eraill sy'n bygwth bywyd. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 8:
Derbyniwyd gwelliant 8. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7441 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd 1. Yn cydnabod difrifoldeb y sefyllfa a grëwyd gan y niferoedd cynyddol o
achosion a difrifoldeb COVID-19 yng Nghymru a’r niferoedd cynyddol o bobl sydd
yn yr ysbyty ac mewn Unedau Gofal Dwys o ganlyniad; 2. Yn cytuno y dylid cyflwyno ‘cyfnod atal byr’, fel y cynigiwyd gan y Grŵp
Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) a Grŵp Cynghori Technegol
Llywodraeth Cymru, er mwyn gostwng yr R, lleihau cadwyni o drosglwyddiadau
pellach, cyfyngu i’r eithaf ar glystyrau o haint yn y gymuned a chryfhau’r
system Profi Olrhain Diogelu ymhellach; 3. Yn cytuno bod rhaid i gyfnod atal byr gael ei seilio ar gymorth ychwanegol
i ddiogelu ffyrdd o fyw a llesiant ac yn nodi’r ddarpariaeth o gymorth ariannol
brys a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer busnesau yr effeithiwyd arnynt
gan y cyfnod atal byr. 4.
Yn cytuno y dylid defnyddio'r capasiti presennol
yn llawn ac y dylai'r adnoddau ychwanegol sy'n angenrheidiol gael eu darparu
fel mater o frys i system profi olrhain diogelu Cymru er mwyn sicrhau bod yr
holl ganlyniadau'n cael eu dychwelyd a bod timau olrhain yn cael gwybod am
ganlyniadau positif o fewn 24 awr i gynnal brawf. 5.
Yn
cytuno y dylid defnyddio'r cyfnod atal byr fel cyfle i gynllunio a gweithredu
cyfres newydd o ymyriadau yn seiliedig ar strategaeth lle bwriedir cael dim
achosion o COVID-19 neu ddileu COVID-19 sy'n ceisio osgoi'r angen am donnau
olynol o gyfyngiadau symud dros dro, gan ddefnyddio'r gwersi arfer gorau o
Gymru ac yn rhyngwladol mewn meysydd fel, er heb fod yn gyfyngedig i: brofion
torfol a rheolaidd gan gynnwys profi cysylltiadau asymptomatig; awyru; atal
achosion rhag cael eu mewnforio o'r tu allan i Gymru; cymorth a chyngor
ymarferol ac ariannol ar gyfer y rhai y mae angen iddynt ynysu; cyfathrebu
cyhoeddus clir a chyson; ac ymestyn gwisgo mwgwd i sefyllfaoedd eraill. 6.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ei
pholisïau rheoli heintiau mewn ysbytai ar gyfer atal heintiau COVID-19 a geir
mewn ysbytai ac ystyried sefydlu safleoedd dynodedig lle bwriedir cael dim
achosion o COVID-19 i hwyluso triniaeth amserol a diogel ar gyfer canser ac
anhwylderau eraill sy'n bygwth bywyd.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2019-20 NDM7433 Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi Adroddiad
Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2019-20. Comisiynydd
Plant Cymru: Adroddiad Blynyddol 2019-20 Comisiynydd
Plant Cymru: Cyfrifon 2019-20 Yn unol â Rheol
Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd y gwelliant a gyflwynwyd i’r cynnig hwn. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.43 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Yn unol â Rheol Sefydlog
12.23 (iii), ni ddewiswyd y gwelliant a gyflwynwyd i’r cynnig hwn. NDM7433 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant
Cymru 2019-20. Comisiynydd Plant Cymru: Adroddiad Blynyddol 2019-20 Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig
Derbyniwyd y cynnig |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Yn unol â Rheol Sefydlog
34.14D, am 19.13, cafodd y
trafodion eu hatal dros dro er mwyn caniatáu egwyl technegol cyn y cyfnod
pleidleisio. Dechreuodd yr eitem am 19.19 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |