NDM7441 - Coronafeirws

NDM7441 - Coronafeirws

NDM7441 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd

1.   Yn cydnabod difrifoldeb y sefyllfa a grëwyd gan y niferoedd cynyddol o achosion a difrifoldeb COVID-19 yng Nghymru a’r niferoedd cynyddol o bobl sydd yn yr ysbyty ac mewn Unedau Gofal Dwys o ganlyniad;

2.   Yn cytuno y dylid cyflwyno ‘cyfnod atal byr’, fel y cynigiwyd gan y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) a Grŵp Cynghori Technegol Llywodraeth Cymru, er mwyn gostwng yr R, lleihau cadwyni o drosglwyddiadau pellach, cyfyngu i’r eithaf ar glystyrau o haint yn y gymuned a chryfhau’r system Profi Olrhain Diogelu ymhellach;

3.   Yn cytuno bod rhaid i gyfnod atal byr gael ei seilio ar gymorth ychwanegol i ddiogelu ffyrdd o fyw a llesiant ac yn nodi’r ddarpariaeth o gymorth ariannol brys a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer busnesau yr effeithiwyd arnynt gan y cyfnod atal byr.

Cyd-gyflwynwyr

Sian Gwenllian (Arfon)

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliannau 1 a 2 a gyflwynwyd i’r cynnig hwn.

Gwelliant 3 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y tueddiadau diweddar yn nifer yr achosion o ganlyniad positif mewn profion COVID-19 yng Nghymru a nifer y bobl mewn ysbytai ac unedau gofal dwys sydd gyda COVID-19.

2. Yn mynegi siom ynghylch methiant Llywodraeth Cymru i gyhoeddi digon o ddata a thystiolaeth i ddangos bod cyfnod atal byr ar gyfer pob rhan o Gymru naill ai'n gymesur neu'n angenrheidiol.

3. Yn credu bod yn rhaid i unrhyw gyfyngiadau coronafeirws gael eu hategu gan gymorth i'r rhai yr effeithir yn andwyol arnynt, gan gynnwys cymorth i fusnesau, bywoliaeth a lles.

4. Yn croesawu'r cymorth ariannol digynsail gan Lywodraeth Ei Mawrhydi, gan gynnwys mwy na £4.4 biliwn i helpu i ymateb i heriau pandemig y coronafeirws.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried ei strategaeth coronafeirws a mabwysiadu dull mwy penodol o ymyrryd.

Gwelliant 4 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cytuno y dylid defnyddio'r capasiti presennol yn llawn ac y dylai'r adnoddau ychwanegol sy'n angenrheidiol gael eu darparu fel mater o frys i system profi olrhain diogelu Cymru er mwyn sicrhau bod yr holl ganlyniadau'n cael eu dychwelyd a bod timau olrhain yn cael gwybod am ganlyniadau positif o fewn 24 awr i gynnal brawf.

Gwelliant 5 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cytuno y dylid defnyddio'r cyfnod atal byr fel cyfle i gynllunio a gweithredu cyfres newydd o ymyriadau yn seiliedig ar strategaeth lle bwriedir cael dim achosion o COVID-19 neu ddileu COVID-19 sy'n ceisio osgoi'r angen am donnau olynol o gyfyngiadau symud dros dro, gan ddefnyddio'r gwersi arfer gorau o Gymru ac yn rhyngwladol mewn meysydd fel, er heb fod yn gyfyngedig i: brofion torfol a rheolaidd gan gynnwys profi cysylltiadau asymptomatig; awyru; atal achosion rhag cael eu mewnforio o'r tu allan i Gymru; cymorth a chyngor ymarferol ac ariannol ar gyfer y rhai y mae angen iddynt ynysu; cyfathrebu cyhoeddus clir a chyson; ac ymestyn gwisgo mwgwd i sefyllfaoedd eraill.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliannau 6 a 7 a gyflwynwyd i’r cynnig hwn.

Gwelliant 8 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ei pholisïau rheoli heintiau mewn ysbytai ar gyfer atal heintiau COVID-19 a geir mewn ysbytai ac ystyried sefydlu safleoedd dynodedig lle bwriedir cael dim achosion o COVID-19 i hwyluso triniaeth amserol a diogel ar gyfer canser ac anhwylderau eraill sy'n bygwth bywyd.

 

Math o fusnes: Dadl

Cyhoeddwyd gyntaf: 03/06/2021