Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd/ Zoom
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Amseriad disgwyliedig: 291(v6)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 29/09/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.31 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd
arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
Datganiad y Llywydd Dechreuodd yr eitem am
14.30 Ymhellach i sylwadau gan
Aelodau a chais am Bwynt o Drefn, dywedodd y Llywydd fod yr holl Weinidogion ac
Aelodau yn cymryd rhan lawn, boed hynny’n rhithiol neu’n gorfforol yn y Siambr,
a sicrhaodd yr Aelodau a oedd yn bresennol yn y Siambr eu bod yn gwneud hynny
yn unol â rheoliadau a chanllawiau. |
||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.32 |
|||||||||||||||||||||||||
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) (Rhondda Cynon Taf) 2020 NDM7396 Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio)
(Rhif 10) (Rhondda Cynon Taf) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 17 Medi 2020. Dogfennau
Ategol Adroddiad
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.53 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7396 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio)
(Rhif 10) (Rhondda Cynon Taf) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Medi 2020. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
||||||||||||||||||||||||||
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) (Caerffili) 2020 Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio)
(Rhif 8) (Caerffili) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 8 Medi 2020. Dogfennau
ategol Adroddiad
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.53 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7383 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio)
(Rhif 8) (Caerffili) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Medi 2020. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
||||||||||||||||||||||||||
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) (Blaenau Gwent, Casnewydd, Merthyr Tudful a Phen-y-Bont ar Ogwr etc.) 2020 NDM7399 Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo Reoliadau
Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11)
(Blaenau Gwent, Casnewydd, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr etc.) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 22 Medi 2020. Dogfennau
Ategol Adroddiad
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.53 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7399 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog
27.5: 1. Yn cymeradwyo Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif
2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) (Blaenau Gwent, Casnewydd, Merthyr Tudful a
Phen-y-bont ar Ogwr etc.) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Medi 2020. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
||||||||||||||||||||||||||
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020 NDM7395 Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo Rheoliadau
Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.)
(Cymru) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 18 Medi 2020. Dogfennau Ategol Adroddiad
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.53 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7395 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog
27.5: 1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws)
(Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Medi 2020. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. Yn unol â Rheol Sefydlog
12.18, am 15.30 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd. |
||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Y Gronfa Cadernid Economaidd – Cam 3 Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.37 |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol: Canol Trefi: diogelu eu dyfodol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
16.32 |
|||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Wasanaethau Mamolaeth a Gwelliannau Llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg - GOHIRIWYD TAN 13 HYDREF Cofnodion: Gohiriwyd yr eitem. |
|||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Pysgodfeydd - GOHIRIWYD TAN 6 HYDREF Cofnodion: Gohiriwyd yr eitem. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Amaethyddiaeth NDM7400 Lesley
Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau yn y Bil
Amaethyddiaeth, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y
Senedd, gael eu hystyried gan Senedd y DU. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Chwefror 2020 a gosodwyd Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Mehefin 2020 yn unol â Rheol
Sefydlog 29.2. Bil
Amaethyddiaeth (Saesneg yn unig) Dogfennau Ategol Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) Pwyllgor Newid Hinsawdd,
Amgylchedd a Materion Gwledig: Adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol
ar gyfer y Bil Amaethyddiaeth Adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar
gyfer y Bil Amaethyddiaeth Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad: Adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol
ar gyfer y Bil Amaethyddiaeth Adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar
gyfer y Bil Amaethyddiaeth Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.12 NDM7400 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau yn y Bil
Amaethyddiaeth, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y
Senedd, gael eu hystyried gan Senedd y DU. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Chwefror
2020 a gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11
Mehefin 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2. Y Bil Amaethyddiaeth
(Saesneg yn unig) Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.47 cafodd y
cyfarfod ei atal dros dro gan y Cadeirydd. |
|||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Dyddiad Cyhoeddi'r Gofrestr Etholiadol) (Cymru) (Coronafeirws) 2020 NDM7398 Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo bod y
fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Dyddiad Cyhoeddi’r Gofrestr
Etholiadol) (Cymru) (Coronafeirws) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn
ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 14 Gorffennaf 2020. Dogfennau Ategol Adroddiad
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.52 NDM7398 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo bod y
fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Dyddiad Cyhoeddi’r Gofrestr
Etholiadol) (Cymru) (Coronafeirws) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn
ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Gorffennaf 2020. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) 2020 NDM7393 Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo Rheoliadau
Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer
Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 24 Gorffennaf 2020. Dogfennau Ategol Adroddiad
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.55 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7393 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo
Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer
Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Gorffennaf 2020. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Rheoliadau Gofynion y Cwricwlwm (Diwygio paragraff 7(6) o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020) (Cymru) 2020 NDM7394 Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo
Rheoliadau Gofynion y Cwricwlwm (Diwygio paragraff 7(6) o Atodlen 17 i Ddeddf y
Coronafeirws 2020) (Cymru) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 25 Awst 2020. Dogfennau Ategol Adroddiad
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.08 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7394 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo
Rheoliadau Gofynion y Cwricwlwm (Diwygio paragraff 7(6) o Atodlen 17 i Ddeddf y
Coronafeirws 2020) (Cymru) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Awst 2020. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Gyfyngiadau Coronafeirws Lleol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
18.21 |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol NDM7392 Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi’r
Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, a osodwyd ar 21 Medi 2020; 2. Yn cydnabod yr
ymgysylltu a’r ymgynghori helaeth a fu dros y pedair blynedd ddiwethaf sydd
wedi cyfrannu at y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol; 3. Yn cytuno bod y
fframwaith ar gyfer y pedwar rhanbarth a’r polisïau yn y Fframwaith Datblygu
Cenedlaethol yn rhoi arweiniad i awdurdodau cynllunio ac eraill wrth lunio a
gwneud lleoedd da; 4. Yn cytuno bod y
Fframwaith Datblygu Cenedlaethol cyntaf yn gosod sylfaen gadarn ar gyfer gwneud
penderfyniadau cynllunio strategol cadarnhaol sy’n mynd i’r afael â’r newid yn
yr hinsawdd, yn annog datgarboneiddio ac yn hyrwyddo llesiant; 5. Yn cytuno y bydd
cyhoeddi Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn helpu i gefnogi adferiad cryf o
Covid-19. Fframwaith
Datblygu Cenedlaethol Dogfennau Ategol Adroddiad
yr Ymgynghoriad: Crynodeb (FfDC drafft) Adroddiad
yr Ymgynghoriad (FfDC drafft) Arfarniad
Cynaliadwyedd Integredig o’r FfDC: Crynodeb Annhechnegol Arfarniad
Cynaliadwyedd Integredig o’r FfDC FfDC:
Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd Rhestr
o newidiadau i ddrafft y FfDC Gwelliant 1 Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru) Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn credu y dylai'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol
cyntaf osod sylfaen gadarn ar gyfer gwneud penderfyniadau cynllunio strategol
cadarnhaol sy’n mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, yn annog
datgarboneiddio ac yn hyrwyddo llesiant; Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru, unwaith
eto, wedi dewis rhoi gormod o bwyslais ar wynt ar y tir. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailddrafftio'r Fframwaith
Datblygu Cenedlaethol i ganolbwyntio ar gynhyrchu ynni niwtral o ran carbon o
gymysgedd o ynni gwynt ar y môr ac ynni'r llanw. Os derbynnir Gwelliant 1, bydd Gwelliant 2 yn cael ei
ddad-dethol. Gwelliant 2 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn
credu nad yw Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Llywodraeth Cymru yn sicrhau
dyfodol i Gymru sy'n ffyniannus, yn gynaliadwy ac yn rhoi cyfle cyfartal i'w
holl dinasyddion. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 19.08 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod
Pleidleisio. NDM7392 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn nodi’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, a osodwyd ar 21 Medi 2020; 2.
Yn cydnabod yr ymgysylltu a’r ymgynghori helaeth a fu dros y pedair blynedd
ddiwethaf sydd wedi cyfrannu at y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol; 3.
Yn cytuno bod y fframwaith ar gyfer y pedwar rhanbarth a’r polisïau yn y
Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn rhoi arweiniad i awdurdodau cynllunio ac
eraill wrth lunio a gwneud lleoedd da; 4.
Yn cytuno bod y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol cyntaf yn gosod sylfaen gadarn
ar gyfer gwneud penderfyniadau cynllunio strategol cadarnhaol sy’n mynd i’r
afael â’r newid yn yr hinsawdd, yn annog datgarboneiddio ac yn hyrwyddo
llesiant; 5.
Yn cytuno y bydd cyhoeddi Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn helpu i gefnogi
adferiad cryf o Covid-19. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 Caroline Jones (Gorllewin
De Cymru) Dileu
popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn
credu y dylai'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol cyntaf osod sylfaen gadarn ar
gyfer gwneud penderfyniadau cynllunio strategol cadarnhaol sy’n mynd i’r afael
â’r newid yn yr hinsawdd, yn annog datgarboneiddio ac yn hyrwyddo llesiant; Yn
gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru, unwaith eto, wedi dewis rhoi gormod
o bwyslais ar wynt ar y tir. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i ailddrafftio'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol i
ganolbwyntio ar gynhyrchu ynni niwtral o ran carbon o gymysgedd o ynni gwynt ar
y môr ac ynni'r llanw. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant
2 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Dileu
popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn
credu nad yw Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Llywodraeth Cymru yn sicrhau
dyfodol i Gymru sy'n ffyniannus, yn gynaliadwy ac yn rhoi cyfle cyfartal i'w
holl dinasyddion. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7392 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn nodi’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, a osodwyd ar 21 Medi 2020; 2.
Yn cydnabod yr ymgysylltu a’r ymgynghori helaeth a fu dros y pedair blynedd
ddiwethaf sydd wedi cyfrannu at y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol; 3.
Yn cytuno bod y fframwaith ar gyfer y pedwar rhanbarth a’r polisïau yn y
Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn rhoi arweiniad i awdurdodau cynllunio ac
eraill wrth lunio a gwneud lleoedd da; 4.
Yn cytuno bod y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol cyntaf yn gosod sylfaen gadarn
ar gyfer gwneud penderfyniadau cynllunio strategol cadarnhaol sy’n mynd i’r
afael â’r newid yn yr hinsawdd, yn annog datgarboneiddio ac yn hyrwyddo
llesiant; 5.
Yn cytuno y bydd cyhoeddi Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn helpu i gefnogi
adferiad cryf o Covid-19.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Yn unol â Rheol Sefydlog 34.14D, am 19.56, cafodd y trafodion eu hatal
dros dro er mwyn caniatáu egwyl technegol cyn y cyfnod pleidleisio. Dechreuodd yr eitem am 20.02 |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |