Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 268(v6)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/03/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd
y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif
Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 13.30 Gofynnwyd
cwestiynau 1, 2, 4, 5 a 10. Tynnwyd cwestiynau 3 a 6-9 yn ôl. Gwahoddodd y
Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn
2. |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 14.25 |
|||||||||
(60 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwybodaeth ddiweddaraf am Coronavirus (COVID-19) Cofnodion: Gan nad oedd y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol yn gallu bod yn bresennol ar gyfer dechrau’r
datganiad, cynigiodd y Llywydd symud i Eitem 4, cyn cymryd eitem 3. Nid oedd
unrhyw Aelod yn gwrthwynebu. Dechreuodd yr eitem am 15.55. Y bwriad oedd i’r Gweinidog wneud ei ddatganiad drwy linc fideo, ond
oherwydd anawsterau technegol, gwnaeth y Prif Weinidog y datganiad ac atebodd
gwestiynau’r Aelodau. |
|||||||||
(60 munud) |
Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Coronafeirws (COVID-19) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 14.42 |
|||||||||
(60 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Coronafeirws (COVID-19) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 17.16 |
|||||||||
(0 munud) |
Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) - WEDI'I OHIRIO Dogfennau
Ategol |
|||||||||
(0 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Adroddiad y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd - I'W GYHOEDDI FEL DATGANIAD YSGRIFENEDIG |
|||||||||
(0 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Fframwaith i wella ansawdd a pherfformiad mewn gofal brys ac argyfwng - I'W GYHOEDDI FEL DATGANIAD YSGRIFENEDIG |
|||||||||
(15 munud) |
Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 NDM7298 - Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo bod
y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio)
(Rhif 2) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Chwefror 2020.
Dogfennau
Atodol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.54 NDM7298 - Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo
bod y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio)
(Rhif 2) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20
Chwefror 2020. Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(15 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Gemau'r Gymanwlad Birmingham NDM7300 - Yr
Arglwydd / Lord Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai
Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Gemau'r Gymanwlad Birmingham i’r
graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol
Cymru. Gosodwyd
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Ionawr 2020 yn
unol â Rheol Sefydlog 29.2. Bil
Gemau'r Gymanwlad Birmingham 2019-21 Dogfennau
Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.56 NDM7300 - Yr Arglwydd / Lord Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai
Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Gemau'r Gymanwlad Birmingham i’r
graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol
Cymru. Gosodwyd Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Ionawr 2020 yn unol â
Rheol Sefydlog 29.2. Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(15 munud) |
Dadl: Cyfnod 4 y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) NDM7306 – Vaughan
Gething (De Caerdydd a Phenarth) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47: Yn
cymeradwyo'r Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru). Dogfen
Ategol Cofnodion: Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7306 – Vaughan
Gething (De Caerdydd a Phenarth) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47: Yn cymeradwyo'r Bil
Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru). Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y
cynnig. |
|||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.15 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||
(0 munud) |
Dadl: Cyfnod 3 y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) - WEDI'I OHIRIO Yn
unol â Rheol Sefydlog 26.68, mae’r Llywydd wedi penderfynu nad yw’r Bil
Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) yn gofyn am benderfyniad ariannol. Mae’r
Llywydd wedi ystyried y gwelliannau a gyflwynwyd yng Nghyfnod 3 yn unol â Rheol
Sefydlog 26.72, ac mae wedi penderfynu nad yw effeithiau unrhyw un o’r
gwelliannau, neu’r gwelliannau oll, os cytunir arnynt, yn gofyn am
benderfyniadau ariannol. Mae’r
gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl a byddant yn cael eu
trafod fel a ganlyn: 1. Trosedd i
ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol 1, 3, 2 2. Pwerau arolygu 4, 5, 6, 7, 8, 9 Dogfennau
Ategol |