Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 180(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 09/01/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.22 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn
cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni): A wnaiff y Gweinidog roi sicrwydd i ddefnyddwyr gwasanaethau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf ynglŷn â diben y monitro uwch a gyhoeddwyd heddiw? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.12 Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dawn Bowden (Merthyr
Tudful a Rhymni): A wnaiff y Gweinidog roi sicrwydd
i ddefnyddwyr gwasanaethau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf ynglŷn â
diben y monitro uwch a gyhoeddwyd heddiw? |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.27 Gwnaeth Elin Jones
ddatganiad am Cranogwen: morwraig, bardd ac ymgyrchydd. 180 mlynedd ers ei
geni. |
|||||||||||||||||||||||||
Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor Dechreuodd yr eitem am 15.30 NDM6916 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Rebecca Evans
(Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Busnes yn lle Julie James (Llafur). Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Cost Gofalu am Boblogaeth sy'n Heneiddio NDM6908
Llyr
Gruffydd (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor
Cyllid, ‘Cost gofalu am boblogaeth sy’n heneiddio', a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Hydref 2018. Noder: Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Ionawr 2019. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.30 NDM6908
Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid, ‘Cost gofalu am
boblogaeth sy’n heneiddio', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12
Hydref 2018. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Cyflwr y Ffyrdd yng Nghymru NDM6907
Russell
George (Sir Drefaldwyn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad
Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, 'Cyflwr y Ffyrdd yng Nghymru', a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Hydref 2018. Nodyn: Gosodwyd
yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 2 Ionawr 2019. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.15 NDM6907
Russell George (Sir Drefaldwyn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a
Sgiliau, 'Cyflwr y Ffyrdd yng Nghymru', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24
Hydref 2018. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Tai NDM6909
Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod nad yw
nifer y cartrefi sy'n cael eu hadeiladu yng Nghymru yn ddigonol i ateb y galw. 2. Yn gresynu: a) bod mwy na 27,000 o
gartrefi gwag yng Nghymru ar hyn o bryd; a b) bod prisiau tai ar
gyfartaledd yng Nghymru fwy neu lai dros 6 gwaith yr enillion cyfartalog
oherwydd prinder cartrefi. 3. Yn nodi papur gwyn
Ceidwadwyr Cymru, 'Cartrefu Cenedl', sy'n cyflwyno strategaeth gynhwysfawr i
fynd i'r afael ag argyfwng tai Cymru a darparu tai addas i bawb. 4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) cydnabod yr angen i
adeiladu o leiaf 100,000 o gartrefi rhwng 2021 a 2031; a b) rhoi mwy o
hyblygrwydd i gymdeithasau tai fel y gallant ddatblygu amrywiaeth o
ddeiliadaethau i ateb y galw am dai fforddiadwy. Ceidwadwyr
Cymru - Cartrefu Cenedl Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Rebecca
Evans (Gŵyr) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod: a) y buddsoddiad mwyaf
erioed mewn tai gan Lywodraeth Cymru. b) bod angen asesiad
newydd o’r angen a’r galw am dai, yn seiliedig ar y data diweddaraf a’r
amcanestyniadau aelwydydd diweddaraf. 2. Yn croesawu: a) ymrwymiad
Llywodraeth Cymru i ddarparu 20,000 o dai fforddiadwy yn ystod tymor y
Llywodraeth hon, sydd ar y trywydd iawn ac a fydd yn cael ei gyflawni mewn
partneriaeth â’r sector tai. b) cyflwyno treth
trafodiadau tir yng Nghymru a’r trothwy cychwynnol o £180,000 ar gyfer y prif
gyfraddau preswyl, sy’n golygu nad yw’r rhan fwyaf o brynwyr tai, a mwyafrif y
prynwyr tro cyntaf, yn talu treth o gwbl pan fyddant yn prynu cartref. 3. Yn cydnabod
ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i dai cymdeithasol, sydd wedi parhau’n
flaenoriaeth sylfaenol, gan gefnogi’r bobl fwyaf agored i niwed a diogelu ein
stoc bresennol o dai cymdeithasol, yn wahanol i Loegr. 4. Yn nodi’r
hyblygrwydd sydd ar gael i gymdeithasau tai er mwyn iddynt allu datblygu ystod
o ddeiliadaethau i fodloni’r galw am dai fforddiadwy. [Os
derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol] Gwelliant
2 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ym mhwynt 1, ar ôl
‘sy'n cael eu hadeiladu’, mewnosoder ‘yn y sector tai cymdeithasol’. Gwelliant
3 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ym mhwynt 2, dileu
is-bwynt (b) a rhoi yn ei le: bod cyflogau isel,
cyflogaeth ansicr a rhenti uchel yn rhwystrau sylweddol i berchnogaeth
cartrefi. Gwelliant
4 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Dileu pwyntiau 3 a 4 a
rhoi yn eu lle: Yn nodi bod
digartrefedd wedi cynyddu’n sylweddol, a bod hyn wedi costio llawer mwy i
wasanaethau cyhoeddus nag y byddai wedi ei gostio i atal digartrefedd. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i: a) cefnogi cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol
i gynyddu’r stoc tai cymdeithasol drwy wneud y gorau o’u gallu i gael mynediad
at gyllid at y diben hwn, gan gynnwys drwy bwerau benthyca Llywodraeth Cymru; b) gweithredu
argymhellion adroddaid Crisis, ‘Everybody In: How to end homelessness in Great
Britain’; c) sicrhau bod
cynlluniau datblygu lleol yn cynnwys gofyniad i fuddsoddi mewn gwasanaethau
cymdeithasol er mwyn sicrhau y gall datblygiadau newydd ddod yn gymunedau
cynaliadwy; a d) sicrhau bod
cynlluniau datblygu lleol yn cynnwys cyfran sylweddol fwy o dai cymdeithasol. Everybody
In: How to end homelessness in Great Britain (Saesneg yn unig) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.59 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6909 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod nad yw nifer y
cartrefi sy'n cael eu hadeiladu yng Nghymru yn ddigonol i ateb y galw. 2. Yn gresynu: a) bod mwy na 27,000 o gartrefi
gwag yng Nghymru ar hyn o bryd; a b) bod prisiau tai ar
gyfartaledd yng Nghymru fwy neu lai dros 6 gwaith yr enillion cyfartalog
oherwydd prinder cartrefi. 3. Yn nodi papur gwyn
Ceidwadwyr Cymru, 'Cartrefu Cenedl', sy'n cyflwyno strategaeth gynhwysfawr i
fynd i'r afael ag argyfwng tai Cymru a darparu tai addas i bawb. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i: a) cydnabod yr angen i adeiladu
o leiaf 100,000 o gartrefi rhwng 2021 a 2031; a b) rhoi mwy o hyblygrwydd i
gymdeithasau tai fel y gallant ddatblygu amrywiaeth o ddeiliadaethau i ateb y
galw am dai fforddiadwy.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gŵyr) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod: a) y buddsoddiad mwyaf erioed mewn tai gan Lywodraeth
Cymru. b) bod angen asesiad newydd o’r angen a’r galw am dai, yn
seiliedig ar y data diweddaraf a’r amcanestyniadau aelwydydd diweddaraf. 2. Yn croesawu: a) ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu 20,000 o dai
fforddiadwy yn ystod tymor y Llywodraeth hon, sydd ar y trywydd iawn ac a fydd
yn cael ei gyflawni mewn partneriaeth â’r sector tai. b) cyflwyno treth trafodiadau tir yng Nghymru a’r trothwy
cychwynnol o £180,000 ar gyfer y prif gyfraddau preswyl, sy’n golygu nad yw’r
rhan fwyaf o brynwyr tai, a mwyafrif y prynwyr tro cyntaf, yn talu treth o gwbl
pan fyddant yn prynu cartref. 3. Yn cydnabod ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i dai
cymdeithasol, sydd wedi parhau’n flaenoriaeth sylfaenol, gan gefnogi’r bobl
fwyaf agored i niwed a diogelu ein stoc bresennol o dai cymdeithasol, yn
wahanol i Loegr. 4. Yn nodi’r hyblygrwydd sydd ar gael i gymdeithasau tai
er mwyn iddynt allu datblygu ystod o ddeiliadaethau i fodloni’r galw am dai
fforddiadwy. [Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu
dad-ddethol]] Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2,3 a 4 eu dad-ddethol. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM6909 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod: a) y buddsoddiad mwyaf erioed mewn tai gan Lywodraeth
Cymru. b) bod angen asesiad newydd o’r angen a’r galw am dai, yn
seiliedig ar y data diweddaraf a’r amcanestyniadau aelwydydd diweddaraf. 2. Yn croesawu: a) ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu 20,000 o dai
fforddiadwy yn ystod tymor y Llywodraeth hon, sydd ar y trywydd iawn ac a fydd
yn cael ei gyflawni mewn partneriaeth â’r sector tai. b) cyflwyno treth trafodiadau tir yng Nghymru a’r trothwy
cychwynnol o £180,000 ar gyfer y prif gyfraddau preswyl, sy’n golygu nad yw’r rhan
fwyaf o brynwyr tai, a mwyafrif y prynwyr tro cyntaf, yn talu treth o gwbl pan
fyddant yn prynu cartref. 3. Yn cydnabod ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i dai
cymdeithasol, sydd wedi parhau’n flaenoriaeth sylfaenol, gan gefnogi’r bobl
fwyaf agored i niwed a diogelu ein stoc bresennol o dai cymdeithasol, yn
wahanol i Loegr. 4. Yn nodi’r hyblygrwydd sydd ar gael i gymdeithasau tai
er mwyn iddynt allu datblygu ystod o ddeiliadaethau i fodloni’r galw am dai
fforddiadwy.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.06 |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6900
Mohammad
Asghar (Dwyrain De Cymru) Gwres gwyn technoleg? Cau'r bwlch sgiliau
yng Nghymru yn yr oes ddigidol. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.08 NDM6900
Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru) Gwres
gwyn technoleg? Cau'r
bwlch sgiliau yng Nghymru yn yr oes ddigidol. |