Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 179(v3) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/01/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.29

(45 munud)

3.

Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Diweddaraf ar Drefniadau Pontio’r UE

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.02

(45 munud)

4.

Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Cyflwyno Asesiadau Personol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.58

(0 munud)

5.

Datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Prentisiaethau: Buddsoddi mewn Sgiliau ar gyfer y Dyfodol - Gohiriwyd

(15 munud)

6.

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2019

NDM6912 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1.  Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Tachwedd 2018.

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.27

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(15 munud)

7.

Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2018

NDM6911 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Tachwedd 2018.

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.30

NDM6911 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Tachwedd 2018.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

8.

Dadl: Adroddiad Holtham ar Dalu am Ofal Cymdeithasol

NDM6906 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi:

a) y pwysau ar wasanaethau cymdeithasol sy’n deillio o gyni a’r newid yn y boblogaeth;

b) yr adroddiad a gomisiynwyd oddi wrth yr Athro Gerald Holtham, ‘Talu am Ofal Cymdeithasol’; ac

c) bod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu grŵp rhyngweinidogol ar ofal cymdeithasol, sy’n defnyddio adroddiad Holtham i lywio ei waith.

Talu am Ofal Cymdeithasol

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Darren Millar (Gorlloewin Clwyd)

Dileu is-bwynt a) a rhoi yn ei le:

'y pwysau ar wasanaethau cymdeithasol sy'n deillio o setliadau llywodraeth leol gwael a'r newid yn y boblogaeth;'

Gwelliant 2 – Darren Millar (Gorlloewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod yr angen am ffordd fwy integredig o ymdrin â'r ddarpariaethau gofal iechyd a gofal cymdeithasol.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.33

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM6906 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi:

a) y pwysau ar wasanaethau cymdeithasol sy’n deillio o gyni a’r newid yn y boblogaeth;

b) yr adroddiad a gomisiynwyd oddi wrth yr Athro Gerald Holtham, ‘Talu am Ofal Cymdeithasol’; a

c) bod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu grŵp rhyngweinidogol ar ofal cymdeithasol, sy’n defnyddio adroddiad Holtham i lywio ei waith.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu is-bwynt a) a rhoi yn ei le:

'y pwysau ar wasanaethau cymdeithasol sy'n deillio o setliadau llywodraeth leol gwael a'r newid yn y boblogaeth;'

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

20

1

30

51

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 – Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod yr angen am ffordd fwy integredig o ymdrin â'r ddarpariaethau gofal iechyd a gofal cymdeithasol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

1

0

51

Derbyniwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM6906 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi:

a) y pwysau ar wasanaethau cymdeithasol sy’n deillio o gyni a’r newid yn y boblogaeth;

b) yr adroddiad a gomisiynwyd oddi wrth yr Athro Gerald Holtham, ‘Talu am Ofal Cymdeithasol’; a

c) bod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu grŵp rhyngweinidogol ar ofal cymdeithasol, sy’n defnyddio adroddiad Holtham i lywio ei waith.

Yn cydnabod yr angen am ffordd fwy integredig o ymdrin â'r ddarpariaethau gofal iechyd a gofal cymdeithasol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

3

10

51

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

(5 munud)

9.

Cynnig i amrywio'r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru)

NDM6910 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:

Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn canlynol:

a) adrannau 2 – 4;

b) atodlen 1;

c) adrannau 5 – 9;

d) atodlen 2;

e) adrannau 10 – 26;

f) adran 1;

g) teitl hir.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.27

NDM6910 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:

Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn canlynol:

a) adrannau 2 – 4;

b) atodlen 1;

c) adrannau 5 – 9;

d) atodlen 2;

e) adrannau 10 – 26;

f) adran 1;

g) teitl hir.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(5 munud)

10.

Cynnig i atal y Rheolau Sefydlog i ganiatáu i’r eitem nesaf o fusnes gael ei hystyried

NNDM6904 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM6905 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, 8 Ionawr 2019.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.28

NNDM6904 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM6905 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, 8 Ionawr 2019.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(15 munud)

11.

Cynnig i dderbyn argymhelliad y Prif Weinidog i Ei Mawrhydi benodi Cwnsler Cyffredinol

NNDM6905 - Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 9.1, yn cytuno â’r argymhelliad gan Brif Weinidog Cymru i Ei Mawrhydi benodi Jeremy Miles AC yn Gwnsler Cyffredinol.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.28

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NNDM6905 - Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 9.1, yn cytuno â’r argymhelliad gan Brif Weinidog Cymru i Ei Mawrhydi benodi Jeremy Miles AC yn Gwnsler Cyffredinol.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

31

14

6

51

Derbyniwyd y cynnig.

12.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.36

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: