Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 103(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 28/11/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
y 10 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.17 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant: Gwella Canlyniadau ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.49 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Datgelu a Ganiateir) (Cymru) 2017 NDM6577 Julie James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol
Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau
Casglu a Rheoli Trethi (Datgelu a Ganiateir) (Cymru) 2017 yn cael ei llunio yn
unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Hydref 2017. Dogfennau
Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.41 NDM6577
Julie James (Gorllewin Abertawe) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1.
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Datgelu
a Ganiateir) (Cymru) 2017 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Hydref 2017. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Entrepreneuriaeth: Pwrpas Cenedlaethol NDM6578 Julie James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn cydnabod bod entrepreneuriaeth a mentrau bach a chanolig
yn allweddol i Gymru o safbwynt creu gwell swyddi a chefnogi buddsoddiad a bod
gan Lywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â rhanddeiliaid, swyddogaeth allweddol
o safbwynt creu’r amgylchedd cywir a chefnogi’r seilwaith. Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn rhwydwaith o
ganolbwyntiau entrepreneuraidd ym mhob rhan o Gymru. Yn cynnig defnyddio’r cronfeydd trafodiadau ariannol
newydd a ddyrannwyd i Gymru gan Lywodraeth y DU i greu cronfa fuddsoddi
busnesau bach a chanolig newydd ar gyfer Banc Datblygu Cymru. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu corff arloesi
cenedlaethol penodedig, fel partneriaeth rhwng busnes, llywodraeth a’r byd
academaidd i gynyddu lefelau datblygu o ran cynhyrchion newydd. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.47 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM6578 Julie James (Gorllewin
Abertawe) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn cydnabod bod
entrepreneuriaeth a mentrau bach a chanolig yn allweddol i Gymru o safbwynt
creu gwell swyddi a chefnogi buddsoddiad a bod gan Lywodraeth Cymru, mewn
partneriaeth â rhanddeiliaid, swyddogaeth allweddol o safbwynt creu’r
amgylchedd cywir a chefnogi’r seilwaith. Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Ychwanegu pwyntiau
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i fuddsoddi mewn rhwydwaith o ganolbwyntiau entrepreneuraidd ym mhob rhan
o Gymru. Yn cynnig defnyddio’r
cronfeydd trafodiadau ariannol newydd a ddyrannwyd i Gymru gan Lywodraeth y DU
i greu cronfa fuddsoddi busnesau bach a chanolig newydd ar gyfer Banc Datblygu
Cymru. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i sefydlu corff arloesi cenedlaethol penodedig, fel partneriaeth rhwng
busnes, llywodraeth a’r byd academaidd i gynyddu lefelau datblygu o ran
cynhyrchion newydd. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig: NDM6578 Julie James (Gorllewin
Abertawe) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn cydnabod bod
entrepreneuriaeth a mentrau bach a chanolig yn allweddol i Gymru o safbwynt creu
gwell swyddi a chefnogi buddsoddiad a bod gan Lywodraeth Cymru, mewn
partneriaeth â rhanddeiliaid, swyddogaeth allweddol o safbwynt creu’r
amgylchedd cywir a chefnogi’r seilwaith.
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.37 Am 16.38, cafodd y
trafodion eu hatal dros dro am 10 munud. Cafodd y gloch ei chanu 5 munud cyn
ailgynnull ar gyfer dadl Cyfnod 3 Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau
Cysylltiedig (Cymru). |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Cyfnod 3 Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) Caiff
y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y cafodd yr adrannau a’r atodlenni y maent
yn cyfeirio atynt eu rhestru yn y cynnig o dan Reol Sefydlog 26.36 a gytunwyd
gan y Cynulliad ar 21 Tachwedd 2017. Mae’r
gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl a byddant yn cael eu
trafod fel a ganlyn: 1. Dileu’r
ataliad dros dro presennol ar yr hawl i brynu 5, 14, 9, 11, 1, 3 2. Cyfnod
diddymu 6, 13, 2 3. Gwybodaeth
i denantiaid a darpar denantiaid: gofynion ar Weinidogion Cymru 7, 8 4. Gwybodaeth
i denantiaid a darpar denantiaid: gofynion ar landlordiaid 15, 16 5. Pŵer
drwy reoliadau i wneud diwygiadau canlyniadol 10 6. Y
darpariaethau diddymu yn dod i rym 12, 4 Dogfennau
Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
16.48 Cafodd y gwelliannau eu
gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn
ymddangos yn y cynnig o dan Reol Sefydlog 26.36 fel y cytunwyd gan y Cynulliad
ar 21 Tachwedd 2017. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Gwrthodwyd gwelliant 5. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
Gwrthodwyd gwelliant 6. Ni chynigiwyd gwelliannau 13 a 14. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
Gwrthodwyd gwelliant 7. Gan fod gwelliant 7 wedi’i wrthod, methodd gwelliant 8. Gan fod gwelliant 5 wedi’i wrthod, methodd gwelliant 9. Derbyniwyd gwelliant 15, yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Derbyniwyd gwelliant 16, yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:
Gwrthodwyd gwelliant 10. Gan fod gwelliant 5 wedi’i wrthod, methodd gwelliant 11. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 12:
Gwrthodwyd gwelliant 12. Gan fod gwelliant 5 wedi’i wrthod, methodd gwelliant 1. Gan fod gwelliant 6 wedi’i wrthod, methodd gwelliant 2. Gan fod gwelliant 5 wedi’i wrthod, methodd gwelliant 3. Gan fod gwelliant 12 wedi’i wrthod, methodd gwelliant 4. Barnwyd
bod holl adrannau ac atodlenni’r Bil wedi’u derbyn, gan ddod â thrafodion
Cyfnod 3 i ben. |