Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 96(v5)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 18/10/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cofnod y Trafodion Gweld Cofnod
y Trafodion |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau
i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.16 Gofynnwyd
cwestiynau 1-5 a 7-12. Tynnwyd cwestiwn 6 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr
y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn
i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: Angela Burns
(Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A
wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cynnydd y mae Llywodraeth Cymru
wedi’i wneud o ran cyflwyno ateb tymor hir i’r costau yswiriant meddygol uchel
sy'n wynebu meddygon teulu yng Nghymru? Gofyn
i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon (i’w ateb gan Weinidog
Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol): Simon Thomas
(Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd
y Cabinet ddatganiad am adroddiad diweddar Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau
Cymdeithasol Cymru am ddiogelu plant ym Mhowys? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.03 Gofyn
i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff Ysgrifennydd
y Cabinet ddatganiad am y cynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o ran
cyflwyno ateb tymor hir i’r costau yswiriant meddygol uchel sy'n wynebu
meddygon teulu yng Nghymru? Gofyn
i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon (atebwyd gan
Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol): Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff
Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am adroddiad diweddar Arolygiaeth Gofal a
Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru am ddiogelu plant ym Mhowys? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.29 Gwnaeth
Hefin David ddatganiad ar Gofeb Genedlaethol Lofaol Cymru yn Senghennydd. Gwnaeth
Jeremy Miles ddatganiad ar ganmlwyddiant y Blaid Gydweithredol. Gwnaeth
Bethan Jenkins ddatganiad ar Ddiwrnod Rhyngwladol Undebau Credyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau Dechreuodd yr eitem am 15.34 Cytunwyd
o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod yr eitemau canlynol gyda'i gilydd, ond gyda
phleidleisiau ar wahân. Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynigion o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM6541
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â
Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Neil McEvoy (Annibynnol) yn aelod o’r Pwyllgor
Deisebau. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. NDM6542 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â
Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) yn aelod o’r
Pwyllgor Deisebau. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. NDM6543
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â
Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Adam Price (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon
Cyhoeddus. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau Dechreuodd yr eitem am 15.43 Cytunwyd
o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod yr eitemau canlynol gyda'i gilydd, a
chytunwyd o dan Reol Sefydlog 12.40 i grwpio’r pleidleisiau ar y cynigion. NDM6544
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â
Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Dai Lloyd (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor
Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn lle Sian Gwenllian (Plaid
Cymru). NDM6545
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â
Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Sian Gwenllian (Plaid Cymru) yn aelod o Bwyllgor
Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn lle Dai Lloyd (Plaid Cymru). Derbyniwyd
y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog 26, 26A a 26B mewn perthynas ag Uwch-fwyafrifoedd ar gyfer Biliau'r Cynulliad NDM6535
Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol
Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio Rheolau
Sefydlog: Rheolau Sefydlog 26, 26A a 26B - Uwch-fwyafrifoedd ar gyfer Biliau'r
Cynulliad' a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Hydref 2017; ac 2. Yn cymeradwyo'r cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 26,
26A a 26B, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.43 NDM6535
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig
bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1.
Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheolau
Sefydlog 26, 26A a 26B - Uwch-fwyafrifoedd ar gyfer Biliau'r Cynulliad' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Hydref 2017; ac 2.
Yn cymeradwyo'r cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 26, 26A a 26B, fel y nodir yn
Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) NDM6527
Jenny
Rathbone (Canol Caerdydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod cyflymder y chwyldro mewn technoleg
drafnidiaeth yn herio rhagdybiaethau cynllunio presennol ac yn golygu bod angen
ail-feddwl dylunio a pholisi cyhoeddus yn sylweddol. 2. Yn credu y bydd angen i weithgynhyrchwyr trafnidiaeth
a'u cadwyni cyflenwi addasu neu farw wrth i'r motor tanio gael ei ddiddymu'n
raddol dros yr 20 mlynedd nesaf o ganlyniad i: a) cerbydau heb yrwyr, a fydd yn amharu ar dybiaethau
ynghylch y berchnogaeth breifat o geir, cynllunio trefol, rheoli tagfeydd ar y
ffyrdd a rôl bysiau i gysylltu cymunedau; a b) cerbydau trydan, sy'n golygu bod angen i drydan gael
ei gynhyrchu a'i gyflenwi mewn ffordd fwy gwasgaredig gan gynnwys pwyntiau
trydanu ledled Cymru; 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu'r camau y
mae'n eu cymryd i alinio polisïau â chyflymder y newid a sicrhau bod pob
dinesydd yn cael budd o hyn, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
(Cymru) 2015. 'Deddf
Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015' Cefnogwyd
gan Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.43 NDM6527 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi bod cyflymder y chwyldro mewn technoleg drafnidiaeth yn herio
rhagdybiaethau cynllunio presennol ac yn golygu bod angen ail-feddwl dylunio a
pholisi cyhoeddus yn sylweddol. 2.
Yn credu y bydd angen i weithgynhyrchwyr trafnidiaeth a'u cadwyni cyflenwi
addasu neu farw wrth i'r motor tanio gael ei ddiddymu'n raddol dros yr 20
mlynedd nesaf o ganlyniad i: a)
cerbydau heb yrwyr, a fydd yn amharu ar dybiaethau ynghylch y berchnogaeth
breifat o geir, cynllunio trefol, rheoli tagfeydd ar y ffyrdd a rôl bysiau i
gysylltu cymunedau; a b)
cerbydau trydan, sy'n golygu bod angen i drydan gael ei gynhyrchu a'i gyflenwi
mewn ffordd fwy gwasgaredig gan gynnwys pwyntiau trydanu ledled Cymru; 3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu'r camau y mae'n eu cymryd i alinio
polisïau â chyflymder y newid a sicrhau bod pob dinesydd yn cael budd o hyn, yn
unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM6534
Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) ymestyn cymhwysedd ar gyfer hawlio teithiau bws am ddim
i bob person rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru; a b) ymestyn cymhwysedd ar gyfer breintiau cerdyn
rheilffordd i bob person rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru. Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant
1. Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd economaidd, addysgol a
chymdeithasol helpu pobl ifanc â chostau cludiant cyhoeddus. 2. Yn nodi'r ymgynghoriad a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru
i ddatblygu cynllun Pas Teithio newydd ac uchelgeisiol i Bobl Ifanc sy'n annog
mwy o bobl ifanc i ddefnyddio'r bysiau. 3. Yn cydnabod bod angen costio unrhyw gynigion. 4. Yn nodi pwysigrwydd ymgysylltu'n helaeth â phobl
ifanc, awdurdodau lleol, darparwyr addysg a chwmnïau bysiau i sicrhau bod y
ddarpariaeth, o'i hehangu, yn targedu'r rheini sydd angen yr help fwyaf. 5. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru trwy Trafnidiaeth i
Gymru i annog mwy o bobl ifanc i ddefnyddio rhwydwaith cludiant cynaliadwy,
integredig ac amlfoddol. 'Ymgynghoriad:
Teithiau bws rhatach ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru' Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.32 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6534 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) ymestyn cymhwysedd ar gyfer
hawlio teithiau bws am ddim i bob person rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru; a b) ymestyn cymhwysedd ar gyfer
breintiau cerdyn rheilffordd i bob person rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1. Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd economaidd, addysgol a
chymdeithasol helpu pobl ifanc â chostau cludiant cyhoeddus. 2. Yn nodi'r ymgynghoriad a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru
i ddatblygu cynllun Pas Teithio newydd ac uchelgeisiol i Bobl Ifanc sy'n annog
mwy o bobl ifanc i ddefnyddio'r bysiau. 3. Yn cydnabod bod angen costio unrhyw gynigion. 4. Yn nodi pwysigrwydd ymgysylltu'n helaeth â phobl
ifanc, awdurdodau lleol, darparwyr addysg a chwmnïau bysiau i sicrhau bod y
ddarpariaeth, o'i hehangu, yn targedu'r rheini sydd angen yr help fwyaf. 5. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru trwy Trafnidiaeth i
Gymru i annog mwy o bobl ifanc i ddefnyddio rhwydwaith cludiant cynaliadwy,
integredig ac amlfoddol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd economaidd, addysgol a
chymdeithasol helpu pobl ifanc â chostau cludiant cyhoeddus. 2. Yn nodi'r ymgynghoriad a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru
i ddatblygu cynllun Pas Teithio newydd ac uchelgeisiol i Bobl Ifanc sy'n annog
mwy o bobl ifanc i ddefnyddio'r bysiau. 3. Yn cydnabod bod angen costio unrhyw gynigion. 4. Yn nodi pwysigrwydd ymgysylltu'n helaeth â phobl
ifanc, awdurdodau lleol, darparwyr addysg a chwmnïau bysiau i sicrhau bod y
ddarpariaeth, o'i hehangu, yn targedu'r rheini sydd angen yr help fwyaf. 5. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru trwy Trafnidiaeth i
Gymru i annog mwy o bobl ifanc i ddefnyddio rhwydwaith cludiant cynaliadwy,
integredig ac amlfoddol.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM6536
Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r angen i gryfhau perfformiad economi Gogledd
Cymru. 2. Yn gresynu at danariannu hanesyddol yng ngogledd Cymru
gan Lywodraeth Lafur Cymru. 3. Yn croesawu llwyddiant Plaid Cymru yn sicrhau
buddsoddiad sylweddol ar gyfer gogledd Cymru fel rhan o gytundeb y gyllideb
gyda Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018/19 a 2019/20, gan gynnwys: a) gwell cysylltiadau ffyrdd rhwng y gogledd a'r de; b) cyllid i gefnogi dylunio a datblygu trydydd croesiad
dros y Fenai; c) cyllid i fwrw ymlaen â chanlyniad yr astudiaeth
ddichonoldeb ynghylch creu amgueddfa bêl-droed genedlaethol yng ngogledd Cymru; d) sefydlu cynllun grant ffermwyr ifanc a fydd o fudd i'r
diwydiant amaethyddol yng ngogledd Cymru; e) creu cronfa ddatblygu ar gyfer hyfforddiant meddygol
israddedig yng ngogledd Cymru; f) rhyddhad ardrethi o 100 y cant ar gyfer cynlluniau
ynni dŵr cymunedol, y mae sawl un ohonynt yng ngogledd Cymru; g) cyllid ychwanegol ar gyfer Croeso Cymru a fydd yn hwb
i'r diwydiant twristiaeth yng ngogledd Cymru. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno, fel rhan o'i
strategaeth economaidd hir-ddisgwyliedig, ymdrechion gwirioneddol i fynd i'r
afael ag anghydbwysedd rhanbarthol yn economi Cymru. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1. Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd strategol hanfodol economi'r
Gogledd i Gymru a'r DU. 2. Yn nodi rôl Llywodraeth Cymru fel arweinydd
trawsffiniol i ddatblygu cynigion â phartneriaid ar gyfer Bargen Twf y Gogledd. 3. Yn croesawu'r rhaglen fuddsoddi uchelgeisiol o dan
arweiniad Llywodraeth Cymru yn y rhanbarth, sy'n cynnwys: a) buddsoddi £250m yng nghoridor yr A55/A494; b) £20m i sefydlu Athrofa Ymchwil a Gweithgynhyrchu Uwch; c) £50m ar gyfer Metro'r Gogledd Ddwyrain; a d) cynlluniau ar gyfer trydedd bont dros y Fenai. 4. Yn croesawu cymorth cyllido Llywodraeth Cymru ar gyfer
y diwydiant dur, sy'n helpu i roi dyfodol cynaliadwy i'r gwaith, cymuned a
gweithwyr yn Shotton. 5. Yn nodi cefnogaeth Llywodraeth Cymru i brosiect gwerth
£14 biliwn Wylfa Newydd a gwaith i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn gadael
gwaddol gynaliadwy o swyddi, seilwaith a thai o ansawdd da yn Ynys Môn a'r
Gogledd Orllewin. 6. Yn croesawu'r cytundeb cyllidebol diweddar â Phlaid
Cymru. 7. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i ddod â Cynllun
Gweithredu Economaidd yn ei flaen a all gynnal swyddi a thwf yn y rhanbarth. [Os
derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol] Gwelliant
2. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu pwynt 3. Gwelliant
3. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod dogfen Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd
Cymru, 'Gweledigaeth ar gyfer Twf yr Economi yng Ngogledd Cymru', yn nodi bod
"gogledd Cymru mewn lle da i dderbyn ystod o gyfrifoldebau newydd" ac
yn cymeradwyo ei alwad am ddatganoli pwerau gan Lywodraeth Cymru dros
gyflogaeth, trethi, sgiliau a thrafnidiaeth. 'Bwrdd
Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru - Gweledigaeth ar gyfer Twf yr Economi yng
Ngogledd Cymru' Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.24 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6536 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r angen i gryfhau
perfformiad economi Gogledd Cymru. 2. Yn gresynu at danariannu
hanesyddol yng ngogledd Cymru gan Lywodraeth Lafur Cymru. 3. Yn croesawu llwyddiant Plaid
Cymru yn sicrhau buddsoddiad sylweddol ar gyfer gogledd Cymru fel rhan o
gytundeb y gyllideb gyda Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018/19 a 2019/20, gan
gynnwys: a) gwell cysylltiadau ffyrdd
rhwng y gogledd a'r de; b) cyllid i gefnogi dylunio a
datblygu trydydd croesiad dros y Fenai; c) cyllid i fwrw ymlaen â
chanlyniad yr astudiaeth ddichonoldeb ynghylch creu amgueddfa bêl-droed
genedlaethol yng ngogledd Cymru; d) sefydlu cynllun grant
ffermwyr ifanc a fydd o fudd i'r diwydiant amaethyddol yng ngogledd Cymru; e) creu cronfa ddatblygu ar
gyfer hyfforddiant meddygol israddedig yng ngogledd Cymru; f) rhyddhad ardrethi o 100 y
cant ar gyfer cynlluniau ynni dŵr cymunedol, y mae sawl un ohonynt yng
ngogledd Cymru; g) cyllid ychwanegol ar gyfer
Croeso Cymru a fydd yn hwb i'r diwydiant twristiaeth yng ngogledd Cymru. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gyflwyno, fel rhan o'i strategaeth economaidd hir-ddisgwyliedig, ymdrechion
gwirioneddol i fynd i'r afael ag anghydbwysedd rhanbarthol yn economi Cymru.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd strategol hanfodol economi'r
Gogledd i Gymru a'r DU. 2. Yn nodi rôl Llywodraeth Cymru fel arweinydd
trawsffiniol i ddatblygu cynigion â phartneriaid ar gyfer Bargen Twf y Gogledd. 3. Yn croesawu'r rhaglen fuddsoddi uchelgeisiol o dan
arweiniad Llywodraeth Cymru yn y rhanbarth, sy'n cynnwys: a) buddsoddi £250m yng nghoridor yr A55/A494; b) £20m i sefydlu Athrofa Ymchwil a Gweithgynhyrchu Uwch; c) £50m ar gyfer Metro'r Gogledd Ddwyrain; a d) cynlluniau ar gyfer trydedd bont dros y Fenai. 4. Yn croesawu cymorth cyllido Llywodraeth Cymru ar gyfer
y diwydiant dur, sy'n helpu i roi dyfodol cynaliadwy i'r gwaith, cymuned a
gweithwyr yn Shotton. 5. Yn nodi cefnogaeth Llywodraeth Cymru i brosiect gwerth
£14 biliwn Wylfa Newydd a gwaith i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn gadael
gwaddol gynaliadwy o swyddi, seilwaith a thai o ansawdd da yn Ynys Môn a'r
Gogledd Orllewin. 6. Yn croesawu'r cytundeb cyllidebol diweddar â Phlaid
Cymru. 7. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i ddod â Cynllun
Gweithredu Economaidd yn ei flaen a all gynnal swyddi a thwf yn y rhanbarth. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan
fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Gwelliant 3. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod dogfen Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd
Cymru, 'Gweledigaeth ar gyfer Twf yr Economi yng Ngogledd Cymru', yn nodi bod
"gogledd Cymru mewn lle da i dderbyn ystod o gyfrifoldebau newydd" ac
yn cymeradwyo ei alwad am ddatganoli pwerau gan Lywodraeth Cymru dros
gyflogaeth, trethi, sgiliau a thrafnidiaeth. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd strategol hanfodol economi'r
Gogledd i Gymru a'r DU. 2. Yn nodi rôl Llywodraeth Cymru fel arweinydd
trawsffiniol i ddatblygu cynigion â phartneriaid ar gyfer Bargen Twf y Gogledd. 3. Yn croesawu'r rhaglen fuddsoddi uchelgeisiol o dan
arweiniad Llywodraeth Cymru yn y rhanbarth, sy'n cynnwys: a) buddsoddi £250m yng nghoridor yr A55/A494; b) £20m i sefydlu Athrofa Ymchwil a Gweithgynhyrchu Uwch; c) £50m ar gyfer Metro'r Gogledd Ddwyrain; a d) cynlluniau ar gyfer trydedd bont dros y Fenai. 4. Yn croesawu cymorth cyllido Llywodraeth Cymru ar gyfer
y diwydiant dur, sy'n helpu i roi dyfodol cynaliadwy i'r gwaith, cymuned a
gweithwyr yn Shotton. 5. Yn nodi cefnogaeth Llywodraeth Cymru i brosiect gwerth
£14 biliwn Wylfa Newydd a gwaith i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn gadael
gwaddol gynaliadwy o swyddi, seilwaith a thai o ansawdd da yn Ynys Môn a'r
Gogledd Orllewin. 6. Yn croesawu'r cytundeb cyllidebol diweddar â Phlaid
Cymru. 7. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i ddod â Cynllun
Gweithredu Economaidd yn ei flaen a all gynnal swyddi a thwf yn y rhanbarth. 8. Yn nodi bod dogfen Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd
Cymru, 'Gweledigaeth ar gyfer Twf yr Economi yng Ngogledd Cymru', yn nodi bod
"gogledd Cymru mewn lle da i dderbyn ystod o gyfrifoldebau newydd" ac
yn cymeradwyo ei alwad am ddatganoli pwerau gan Lywodraeth Cymru dros
gyflogaeth, trethi, sgiliau a thrafnidiaeth.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.20 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6533
Bethan
Jenkins (Gorllewin De Cymru) Diogelu a hawliau cleifion yn y GIG yng Nghymru -
cynorthwyo'r dioddefwr Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.25 NDM6533
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru) Diogelu
a hawliau cleifion yn y GIG yng Nghymru - cynorthwyo'r dioddefwr |