NDM6527 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NDM6527 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NDM6527
Jenny
Rathbone (Canol Caerdydd)
Suzy
Davies (Gorllewin De Cymru)
Dafydd
Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Dai
Lloyd (Gorllewin De Cymru)
David
Melding (Canol De Cymru)
Eluned
Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod cyflymder y chwyldro mewn technoleg
drafnidiaeth yn herio rhagdybiaethau cynllunio presennol ac yn golygu bod angen
ail-feddwl dylunio a pholisi cyhoeddus yn sylweddol.
2. Yn credu y bydd angen i weithgynhyrchwyr trafnidiaeth
a'u cadwyni cyflenwi addasu neu farw wrth i'r motor tanio gael ei ddiddymu'n
raddol dros yr 20 mlynedd nesaf o ganlyniad i:
a) cerbydau heb yrwyr, a fydd yn amharu ar dybiaethau
ynghylch y berchnogaeth breifat o geir, cynllunio trefol, rheoli tagfeydd ar y
ffyrdd a rôl bysiau i gysylltu cymunedau; a
b) cerbydau trydan, sy'n golygu bod angen i drydan gael
ei gynhyrchu a'i gyflenwi mewn ffordd fwy gwasgaredig gan gynnwys pwyntiau
trydanu ledled Cymru;
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu'r camau y
mae'n eu cymryd i alinio polisïau â chyflymder y newid a sicrhau bod pob
dinesydd yn cael budd o hyn, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
(Cymru) 2015.
'Deddf
Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015'
Cefnogwyd
gan
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 12/10/2017
Angen Penderfyniad: 18 Hyd 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd