Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 90(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 27/09/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cofnod y Trafodion Gweld
Cofnod
y Trafodion |
||||||||||||||||||||||||||
Datganiad y Dirprwy Lywydd Croesawodd
y Dirprwy Lywydd Lefarydd a Chlerc Cynulliad Deddfwriaethol New Brunswick,
Canada, oedd yn ymweld â'r Cynulliad. |
||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol Bydd
y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i
Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 13.30 Gofynnwyd y 9
cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i
Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Ni
chyflwynwyd unrhyw gwestiynau. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.22 Ni
chyflwynwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||||||||||||||
(20 muned) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i Ysgrifennydd y
Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith Andrew RT Davies
(Canol De Cymru):
Yn sgil penderfyniad Transport for London i ddirymu trwydded gweithredwr hurio
preifat Uber, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu safbwynt Llywodraeth
Cymru ar bresenoldeb y cwmni yng Nghymru? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.22 Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r
Seilwaith Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Yn sgil penderfyniad Transport for London i ddirymu
trwydded gweithredwr hurio preifat Uber, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet
amlinellu safbwynt Llywodraeth Cymru ar bresenoldeb y cwmni yng Nghymru? |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 14.25 Gwnaeth
Mike Hedges ddatganiad i longyfarch y Tabernacl, Treforys, am gael ei enwi yn
gapel neu eglwys mwyaf poblogaidd Cymru. Gwnaeth
Russell George ddatganiad i nodi 750 mlynedd ers arwyddo Cytundeb Sir
Drefaldwyn, arwyddwyd ar 29 Medi 1267. Gwnaeth
Vikki Howells ddatganiad ar agor siop newydd Co-op yn Nghwmbach, lle agorwyd y
siop Co-op gynaliadwy gyntaf yn 1860. |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 26 mewn perthynas â Biliau Pwyllgorau NDM6512 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig
bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1.
Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol
Sefydlog 26 – Biliau Pwyllgor' a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Medi 2017. 2. Yn cymeradwyo'r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 26, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.30 NDM6512
Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig
bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1.
Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol
Sefydlog 26 – Biliau Pwyllgor' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar
20 Medi 2017. 2.
Yn cymeradwyo'r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 26, fel y nodir yn Atodiad B i
Adroddiad y Pwyllgor Busnes. Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog 11, 12 a 13 mewn perthynas â Deddf Cymru 2017 ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru NDM6511 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig
bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1.
Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheolau
Sefydlog 11, 12 a 13 – Deddf Cymru 2017 ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru' a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Medi 2017. 2.
Yn cymeradwyo'r cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 11, 12 a 13, fel y nodir yn
Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.31 NDM6511 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod y
Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried
Adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog 11, 12
a 13 – Deddf Cymru 2017 ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Medi 2017. 2. Yn cymeradwyo'r
cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 11, 12 a 13, fel y nodir yn Atodiad B i
Adroddiad y Pwyllgor Busnes. Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad 01-17 i'r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 22.9 NDM6508 Jayne Bryant
(Gorllewin Casnewydd) Yn
cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: a)
yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 01-17 - a osodwyd
gerbron y Cynulliad ar 3 Awst 2017 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9; ac b)
yn cymeradwyo'r argymhelliad yn yr adroddiad. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.31 NDM6508 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd) Yn cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: a) yn ystyried
Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 01-17 - a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 3 Awst 2017 yn
unol â Rheol Sefydlog 22.9; ac b) yn cymeradwyo'r
argymhelliad yn yr adroddiad. Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Ar y trywydd iawn? Masnachfraint y Rheilffyrdd a Metro De Cymru NDM6510 Russell
George (Sir Drefaldwyn) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Nodi
adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei Ymchwiliad i'r Fasnachfraint
Rheilffyrdd a Metro De Cymru a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Mehefin 2017. Dogfen ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.34 NDM6510
Russell George (Sir Drefaldwyn) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Nodi
adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei Ymchwiliad i'r
Fasnachfraint Rheilffyrdd a Metro De Cymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Mehefin 2017. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar ei ymchwiliad i ddyfodol polisi rhanbarthol - beth nesaf i Gymru? NDM6514 David
Rees (Aberafan) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar ei 'Ymchwiliad
i ddyfodol polisi rhanbarthol - beth nesaf i Gymru?' a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Mehefin 2017. Nodyn:
Gosodwyd
yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 20 Medi 2017. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.35 NDM6514
David Rees (Aberafan) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar ei
'Ymchwiliad i ddyfodol polisi rhanbarthol - beth nesaf i Gymru?' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Mehefin 2017. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM6513 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, 'Ffyniant i bawb'. 2.
Yn gresynu at y diffyg manylion yn y ddogfen a'r diffyg targedau penodol ar
gyfer y Llywodraeth o dan arweiniad Llafur yn ystod y pumed Cynulliad. 3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu targedau penodol a mesuradwy iddi eu
cyflawni erbyn 2021 sy'n ymwneud â'r economi, y system addysg a'r gwasanaeth
iechyd. 'Ffyniant
i bawb – y strategaeth genedlaethol' Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn: Gwelliant 1. Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Dileu
pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle: 2.
Yn nodi bod y strategaeth genedlaethol newydd yn ategu'r addewidion
uchelgeisiol a nodwyd eisoes yn Symud Cymru Ymlaen, gan gynnwys sefydlu Cronfa
Triniaethau Newydd a chynyddu gwariant ar safonau ysgolion. 3.
Yn cydnabod bod angen i'r llywodraeth a phob partner cyflenwi yng Nghymru
weithio'n well, ac ar draws strwythurau presennol, i ddarparu'r gwasanaethau
gorau posibl yn wyneb agenda parhaus o doriadau niweidiol gan Lywodraeth y DU. [Os derbynnir gwelliant 1,
caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol] Gwelliant 2. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu
pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny: Yn
gresynu bod Cymru, ers 1999, wedi disgyn ar ei hôl hi o ran cynhyrchiant
economaidd, cyflogau ac incwm y cartref o'i gymharu â'r Deyrnas Unedig yn ei
chyfanrwydd. Gwelliant 3. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu
pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny: Yn
gresynu at oedi parhaus Llywodraeth Cymru yn y broses o gyhoeddi ei strategaeth
economaidd a'i methiant i ymgynghori â'r gymuned fusnes a rhanddeiliaid eraill
ar ei chynnwys. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.13 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6513 Paul Davies
(Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi strategaeth
genedlaethol Llywodraeth Cymru, 'Ffyniant i bawb'. 2. Yn gresynu at y diffyg
manylion yn y ddogfen a'r diffyg targedau penodol ar gyfer y Llywodraeth o dan
arweiniad Llafur yn ystod y pumed Cynulliad. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i amlinellu targedau penodol a mesuradwy iddi eu cyflawni erbyn 2021 sy'n
ymwneud â'r economi, y system addysg a'r gwasanaeth iechyd.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle: 2. Yn nodi bod y strategaeth genedlaethol newydd yn
ategu'r addewidion uchelgeisiol a nodwyd eisoes yn Symud Cymru Ymlaen, gan
gynnwys sefydlu Cronfa Triniaethau Newydd a chynyddu gwariant ar safonau
ysgolion. 3. Yn cydnabod bod angen i'r llywodraeth a phob partner
cyflenwi yng Nghymru weithio'n well, ac ar draws strwythurau presennol, i
ddarparu'r gwasanaethau gorau posibl yn wyneb agenda parhaus o doriadau
niweidiol gan Lywodraeth y DU. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2
a 3 eu dad-ddethol. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: 1. Yn nodi strategaeth genedlaethol
Llywodraeth Cymru, 'Ffyniant i bawb'. 2. Yn nodi bod y strategaeth genedlaethol newydd yn
ategu'r addewidion uchelgeisiol a nodwyd eisoes yn Symud Cymru Ymlaen, gan
gynnwys sefydlu Cronfa Triniaethau Newydd a chynyddu gwariant ar safonau
ysgolion. 3. Yn cydnabod bod angen i'r llywodraeth a phob partner
cyflenwi yng Nghymru weithio'n well, ac ar draws strwythurau presennol, i
ddarparu'r gwasanaethau gorau posibl yn wyneb agenda parhaus o doriadau
niweidiol gan Lywodraeth y DU.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 17.07 |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6515 Joyce
Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Dŵr
ffo o'r mynydd ac ar ein ffyrdd – a all Cymru atal problem gorlifo sydyn? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
17.09 NDM6515 Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Dŵr ffo o'r
mynydd ac ar ein ffyrdd – a all Cymru atal problem gorlifo sydyn? |