Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 20 Medi 2017 i’w hateb ar 27 Medi 2017

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.

W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi cael ei gyflwyno yn Gymraeg.

 

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Bydd y Llywydd yn galw Llefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

1. Huw Irranca–Davies (Ogwr): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet egluro sut y mae'n bwriadu asesu gweithrediad y cod ymarfer ar gyfer cyflogaeth moesegol mewn cadwyni cyflenwi yn y sector cyhoeddus yng Nghymru? (OAQ51064) 

 

2. Russell George (Sir Drefaldwyn): Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i rhoi i sefydlu bargen twf i ganolbarth Cymru? (OAQ51067)

 

3. Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyllid llywodraeth leol ar gyfer 2018/19? (OAQ51076)

 

4. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro effeithiolrwydd gwariant ar draws ei chyllideb? (OAQ51058)

 

 

5. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyflawni gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru? (OAQ51056)

 

6. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am egwyddorion buddsoddi i arbed? (OAQ51070)W

 

7. Neil McEvoy (Canol De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyhoeddi cynigion cyllideb Llywodraeth Cymru? (OAQ51073)

 

8. David Rees (Aberafan): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus o fewn llywodraeth leol? (OAQ51075)

 

9. Jeremy Miles (Castell-nedd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y bydd Castell-nedd yn elwa oherwydd bargen ddinesig Bae Abertawe? (OAQ51068)

 

 

10. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer llywodraeth leol yn Nhor-faen dros y 12 mis nesaf? (OAQ51071) 

 

 

11. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddefnyddio cronfeydd yr Undeb Ewropeaidd yng Nghymru yn y dyfodol? (OAQ51060)

 

12. Gareth Bennett (Canol De Cymru): Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o gynghorau Cymru yn allanoli gwasanaethau lleol i'r sector preifat? (OAQ51072)

 

13. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y setliad ariannol a roddir i awdurdodau lleol? (OAQ51069)W

 

14. Nathan Gill (Gogledd Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa bwerau ariannol a gaiff eu datganoli i awdurdodau lleol yng Ngogledd Cymru? (OAQ51065)

 

 

15. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau menter cyllid preifat o fewn gwasanaethau cyhoeddus Cymru? (OAQ51059)