NDM6513 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM6513 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, 'Ffyniant i bawb'.
2.
Yn gresynu at y diffyg manylion yn y ddogfen a'r diffyg targedau penodol ar
gyfer y Llywodraeth o dan arweiniad Llafur yn ystod y pumed Cynulliad.
3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu targedau penodol a mesuradwy iddi eu
cyflawni erbyn 2021 sy'n ymwneud â'r economi, y system addysg a'r gwasanaeth
iechyd.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 21/09/2017