Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 79(v5)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 27/06/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cofnod y Trafodion Gweld Cofnod
y Trafodion |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar
Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl
Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynnig am Ddadl Frys o dan Reol Sefydlog 12.69 Dechreuodd
yr eitem am 14.17 Carwyn
Jones: Cytundeb ‘Hyder a Chyflenwi’ Llywodraeth y DU
a Phlaid yr Unoliaethwyr Democrataidd (y DUP) Derbyniwyd y cynnig i gynnal dadl frys o dan
Reol Sefydlog 12.69, ar gytundeb ‘Hyder a Chyflenwi’ Llywodraeth y DU a Phlaid
yr Unoliaethwyr Democrataidd (y DUP), yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyhoeddodd y Llywydd y byddai’r ddadl yn cael ei chynnal cyn y cyfnod
pleidleisio. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.19 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(90 muned) |
Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Lywodraethu Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.43 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith: Polisi a Deddfwriaeth yr Amgylchedd Hanesyddol - Gohiriwyd i 4 Gorffennaf 2017 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: Diweddariad ar Wasanaeth Braenaru 111 y GIG yng Nghymru - Gohiriwyd i 4 Gorffennaf 2017 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith: Cylchffordd Cymru Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.52 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Datgarboneiddio yn y Sector Cyhoeddus NDM6339 Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi arweiniad Llywodraeth Cymru o safbwynt rhoi ar waith gamau gweithredu i
ddatgarboneiddio sector cyhoeddus Cymru, a hynny'n unol â'i hymrwymiadau
statudol o fewn Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. 2.
Yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru o gyflymu'r gwaith o ddatgarboneiddio'r sector
cyhoeddus er mwyn rhoi hwb pellach i'r economi carbon isel. 3.
Yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru o sicrhau bod sector cyhoeddus Cymru'n
garbon niwtral erbyn 2030. 4.
Yn nodi'r cais am dystiolaeth sydd ar y gweill a fydd yn ceisio sylwadau
ynghylch y dull ar gyfer datgarboneiddio'r sector cyhoeddus. 'Deddf
yr Amgylchedd (Cymru) 2016' Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1.
Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu
pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn
gresynu mai araf yw'r cynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yn ei
hymdrechion i bennu Cyllideb Garbon ar gyfer 2016-2020. Gwelliant 2.
Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu
pwynt 4 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn
credu bod angen i'r darpariaethau yn Neddf Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 sy'n
ymwneud â datblygu cynaliadwy gael mwy o ddylanwad dros Lywodraeth Cymru o ran
pennu ei chyllideb ei hun. Gwelliant 3.
Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cwmni ynni cenedlaethol di-ddifidend, hyd
braich oddi wrth Lywodraeth Cymru, gyda'r diben o gynyddu effeithlonrwydd ynni
a chynhyrchu trydan adnewyddadwy yn y sector cyhoeddus fel rhan o'i gylch
gwaith. Gwelliant 4.
Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys mesurau i leihau llygredd aer fel rhan o'i
ffordd o ddatgarboneiddio yn y sector cyhoeddus. Gwelliant 5.
Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i roi cymorth i'r sector cyhoeddus i ddarparu pwyntiau
gwefru trydan ar gyfer cerbydau ar safle at ddefnydd cyflogeion ac ymwelwyr. Gwelliant 6.
Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i roi cymorth i gyrff cyhoeddus i ddatgarboneiddio
trafnidiaeth drwy ddefnyddio cerbydau hydrogen ac LPG a dyfeisiadau arloesol
tebyg. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
16.34 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. NDM6339 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi arweiniad Llywodraeth Cymru o
safbwynt rhoi ar waith gamau gweithredu i ddatgarboneiddio sector cyhoeddus
Cymru, a hynny'n unol â'i hymrwymiadau statudol o fewn Deddf yr Amgylchedd
(Cymru) 2016. 2. Yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru o gyflymu'r
gwaith o ddatgarboneiddio'r sector cyhoeddus er mwyn rhoi hwb pellach i'r
economi carbon isel. 3. Yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru o
sicrhau bod sector cyhoeddus Cymru'n garbon niwtral erbyn 2030. 4. Yn nodi'r cais am dystiolaeth sydd ar y
gweill a fydd yn ceisio sylwadau ynghylch y dull ar gyfer datgarboneiddio'r
sector cyhoeddus. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â
hynny: Yn gresynu mai araf yw'r cynnydd y mae
Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yn ei hymdrechion i bennu Cyllideb Garbon ar
gyfer 2016-2020. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt 4 newydd ac ailrifo yn unol â
hynny: Yn credu bod angen i'r darpariaethau yn Neddf Llesiant
Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 sy'n ymwneud â datblygu cynaliadwy gael mwy o
ddylanwad dros Lywodraeth Cymru o ran pennu ei chyllideb ei hun. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant 3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cwmni ynni
cenedlaethol di-ddifidend, hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru, gyda'r diben
o gynyddu effeithlonrwydd ynni a chynhyrchu trydan adnewyddadwy yn y sector
cyhoeddus fel rhan o'i gylch gwaith. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Gwelliant 4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys mesurau i
leihau llygredd aer fel rhan o'i ffordd o ddatgarboneiddio yn y sector
cyhoeddus. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Gwelliant 5. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cymorth i'r
sector cyhoeddus i ddarparu pwyntiau gwefru trydan ar gyfer cerbydau ar safle
at ddefnydd cyflogeion ac ymwelwyr. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Derbyniwyd gwelliant 5. Gwelliant 6. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cymorth i
gyrff cyhoeddus i ddatgarboneiddio trafnidiaeth drwy ddefnyddio cerbydau
hydrogen ac LPG a dyfeisiadau arloesol tebyg Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
Derbyniwyd gwelliant 6. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM6339 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi arweiniad Llywodraeth Cymru o
safbwynt rhoi ar waith gamau gweithredu i ddatgarboneiddio sector cyhoeddus
Cymru, a hynny'n unol â'i hymrwymiadau statudol o fewn Deddf yr Amgylchedd
(Cymru) 2016. 2. Yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru o gyflymu'r
gwaith o ddatgarboneiddio'r sector cyhoeddus er mwyn rhoi hwb pellach i'r
economi carbon isel. 3. Yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru o
sicrhau bod sector cyhoeddus Cymru'n garbon niwtral erbyn 2030. 4. Yn nodi'r cais am dystiolaeth sydd ar y
gweill a fydd yn ceisio sylwadau ynghylch y dull ar gyfer datgarboneiddio'r
sector cyhoeddus. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys mesurau
i leihau llygredd aer fel rhan o'i ffordd o ddatgarboneiddio yn y sector
cyhoeddus. 6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cymorth i'r
sector cyhoeddus i ddarparu pwyntiau gwefru trydan ar gyfer cerbydau ar safle
at ddefnydd cyflogeion ac ymwelwyr. 7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cymorth i
gyrff cyhoeddus i ddatgarboneiddio trafnidiaeth drwy ddefnyddio cerbydau
hydrogen ac LPG a dyfeisiadau arloesol tebyg.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i
ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Dadl: Cyfnod 4 y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) NDM6351 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd) Yn cymeradwyo'r Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru). Dogfennau
Ategol Bil
Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
17.15 NDM6351 Mark
Drakeford (Gorllewin Caerdydd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47: Yn cymeradwyo'r Bil Treth
Gwarediadau Tirlenwi (Cymru). Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Frys Cytundeb
‘Hyder a Chyflenwi’ Llywodraeth y DU a Phlaid yr Unoliaethwyr Democrataidd (y
DUP) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.28 Carwyn Jones: Cytundeb ‘Hyder a
Chyflenwi’ Llywodraeth y DU a Phlaid yr Unoliaethwyr Democrataidd (y DUP) |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 18.34 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |