Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 56(v2)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 08/03/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cofnod y Trafodion Gweld Cofnod
y Trafodion |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Bydd y Llywydd yn galw
ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar
ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn
2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant Bydd y Llywydd yn galw
ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar
ôl cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.15 Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn
2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.01 Gwnaeth Julie Morgan ddatganiad ar Ddiwrnod Rhyngwladol y
Menywod. Gwnaeth Russell George ddatganiad ar Janos Arany a
ysgrifennodd y gerdd Beirdd Cymru. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 23 mewn perthynas â Deisebau'r Cyhoedd NDM6250 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol
Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio
Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 23 – Deisebau'r Cyhoedd' a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Chwefror 2017; a 2. Yn cymeradwyo'r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 23,
fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.04 NDM6250 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol
Sefydlog 23 – Deisebau'r Cyhoedd' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Chwefror 2017; a 2. Yn cymeradwyo'r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 23, fel y nodir yn
Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) NDM6210 Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1 Yn nodi bod tua 40 y cant o'r gweithlu sy'n cael eu
cyflogi yn yr 'Economi Sylfaenol' yn cyflenwi nwyddau a gwasanaethau hanfodol
fel seilwaith; cyfleustodau; prosesu bwyd, manwerthu a dosbarthu; ac iechyd,
addysg a gofal. 2 Yn cydnabod bod y sectorau hyn yn aml yn fwy abl i
wrthsefyll ergydion economaidd allanol a bod ganddynt gryn botensial i sicrhau
mwy o werth lleol o ddarparu nwyddau a gwasanaethau lleol. 3 Yn gresynu fod llawer o'r sectorau o fewn yr Economi
Sylfaenol yn nodedig am swyddi â thâl isel ac ansicrwydd. 4 Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth i
wneud yn fawr o effaith yr 'Economi Sylfaenol' ledled Cymru fel rhan o'i gwaith
ar ddatblygu strategaeth economaidd newydd, gan gynnwys mesurau i wella amodau
cyflogaeth yn y sectorau hynny. Cefnogir gan: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.04 NDM6210 Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1 Yn nodi bod tua 40 y
cant o'r gweithlu sy'n cael eu cyflogi yn yr 'Economi Sylfaenol' yn cyflenwi
nwyddau a gwasanaethau hanfodol fel seilwaith; cyfleustodau; prosesu bwyd,
manwerthu a dosbarthu; ac iechyd, addysg a gofal. 2 Yn cydnabod bod y
sectorau hyn yn aml yn fwy abl i wrthsefyll ergydion economaidd allanol a bod
ganddynt gryn botensial i sicrhau mwy o werth lleol o ddarparu nwyddau a
gwasanaethau lleol. 3 Yn gresynu fod llawer
o'r sectorau o fewn yr Economi Sylfaenol yn nodedig am swyddi â thâl isel ac
ansicrwydd. 4 Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ddatblygu strategaeth i wneud yn fawr o effaith yr 'Economi Sylfaenol'
ledled Cymru fel rhan o'i gwaith ar ddatblygu strategaeth economaidd newydd,
gan gynnwys mesurau i wella amodau cyflogaeth yn y sectorau hynny. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM6251 Paul Davies
(Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod bod sicrwydd o gartref, gofal iechyd,
addysg a bod yn ddiogel gartref, yn ddiogel yn yr ysgol ac yn ddiogel yn y
gymuned yn adeiladu seiliau cryf ar gyfer datblygiad iach pob plentyn; 2. Yn nodi pwysigrwydd gweledigaeth hirdymor ar gyfer
iechyd plant, sy'n hyrwyddo iechyd a lles o'r crud. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella'r broses o gasglu
data a'r ddealltwriaeth o iechyd plant yng Nghymru drwy: a) ehangu arolygon profiadau canser i gasglu data ar
gyfer plant o dan 16 oed; b) cynnal gwaith ymchwil i fwlio gan gyfoedion; ac c) ailwerthuso cymorth iechyd meddwl amenedigol er mwyn
sicrhau cysondeb ledled Cymru ar gyfer teuluoedd sy'n agored i niwed. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 1: 'ac yn gresynu at effaith toriadau i fudd-daliadau tai ar
allu tai cymdeithasol i ddarparu sicrwydd o gartref i blant.' Gwelliant 2. Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 2: 'a pharhau â chymorth addas ar gyfer iechyd corfforol ac
iechyd meddwl wrth i blentyn dyfu.' Gwelliant 3. Jane Hutt
(Bro Morgannwg): Dileu pwynt 3c) a rhoi yn ei le: 'monitro cynnydd y cymorth iechyd meddwl amenedigol
newydd er mwyn sicrhau cysondeb ledled Cymru ar gyfer teuluoedd sy'n agored i
niwed.' Gwelliant 4. Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn) Ar ddiwedd pwynt 3, ychwanegu is-bwyntiau newydd: 'ystyried sut y gall ysgolion helpu i greu amgylcheddau i
fynd i'r afael â gordewdra; sicrhau y gall pob ysgol gynnig cyfleusterau ardderchog
ar gyfer chwaraeon.' Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.07 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6251 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod bod sicrwydd o gartref, gofal iechyd, addysg a bod yn
ddiogel gartref, yn ddiogel yn yr ysgol ac yn ddiogel yn y gymuned yn adeiladu
seiliau cryf ar gyfer datblygiad iach pob plentyn; 2. Yn nodi pwysigrwydd gweledigaeth hirdymor ar gyfer iechyd plant, sy'n
hyrwyddo iechyd a lles o'r crud. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella'r broses o gasglu data a'r
ddealltwriaeth o iechyd plant yng Nghymru drwy: a) ehangu arolygon profiadau canser i gasglu data ar gyfer plant o dan 16
oed; b) cynnal gwaith ymchwil i fwlio gan gyfoedion; ac c) ailwerthuso cymorth iechyd meddwl amenedigol er mwyn sicrhau cysondeb
ledled Cymru ar gyfer teuluoedd sy'n agored i niwed.
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 1: 'ac yn gresynu at effaith toriadau i fudd-daliadau tai ar allu tai
cymdeithasol i ddarparu sicrwydd o gartref i blant.' Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2. Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 2: 'a pharhau â chymorth addas ar gyfer iechyd corfforol ac iechyd meddwl wrth
i blentyn dyfu.' Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gwelliant 3. Jane Hutt (Bro Morgannwg): Dileu pwynt 3c) a rhoi yn ei le: 'monitro cynnydd y cymorth iechyd meddwl amenedigol newydd er mwyn sicrhau cysondeb
ledled Cymru ar gyfer teuluoedd sy'n agored i niwed.' Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Gwelliant 4. Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn) Ar ddiwedd pwynt 3, ychwanegu is-bwyntiau newydd: 'ystyried sut y gall ysgolion helpu i greu amgylcheddau i fynd i'r afael â
gordewdra; sicrhau y gall pob ysgol gynnig cyfleusterau ardderchog ar gyfer
chwaraeon.' Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM6251 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod bod sicrwydd o gartref, gofal iechyd, addysg a bod yn
ddiogel gartref, yn ddiogel yn yr ysgol ac yn ddiogel yn y gymuned yn adeiladu
seiliau cryf ar gyfer datblygiad iach pob plentyn ac yn gresynu at effaith
toriadau i fudd-daliadau tai ar allu tai cymdeithasol i ddarparu sicrwydd o
gartref i blant; 2. Yn nodi pwysigrwydd gweledigaeth hirdymor ar gyfer iechyd plant, sy'n
hyrwyddo iechyd a lles o'r crud a pharhau â chymorth addas ar gyfer iechyd
corfforol ac iechyd meddwl wrth i blentyn dyfu. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella'r broses o gasglu data a'r
ddealltwriaeth o iechyd plant yng Nghymru drwy: a) ehangu arolygon profiadau canser i gasglu data ar gyfer plant o dan 16
oed; b) cynnal gwaith ymchwil i fwlio gan gyfoedion; c) monitro cynnydd y cymorth iechyd meddwl amenedigol newydd er mwyn
sicrhau cysondeb ledled Cymru ar gyfer teuluoedd sy'n agored i niwed. d) ystyried sut y gall ysgolion helpu i greu amgylcheddau i fynd i'r afael
â gordewdra; ac e) sicrhau y gall pob ysgol gynnig cyfleusterau ardderchog ar gyfer
chwaraeon.
Derbyniwyd y cynnig
wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM6252 Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn) Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu effaith ei
phenderfyniad i dorri cyllid Cronfa'r Teulu, a naill ai gwyrdroi'r toriadau i
Gronfa'r Teulu, neu sefydlu dull o ddarparu cymorth ariannol uniongyrchol i
deuluoedd incwm isel sydd â phlant anabl i o leiaf y lefelau isaf a ddarperid
yn flaenorol. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Jane Hutt
(Bro Morgannwg): Dileu popeth a rhoi yn ei le: 1. Yn nodi'r cyllid canlynol gan Lywodraeth Cymru: a) cynllun grant Gwasanaethau Cymdeithasol
Cynaliadwy, sy'n werth £22m, i helpu cyrff y trydydd sector i gyflawni agenda
uchelgeisiol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, sy'n cynnwys
cynorthwyo teuluoedd sy'n magu plant anabl neu ddifrifol wael. b) rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf sy'n werth £42.5m, gan
gynnwys £3m o gyllid wedi'i glustnodi ar gyfer teuluoedd anabl. c) £2.2m o gyllid bob blwyddyn i Gyngor ar Bopeth Cymru i
gynorthwyo grwpiau a dargedir, gan gynnwys teuluoedd â phlant anabl, a'u helpu
i gael gafael ar y budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt. Mae hyn wedi
arwain at gyfanswm o £3.3m o fudd-daliadau ychwanegol rhwng mis Ebrill a mis
Rhagfyr 2016. 2. Yn cydnabod bod Cronfa'r Teulu wedi cael uchafswm y
grant sydd ar gael, sef £1.5m, ynghyd â chyllid ychwanegol o £400,000 eleni, i
barhau i gynorthwyo teuluoedd ac i addasu ei model ariannu at y dyfodol. 3. Yn croesawu'r effaith gadarnhaol y mae'r Ddeddf
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) wedi'i chael o ran cryfhau hawliau
gofalwyr a'r cymorth a roddir iddynt, gan gynnwys y rhai sy'n gofalu am blant
anabl neu ddifrifol wael." Deddf
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 Gwelliant 2. Paul Davies
(Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, Llywodraeth yr
Alban a Llywodraeth y DU, mewn perthynas â Lloegr, i gyd wedi cynnal eu cyllid
i Gronfa'r Teulu. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.58 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6252 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu effaith ei phenderfyniad i dorri
cyllid Cronfa'r Teulu, a naill ai gwyrdroi'r toriadau i Gronfa'r Teulu, neu
sefydlu dull o ddarparu cymorth ariannol uniongyrchol i deuluoedd incwm isel
sydd â phlant anabl i o leiaf y lefelau isaf a ddarperid yn flaenorol.
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Jane
Hutt (Bro Morgannwg): Dileu popeth a rhoi yn ei le: 1. Yn nodi'r cyllid canlynol gan Lywodraeth Cymru: a) cynllun grant Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy, sy'n werth
£22m, i helpu cyrff y trydydd sector i gyflawni agenda uchelgeisiol Llywodraeth
Cymru ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, sy'n cynnwys cynorthwyo teuluoedd
sy'n magu plant anabl neu ddifrifol wael. b) rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf sy'n werth £42.5m, gan gynnwys £3m o gyllid
wedi'i glustnodi ar gyfer teuluoedd anabl. c) £2.2m o gyllid bob blwyddyn i Gyngor ar Bopeth Cymru i gynorthwyo
grwpiau a dargedir, gan gynnwys teuluoedd â phlant anabl, a'u helpu i gael
gafael ar y budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt. Mae hyn wedi arwain at
gyfanswm o £3.3m o fudd-daliadau ychwanegol rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr
2016. 2. Yn cydnabod bod Cronfa'r Teulu wedi cael uchafswm y grant sydd ar gael,
sef £1.5m, ynghyd â chyllid ychwanegol o £400,000 eleni, i barhau i gynorthwyo
teuluoedd ac i addasu ei model ariannu at y dyfodol. 3. Yn croesawu'r effaith gadarnhaol y mae'r Ddeddf Gwasanaethau
Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) wedi'i chael o ran cryfhau hawliau gofalwyr a'r
cymorth a roddir iddynt, gan gynnwys y rhai sy'n gofalu am blant anabl neu
ddifrifol wael. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, Llywodraeth yr Alban a
Llywodraeth y DU, mewn perthynas â Lloegr, i gyd wedi cynnal eu cyllid i
Gronfa'r Teulu. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM6252 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) 1. Yn nodi'r cyllid canlynol gan Lywodraeth Cymru: a) cynllun grant Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy, sy'n werth £22m, i
helpu cyrff y trydydd sector i gyflawni agenda uchelgeisiol Llywodraeth Cymru
ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, sy'n cynnwys cynorthwyo teuluoedd sy'n magu
plant anabl neu ddifrifol wael. b) rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf sy'n werth £42.5m, gan gynnwys £3m o gyllid
wedi'i glustnodi ar gyfer teuluoedd anabl. c) £2.2m o gyllid bob blwyddyn i Gyngor ar Bopeth Cymru i gynorthwyo
grwpiau a dargedir, gan gynnwys teuluoedd â phlant anabl, a'u helpu i gael
gafael ar y budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt. Mae hyn wedi arwain at
gyfanswm o £3.3m o fudd-daliadau ychwanegol rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr
2016. 2. Yn cydnabod bod Cronfa'r Teulu wedi cael uchafswm y grant sydd ar gael,
sef £1.5m, ynghyd â chyllid ychwanegol o £400,000 eleni, i barhau i gynorthwyo
teuluoedd ac i addasu ei model ariannu at y dyfodol. 3. Yn croesawu'r effaith gadarnhaol y mae'r Ddeddf Gwasanaethau
Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) wedi'i chael o ran cryfhau hawliau gofalwyr a'r
cymorth a roddir iddynt, gan gynnwys y rhai sy'n gofalu am blant anabl neu
ddifrifol wael." 4. Yn nodi bod Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, Llywodraeth yr Alban a
Llywodraeth y DU, mewn perthynas â Lloegr, i gyd wedi cynnal eu cyllid i
Gronfa'r Teulu.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.49 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6248 Neil
McEvoy (Canol De Cymru) Sefydlu Cyfnewidfa Stoc i Gymru Cofnodion: |