NDM6210 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NDM6210
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1 Yn nodi bod tua 40 y cant o'r gweithlu sy'n cael eu
cyflogi yn yr 'Economi Sylfaenol' yn cyflenwi nwyddau a gwasanaethau hanfodol
fel seilwaith; cyfleustodau; prosesu bwyd, manwerthu a dosbarthu; ac iechyd,
addysg a gofal.
2 Yn cydnabod bod y sectorau hyn yn aml yn fwy abl i
wrthsefyll ergydion economaidd allanol a bod ganddynt gryn botensial i sicrhau
mwy o werth lleol o ddarparu nwyddau a gwasanaethau lleol.
3 Yn gresynu fod llawer o'r sectorau o fewn yr Economi
Sylfaenol yn nodedig am swyddi â thâl isel ac ansicrwydd.
4 Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth i
wneud yn fawr o effaith yr 'Economi Sylfaenol' ledled Cymru fel rhan o'i gwaith
ar ddatblygu strategaeth economaidd newydd, gan gynnwys mesurau i wella amodau
cyflogaeth yn y sectorau hynny.
Cefnogir gan:
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 02/03/2017
Angen Penderfyniad: 8 Maw 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Lee Waters AS