NDM6251 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM6251 Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod sicrwydd o gartref, gofal iechyd,
addysg a bod yn ddiogel gartref, yn ddiogel yn yr ysgol ac yn ddiogel yn y
gymuned yn adeiladu seiliau cryf ar gyfer datblygiad iach pob plentyn;
2. Yn nodi pwysigrwydd gweledigaeth hirdymor ar gyfer
iechyd plant, sy'n hyrwyddo iechyd a lles o'r crud.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella'r broses o gasglu
data a'r ddealltwriaeth o iechyd plant yng Nghymru drwy:
a) ehangu arolygon profiadau canser i gasglu data ar
gyfer plant o dan 16 oed;
b) cynnal gwaith ymchwil i fwlio gan gyfoedion; ac
c) ailwerthuso cymorth iechyd meddwl amenedigol er mwyn
sicrhau cysondeb ledled Cymru ar gyfer teuluoedd sy'n agored i niwed.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 02/03/2017
Angen Penderfyniad: 8 Maw 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Paul Davies AS