Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 28(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 02/11/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Bydd
y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i
Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
y 7 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 2 a 6 gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu
Gydol Oes. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i
Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.22 Gofynnwyd y 3 chwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn Brys Dechreuodd
yr eitem am 14.39 Dawn
Bowden (Merthyr Tydfil a Rhymni): Beth yw ymateb Llywodraeth
Cymru i'r cyhoeddiad bod 350 o swyddi mewn perygl oherwydd penderfyniad Grŵp
2 Sisters Food i symud ei holl wasanaethau manwerthu o Ferthyr Tudful i Gernyw? |
||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 14.52 Gwnaeth Jeremy Miles ddatganiad ar Waith
Haearn Mynachlog Nedd. Gwnaeth John Griffiths ddatganiad ar Ddiwrnod
Gwrthryfel y Siartwyr yng Nghasnewydd. Gwnaeth Caroline
Jones ddatganiad ar Ganolfan Hunangymorth Sandville. |
|||||||||||||||||||||||||
(5munud) |
Cynigion i ethol Aelodau i Bwyllgorau NDM6130 Elin Jones
(Ceredigion): Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.57 NDM6130 Elin Jones (Ceredigion): Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Neil
McEvoy (Plaid Cymru) yn aelod o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn lle Rhun ap
Iorwerth (Plaid Cymru). NDM6131 Elin Jones (Ceredigion): Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â
Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Dafydd Elis-Thomas (Annibynnol) yn aelod o'r
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM6129 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cymeradwyo Cytundeb Paris Confensiwn Fframwaith y
Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd fel cam ar y llwybr tuag at Gymru
ddi-garbon. 2. Yn galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a
Materion Gwledig i fynd â'r neges hon i'r Gynhadledd ar Newid Hinsawdd ym
Marrakech ym mis Tachwedd 2016. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.58 NDM6129 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn): Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn cymeradwyo Cytundeb Paris Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar
Newid Hinsawdd fel cam ar y llwybr tuag at Gymru ddi-garbon. 2.
Yn galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i fynd
â'r neges hon i'r Gynhadledd ar Newid Hinsawdd ym Marrakech ym mis Tachwedd
2016. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM6126 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu bod Llywodraeth flaenorol Cymru wedi methu
â chyflawni ei huchelgais yn rhaglen lywodraethu 2011 o sicrhau bod pob eiddo
preswyl a phob busnes yng Nghymru yn gallu cael band eang y genhedlaeth nesaf
erbyn 2015. 2. Yn cydnabod mai gan Cymru y mae'r cyfartaledd uchaf o
bobl ym Mhrydain nad ydynt yn defnyddio'r rhyngrwyd, ac yn galw ar Lywodraeth
Cymru i wneud mwy i hyrwyddo llythrennedd ddigidol a gosod targed mwy
uchelgeisiol ar gyfer defnyddio band eang. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: (a) gweithio gydag Ofcom, Llywodraeth y DU a gweithredwyr
rhwydweithiau i sicrhau mynediad cyffredinol i fand eang cyflym a signalau
ffonau symudol; (b) diwygio'r system gynllunio i hyrwyddo buddsoddi mewn
seilwaith telathrebu a defnyddio rhwydwaith; (c) ystyried y cynnydd a wnaeth Llywodraeth yr Alban drwy
ei chynllun gweithredu ffonau symudol a chyflwyno cynllun i ddarparu signalau
ffonau symudol y genhedlaeth nesaf mewn ardaloedd lle y methodd y farchnad; a (d) darparu amserlen ar gyfer ei hymrwymiad i gaffael
contract i ymestyn mynediad i fand eang cyflym iawn i bob eiddo yng Nghymru. 'Rhaglen
Lywodraethu 2011-16 Llywodraeth Cymru' 'Scottish
Government Mobile Action Plan' Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn: Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro
Morgannwg) 1. Yn croesawu’r cynnydd sydd wedi’i gyflawni o
safbwynt gweithredu cynllun Cyflymu Cymru, sef cynllun sydd wedi galluogi dros
610,000 o eiddo ar draws Cymru i fanteisio ar fand eang cyflym ac a fydd yn
galluogi 100,000 o safleoedd ychwanegol i fanteisio arno erbyn i’r prosiect
ddod i ben yn 2017. 2. Yn nodi cynnydd Allwedd Band Eang Cymru a’r
prosiect a wnaeth ei ragflaenu sydd wedi galluogi dros 6,500 o eiddo ar draws
Cymru i fanteisio ar fand eang drwy wahanol dechnolegau arloesol. 3. Yn cydnabod pwysigrwydd band eang cyflym a
chysylltedd digidol i fusnesau, cymunedau a’r economi ym mhob rhan o Gymru ac
yn nodi ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i gynnig band eang dibynadwy a chyflym
i bob eiddo yng Nghymru. 4. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i: a) cydweithio ag Ofcom, Llywodraeth y DU a gweithredwyr
y rhwydwaith er mwyn cynnig mynediad at fand eang cyflym a signal ffonau
symudol ar draws Cymru; b) diwygio Hawliau Datblygu a Ganiateir o fewn y
system gynllunio er mwyn hybu buddsoddiad yn y seilwaith telathrebu ac
adleoli’r rhwydwaith; c) pwyso a mesur yr hyn y mae Llywodraeth yr Alban
wedi’i gyflawni drwy ei chynllun gweithredu ffonau symudol wrth ddatblygu
cynigion yng Nghymru; a d) cyhoeddi rhagor o wybodaeth am estyn mynediad at
fand eang dibynadwy a chyflym i bob eiddo yng Nghymru. [Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael
eu ddad-ddethol] Gwelliant 2 . Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn): 'archwilio sefydlu ac ariannu cynllun dal popeth i
alluogi awdurdodau lleol i ariannu cynllun wedi'i deilwra er mwyn sicrhau nad
oes yr un cartref na busnes yng Nghymru heb y gallu i gysylltu â band eang y
genhedlaeth nesaf.' Gwelliant 3. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn): Ychwanegu
pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn
credu bod band eang digonol yn hanfodol ar gyfer masnach, byw'n iach, llai o
effaith amgylcheddol, rhyngweithio cymdeithasol, addysg a hawliau dynol. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.59 Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6126 Paul Davies (Preseli Sir
Benfro) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn gresynu bod Llywodraeth flaenorol Cymru wedi methu â chyflawni ei huchelgais
yn rhaglen lywodraethu 2011 o sicrhau bod pob eiddo preswyl a phob busnes yng
Nghymru yn gallu cael band eang y genhedlaeth nesaf erbyn 2015. 2.
Yn cydnabod mai gan Cymru y mae'r cyfartaledd uchaf o bobl ym Mhrydain nad
ydynt yn defnyddio'r rhyngrwyd, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i
hyrwyddo llythrennedd ddigidol a gosod targed mwy uchelgeisiol ar gyfer
defnyddio band eang. 3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: (a)
gweithio gydag Ofcom, Llywodraeth y DU a gweithredwyr rhwydweithiau i sicrhau
mynediad cyffredinol i fand eang cyflym a signalau ffonau symudol; (b)
diwygio'r system gynllunio i hyrwyddo buddsoddi mewn seilwaith telathrebu a
defnyddio rhwydwaith; (c)
ystyried y cynnydd a wnaeth Llywodraeth yr Alban drwy ei chynllun gweithredu
ffonau symudol a chyflwyno cynllun i ddarparu signalau ffonau symudol y
genhedlaeth nesaf mewn ardaloedd lle y methodd y farchnad; a (d)
darparu amserlen ar gyfer ei hymrwymiad i gaffael contract i ymestyn myneidad i
fand eang cyflym iawn i bob eiddo yng Nghymru.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Dileu popeth a rhoi yn ei le: 1. Yn croesawu’r cynnydd sydd wedi’i gyflawni o
safbwynt gweithredu cynllun Cyflymu Cymru, sef cynllun sydd wedi galluogi dros
610,000 o eiddo ar draws Cymru i fanteisio ar fand eang cyflym ac a fydd yn
galluogi 100,000 o safleoedd ychwanegol i fanteisio arno erbyn i’r prosiect
ddod i ben yn 2017. 2. Yn nodi cynnydd Allwedd Band Eang Cymru a’r
prosiect a wnaeth ei ragflaenu sydd wedi galluogi dros 6,500 o eiddo ar draws
Cymru i fanteisio ar fand eang drwy wahanol dechnolegau arloesol. 3. Yn cydnabod pwysigrwydd band eang cyflym a
chysylltedd digidol i fusnesau, cymunedau a’r economi ym mhob rhan o Gymru ac
yn nodi ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i gynnig band eang dibynadwy a chyflym
i bob eiddo yng Nghymru. 4. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i: a) cydweithio ag Ofcom, Llywodraeth y DU a
gweithredwyr y rhwydwaith er mwyn cynnig mynediad at fand eang cyflym a signal
ffonau symudol ar draws Cymru; b) diwygio Hawliau Datblygu a Ganiateir o fewn y
system gynllunio er mwyn hybu buddsoddiad yn y seilwaith telathrebu ac
adleoli’r rhwydwaith; c) pwyso a mesur yr hyn y mae Llywodraeth yr Alban
wedi’i gyflawni drwy ei chynllun gweithredu ffonau symudol wrth ddatblygu
cynigion yng Nghymru; a d) cyhoeddi rhagor o wybodaeth am estyn mynediad at
fand eang dibynadwy a chyflym i bob eiddo yng Nghymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2 a 3 eu
ddad-ddethol. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM6126 Paul Davies (Preseli Sir
Benfro) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu’r cynnydd sydd wedi’i gyflawni o safbwynt
gweithredu cynllun Cyflymu Cymru, sef cynllun sydd wedi galluogi dros 610,000 o
eiddo ar draws Cymru i fanteisio ar fand eang cyflym ac a fydd yn galluogi
100,000 o safleoedd ychwanegol i fanteisio arno erbyn i’r prosiect ddod i ben
yn 2017. 2. Yn nodi cynnydd Allwedd Band Eang Cymru a’r
prosiect a wnaeth ei ragflaenu sydd wedi galluogi dros 6,500 o eiddo ar draws
Cymru i fanteisio ar fand eang drwy wahanol dechnolegau arloesol. 3. Yn cydnabod pwysigrwydd band eang cyflym a
chysylltedd digidol i fusnesau, cymunedau a’r economi ym mhob rhan o Gymru ac
yn nodi ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i gynnig band eang dibynadwy a chyflym
i bob eiddo yng Nghymru. 4. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i: a) cydweithio ag Ofcom, Llywodraeth y DU a
gweithredwyr y rhwydwaith er mwyn cynnig mynediad at fand eang cyflym a signal
ffonau symudol ar draws Cymru; b) diwygio Hawliau Datblygu a Ganiateir o fewn y
system gynllunio er mwyn hybu buddsoddiad yn y seilwaith telathrebu ac
adleoli’r rhwydwaith; c) pwyso a mesur yr hyn y mae Llywodraeth yr Alban
wedi’i gyflawni drwy ei chynllun gweithredu ffonau symudol wrth ddatblygu
cynigion yng Nghymru; a d) cyhoeddi rhagor o wybodaeth am estyn mynediad at
fand eang dibynadwy a chyflym i bob eiddo yng Nghymru.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig NDM6128 Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod mis Tachwedd yn fis ymwybyddiaeth canser
yr ysgyfaint. 2. Yn gresynu mai dim ond 6.6 y cant o gleifion Cymru a
gaiff ddiagnosis o ganser yr ysgyfaint sydd yn dal yn fyw bum mlynedd ar ôl y
diagnosis a bod Cymru yn llusgo y tu ôl i weddill y DU ac Ewrop o ran cyfraddau
goroesi canser. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: (a) gweithredu i wella cyfraddau pum mlynedd goroesi
canser yr ysgyfaint yng Nghymru; (b) gwella gwasanaethau diagnostig a chyflymu mynediad at
brofion diagnostig; (c) sicrhau gwelliannau i ofal diwedd oes; (d) sicrhau y caiff anghenion, blaenoriaethau a
dewisiadau unigol pobl ar gyfer gofal diwedd oes eu canfod, eu cofnodi, eu
hadolygu, eu parchu a'u gweithredu; ac (e) gwarantu y gall pawb sydd angen
gwasanaethau gofal lliniarol arbenigol gael gafael arnynt. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Jane Hutt
(Bro Morgannwg) Dileu
popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn
cydnabod y gwelliant sylweddol yng nghyfraddau goroesi canser yr ysgyfaint am
flwyddyn yng Nghymru a’r fenter canser yr ysgyfaint sy’n cael ei darparu fel
rhan o’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser. Yn croesawu’r
£240m o fuddsoddiad ychwanegol mewn gwasanaethau iechyd yng Nghymru a gynigiwyd
yn y gyllideb ddrafft ddiweddar, gan gynnwys £15m ychwanegol ar gyfer cyfarpar
diagnostig a £1m ar gyfer gofal diwedd oes. Yn
nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella cyfraddau goroesi canser yr ysgyfaint
ymhellach a’r bwriad i wneud y canlynol: a)
cyhoeddi diweddariad o’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser erbyn diwedd mis
Tachwedd 2016 a pharhau i ganolbwyntio ar wella canlyniadau canser yr
ysgyfaint; b)
cyhoeddi diweddariad o’r cynllun Gofal Diwedd Oes erbyn diwedd mis Ionawr 2017; c)
parhau i weithio’n agos gyda Chynghrair Canser Cymru i ddatblygu gwasanaethau
canser yng Nghymru a gyda hosbisau ar ofal diwedd oes. 'Cynllun Cyflawni ar
gyfer Canser' [Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2, 3 a 4 yn
cael ei ddad-ddethol] Gwelliant 2. Paul Davies
(Preseli Sir Benfro) Cynnwys
pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn gresynu
at y ffaith bod nifer cleifion benywaidd canser yr ysgyfaint wedi cynyddu dros
draean yn ystod y degawd diwethaf. Gwelliant 3. Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn): Yn
nodi'r buddsoddiad mewn gwasanaethau diagnostig a gofal diwedd oes a gafodd ei
gyflawni gan Blaid Cymru yn y trafodaethau ar gyllideb ddrafft 2017-18, ac yn
cydnabod bod angen gwneud mwy o waith i wella'r gwasanaethau hyn. Gwelliant 4. Paul Davies
(Preseli Sir Benfro) Ychwanegu
is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4: 'gwella
mynediad at sgrinio, addysg ac ymwybyddiaeth.' Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
16.49 Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6128 Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi bod mis Tachwedd yn fis ymwybyddiaeth canser yr ysgyfaint. 2.
Yn gresynu mai dim ond 6.6 y cant o gleifion Cymru a gaiff ddiagnosis o ganser
yr ysgyfaint sydd yn dal yn fyw bum mlynedd ar ôl y diagnosis a bod Cymru yn
llusgo y tu ôl i weddill y DU ac Ewrop o ran cyfraddau goroesi canser. 3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: (a)
gweithredu i wella cyfraddau pum mlynedd goroesi canser yr ysgyfaint yng
Nghymru; (b)
gwella gwasanaethau diagnostig a chyflymu mynediad at brofion diagnostig; (c)
sicrhau gwelliannau i ofal diwedd oes; (d)
sicrhau y caiff anghenion, blaenoriaethau a dewisiadau unigol pobl ar gyfer
gofal diwedd oes eu canfod, eu cofnodi, eu hadolygu, eu parchu a'u gweithredu;
ac (e)
gwarantu y gall pawb sydd angen gwasanaethau gofal lliniarol arbenigol
gael gafael arnynt.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1.
Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn cydnabod y gwelliant sylweddol yng nghyfraddau
goroesi canser yr ysgyfaint am flwyddyn yng Nghymru a’r fenter canser yr
ysgyfaint sy’n cael ei darparu fel rhan o’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser. Yn croesawu’r £240m o fuddsoddiad ychwanegol mewn
gwasanaethau iechyd yng Nghymru a gynigiwyd yn y gyllideb ddrafft ddiweddar,
gan gynnwys £15m ychwanegol ar gyfer cyfarpar diagnostig a £1m ar gyfer gofal
diwedd oes. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella
cyfraddau goroesi canser yr ysgyfaint ymhellach a’r bwriad i wneud y canlynol: a) cyhoeddi diweddariad o’r Cynllun Cyflawni ar
gyfer Canser erbyn diwedd mis Tachwedd 2016 a pharhau i ganolbwyntio ar wella
canlyniadau canser yr ysgyfaint; b) cyhoeddi diweddariad o’r cynllun Gofal Diwedd
Oes erbyn diwedd mis Ionawr 2017; c) parhau i weithio’n agos gyda Chynghrair Canser
Cymru i ddatblygu gwasanaethau canser yng Nghymru a gyda hosbisau ar ofal
diwedd oes. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2, 3 a 4 eu
dad-ddethol. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM6128 Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi bod mis Tachwedd yn fis ymwybyddiaeth canser yr ysgyfaint. 2. Yn cydnabod y gwelliant sylweddol yng
nghyfraddau goroesi canser yr ysgyfaint am flwyddyn yng Nghymru a’r fenter
canser yr ysgyfaint sy’n cael ei darparu fel rhan o’r Cynllun Cyflawni ar gyfer
Canser. 3. Yn croesawu’r £240m o fuddsoddiad ychwanegol
mewn gwasanaethau iechyd yng Nghymru a gynigiwyd yn y gyllideb ddrafft
ddiweddar, gan gynnwys £15m ychwanegol ar gyfer cyfarpar diagnostig a £1m ar
gyfer gofal diwedd oes. 4. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella
cyfraddau goroesi canser yr ysgyfaint ymhellach a’r bwriad i wneud y canlynol: a) cyhoeddi diweddariad o’r Cynllun Cyflawni ar
gyfer Canser erbyn diwedd mis Tachwedd 2016 a pharhau i ganolbwyntio ar wella
canlyniadau canser yr ysgyfaint; b) cyhoeddi diweddariad o’r cynllun Gofal Diwedd
Oes erbyn diwedd mis Ionawr 2017; c) parhau i weithio’n agos gyda Chynghrair Canser
Cymru i ddatblygu gwasanaethau canser yng Nghymru a gyda hosbisau ar ofal
diwedd oes.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
17.32 |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6123 Hannah Blythyn
(Delyn) Economi newydd i Ogledd Cymru 'Gwella cydweithredu trawsffiniol a gwneud i ddatganoli
weithio ar gyfer sectorau allweddol ledled Gogledd Cymru.' Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
17.36 NDM6123 Hannah Blythyn (Delyn) Economi newydd i Ogledd Cymru Gwella cydweithredu trawsffiniol a gwneud i
ddatganoli weithio ar gyfer sectorau allweddol ledled Gogledd Cymru. |