Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 26 Hydref 2016
 i'w hateb ar 2 Tachwedd 2016

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg 

1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddatblygu addysg uwchradd yn Sir Benfro? OAQ(5)0036(EDU)

 

2. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y targedau sydd gan y Llywodraeth ar gyfer twf mewn addysg cyfrwng Cymraeg? OAQ(5)0040(EDU)W

 

3. Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion? OAQ(5)0044(EDU)

 

4. Neil McEvoy (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyrwyddo rygbi cyffwrdd mewn ysgolion? OAQ(5)0048(EDU)

 

5. Mark Isherwood (Gogledd Cymru):Pa ddarpariaeth sydd wedi cael ei wneud ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol yng nghod trefniadaeth ysgolion Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0035(EDU)

 

6. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am asesiadau effaith ieithyddol yn y broses o aildrefnu ysgolion? OAQ(5)0034(EDU)W

 

7. Vikki Howells (Cwm Cynon):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddod â'r rhaglen Her Ysgolion Cymru i ben? OAQ(5)0037(EDU)

 

8. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyfforddiant Dementia mewn ysgolion? OAQ(5)0041(EDU)

 

9. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i wella addysg y rhai yng Nghymru sydd ag anghenion addysgol arbennig? OAQ(5)0042(EDU)

 

10. Lee Waters (Llanelli): Sut y mae'r Gweinidog yn bwriadu cefnogi ysgolion y tu hwnt i gyfnod rhaglen Her Ysgolion Cymru? OAQ(5)0047(EDU)

 

11. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am therapi lleferydd ac iaith mewn ysgolion? OAQ(5)0043(EDU)

 

12. Rhianon Passmore (Islwyn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod ein hysgolion yn amgylcheddau cynhwysol? OAQ(5)0038(EDU)

 

13. Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa fesurau y gall y Gweinidog eu rhoi ar waith i wella safonau TGAU yn ysgolion Sir Benfro? OAQ(5)0039(EDU)

 

14. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i gefnogi addysg yn y cartref? OAQ(5)0046(EDU)

 

15. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(5)0045(EDU)

 

 

Gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol

1. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau diweddar y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cael ynghylch Bil Cymru?   OAQ(5)0005(CG)W

 

2. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe):A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am adroddiad Comisiwn y Gyfraith sy'n argymell cyfundrefnu Cyfraith Cymru? OAQ(5)0006(CG)

 

3. Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni): Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o oblygiadau cychwyn erthygl 50 ar y setliad datganoli? OAQ(4)0007(CG)