Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:15- 09:20)

1.

Cynnig i ethol Cadeirydd dros dro

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.22 i benodi Cadeirydd dros dro yn absenoldeb y Cadeirydd.

Cofnodion:

1.1        Gofynnodd y Clerc am enwebiadau am Gadeirydd dros dro i’r Pwyllgor o dan Reol Sefydlog 17.22. Cafodd Andrew RT Davies ei enwebu gan Mohammad Asghar, a chafodd ei ethol yn briodol drwy hynny yn Gadeirydd.

 

 

(09:20 - 09:25)

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd dros dro aelodau’r Pwyllgor a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

 

2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar; roedd Andrew RT Davies yn dirprwyo ar ei ran. 

 

2.3 Roedd yr Aelodau am i’w dymuniadau gorau gael eu cyfleu i Darren Millar am wellhad buan.

(09:25 - 09:35)

3.

Trafodaeth am yr amcangyfrif diwygiedig o incwm a threuliau swyddfa’r Archwilydd Cyffredinol ar gyfer y flwyddyn a ddaw i ben ar 31 Mawrth 2013

PAC(4) 06-11 – Papur 1 – Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru: Amcangyfrif o incwm a gwariant swyddfa’r Archwilydd Cyffredinol ar gyfer y flwyddyn a ddaw i ben 31 Mawrth 2013

 

PAC(4) 06-11 – Papur 2 – Gohebiaeth oddi wrth Archwilydd Cyffredinol Cymru mewn perthynas â’r amgangyfrif o incwm a gwariant ar gyfer y flwyddyn a ddaw i ben 31 Mawrth 2013

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Estynnodd y Cadeirydd groeso i Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, a Dave Thomas, yr Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol.

 

3.2 Cytunodd y Pwyllgor ar yr amcangyfrif diwygiedig o incwm a threuliau swyddfa’r Archwilydd Cyffredinol ar gyfer y flwyddyn a ddaw i ben ar 31 Mawrth 2013.

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau a ganlyn:

Item 5

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 5 yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(vi).

(09:35 - 10:00)

5.

Trafodaeth am yr adroddiad drafft ar yr amcangyfrif o incwm a threuliau swyddfa'r Archwilydd Cyffredinol ar gyfer y flwyddyn a ddaw i ben ar 31 Mawrth 2013

Cofnodion:

i5.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod ei adroddiad drafft ar ei amcangyfrif o incwm a threuliau swyddfa’r Archwilydd Cyffredinol ar gyfer y flwyddyn a ddaw i ben ar 31 Mawrth 2013. Cytunodd y Pwyllgor i wneud mân newidiadau i’r adroddiad; byddai’r rhain yn cael eu hanfon at aelodau’r Pwyllgor drwy e-bost er mwyn cytuno arnynt.

(10:00 - 11:00)

6.

Arlwyo mewn ysbytai a maeth cleifion: tystiolaeth gan Brif Weithredwr GIG Cymru

PAC(4)-06-11 – Papur 3 – Llywodraeth Cymru - Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai

 

David Sissling Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a phlant
Jean White Prif Swyddog Nyrsio/Cyfarwyddwr Nyrsio Cymru
Andrew Walker Pennaeth Cyfalaf, Ystadau a Chyfleusterau

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Estynnodd y Pwyllgor groeso i David Sissling, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant; Jean White, Prif Swyddog Nyrsio/Cyfarwyddwr Nyrsio GIG Cymru; ac Andrew Walker, Pennaeth Cyfalaf, Ystadau a Chyfleusterau.

 

6.2 Estynnodd y Pwyllgor groeso i Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, a Dave Thomas, o Swyddfa Archwilio Cymru.

 

6.3 Bu’r Pwyllgor yn holi’r tystion.

 

6.4 Gohiriodd y Cadeirydd y cyfarfod am bum munud, yn unol â Rheol Sefydlog 17.47, o ganlyniad i nam technegol. 

 

Camau i’w cymryd:

 

Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu:

 

  • Rhagor o fanylion ynghylch sut y mae ysbytai’n cydymffurfio â’r safonau hylendid bwyd angenrheidiol, gan gynnwys nifer yr ysbytai cyffredinol na ddyfarnwyd graddfa hylendid dderbyniol iddynt dros y pum mlynedd diwethaf.
  • Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch ailarolygu ac ailraddio safonau hylendid yn Ysbyty’r Eglwys Newydd, gan dynnu sylw at feysydd lle y gwnaed cynnydd.

7.

Papurau i'w nodi

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Cadarnhaodd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod ar 18 Hydref 2011.

Trawsgrifiad