Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Michael Kay 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09:00)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

 

1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

1.3 Datganodd Sandy Mewies fuddiant fel aelod o Gomisiwn y Cynulliad (eitem 2.4) a dywedodd Julie Morgan fod ei merch yn gweithio i Shelter Cymru (Eitem 4).

 

(09:00-09:05)

2.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Nodwyd y papurau. Cytunodd y Pwyllgor y dylai'r Cadeirydd ymateb i Gomisiwn y Cynulliad (Eitem 2.4) yn gofyn am eglurhad pellach ar y tanwariant targed o 1% o'r gyllideb weithredol.

 

2.1

Trefniadau cyflenwi ar gyfer absenoldeb athrawon: Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ynglŷn â threfniadau cyflenwi ar gyfer absenoldeb athrawon (30 Ebrill 2015)

Dogfennau ategol:

2.2

Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Llythyr gan James Price, Llywodraeth Cymru (29 Ebrill 2015)

Dogfennau ategol:

2.3

Pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant: Llythyr gan William Graham AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes (1 Mai 2015)

Dogfennau ategol:

2.4

Craffu ar Gyfrifon y Comisiynwyr ar gyfer 2013-14: Llythyr gan David Melding AC, Y Dirprwy Lywydd (7 Mai 2015)

Dogfennau ategol:

(09:05-09:50)

3.

Diwygiad Lles: Sesiwn dystiolaeth 1

PAC(4)-13-15 papur 1 - Cartrefi Cymunedol Cymru

PAC(4)-13-15 papur 2 - Sefydliad Tai Siartredig Cymru (CIHC)

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Sioned Hughes – Cyfarwyddwr Polisi ac Adfywio, Cartrefi Cymunedol Cymru

Paul Langley – Ymgynghorydd Uwch, Cartrefi Cymunedol Cymru

Helen Northmore – Cyfarwyddwr, Sefydliad Tai Siartredig Cymru (CIHC)

Hayley Selway – Pennaeth Tai a Gwasanaethau Adeiladu ar gyfer Cyngor Bro Morgannwg (aelod o Fwrdd CIHC)

CIHC Board)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Sioned Hughes, Cyfarwyddydd Polisi ac Adfywio, a Paul Langley, Uwch-gynghorydd yn Cartrefi Cymunedol Cymru; Helen Northmore, Cyfarwyddwr, Sefydliad Tai Siartredig Cymru (CIHC) a Sandra Alexander, Rheolwr Incwm Tai, Cyngor Bro Morgannwg ar ei ymchwiliad i ddiwygio lles.

 

3.2 Cytunodd Sioned Hughes i anfon rhagor o wybodaeth am:

·       yr ymagwedd wahanol a gymerwyd yn Lloegr tuag at apeliadau

·       nifer y cartrefi yn y sector rhentu sydd wedi eu hisosod yng Nghymru

·       nifer y bobl ag anableddau sy'n cael eu heffeithio gan y cymhorthdal ​​ystafell sbâr

·       tystiolaeth o'r ffordd y mae cymdeithasau tai yn parhau i fod heb ddiweddaru eu polisïau trosglwyddo i sicrhau nad yw ôl-ddyledion yn ymwneud â diwygio lles yn rhwystr i symud i gartrefi llai o faint.

 

 

 

 

(09:50-10:40)

4.

Diwygiad Lles: Sesiwn dystiolaeth 2

PAC(4)-13-15 papur 3 - Shelter Cymru

PAC(4)-13-15 papur 4 - Cyngor ar Bopeth Cymru  Cyngor ar Bopeth Cymru 

 

John Puzey – Cyfarwyddwr, Shelter Cymru

Jennie Bibbings – Rheolwr Polisi ac Ymchwil, Shelter Cymru

Lindsey Kearton – Swyddog Polisi, Cyngor ar Bopeth Cymru  Cyngor ar Bopeth Cymru 

Elle McNeil, Swyddog Polisi, Cyngor ar Bopeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan John Puzey, Cyfarwyddwr a

Jennie Bibbings, Rheolwr Polisi ac Ymchwil, Shelter Cymru; a

Lindsey Kearton, Swyddog Polisi ac Elle McNeil, Swyddog Polisi, Cyngor ar Bopeth Cymru ar ei ymchwiliad i ddiwygio lles.

 

 

(10:40)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Items 6 & 7

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10:40-10:50)

6.

Diwygiad Lles: Ystyried y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(10:50-11:00)

7.

Cydnerthedd Ariannol Cynghorau yng Nghymru: Sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru

PAC(4)-13-15 papur 5 – Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Tynnodd Alan Morris sylw at y llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghylch Cydnerthedd Ariannol Cynghorau yng Nghymru.

 

7.2 Nododd Aelodau y byddai llythyr drafft gan y Cadeirydd at June Milligan, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Llywodraeth Leol a Chymunedau, Llywodraeth Cymru yn cael ei ddosbarthu er mwyn cael eu sylwadau a chytundeb yn nes ymlaen heddiw.