Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michael Kay
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld
trawsgrifiad o’r cyfarfod. |
||
(09:00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod. 1.2 Ni chafwyd
ymddiheuriadau. |
|
(09:00) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Nodwyd y papurau. Cytunodd y Pwyllgor y dylai'r Clercod gael eglurhad
pellach gan Gyngor Powys a Chyngor Rhondda Cynon Taf ar nifer y swyddi gwag a
pha adrannau oedd â'r swyddi 'anodd eu llenwi'. |
|
Rheoli Ymadawiadau Cynnar: Llythyr oddi wrth Jeremy Patterson, Prif Weithredwr Cyngor Sir Powys (7 Mai, 2015) Dogfennau ategol: |
||
Rheoli Ymadawiadau Cynnar: Gwybodaeth ychwanegol gan Rhondda Cynon Taf am ymadawiadau cynnar Dogfennau ategol: |
||
Cadernid Ariannol Cynghorau yng Nghymru: Llythyr gan June Milligan, Cyfarwyddwr Cyffredinol Llywodraeth Leol a Chymunedau (14 Mai 2015) Dogfennau ategol: |
||
(09:05-09:50) |
Diwygiad Lles: Sesiwn Dystiolaeth 3 PAC(4)-14-15
papur 1 – TPAS Cymru Papur
briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil Steve
Clarke, Rheolwr Gyfarwyddwr, Tenantiaid Cymru David Lloyd
– Cyfarwyddwr, TPAS Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Steve Clarke, Rheolwr Gyfarwyddwr,
Tenantiaid Cymru a David Lloyd, Cyfarwyddwr, TPAS Cymru ar ei ymchwiliad i
ddiwygio lles. 3.2 Cytunodd Steve Clarke i anfon ffigurau am nifer y tenantiaid dan 21 oed
sydd ar hyn o bryd yn meddiannu eiddo un a dwy ystafell wely. 3.3 Pan oedd yr Aelodau'n ystyried y dystiolaeth a gafwyd, gofynnwyd i
Steve Clarke ddarparu nodyn ynglŷn â pham ei fod yn credu y dylai
gweinyddu budd-dal tai gael ei ddatganoli.
|
|
(09:50-10:45) |
Diwygiad Lles: Sesiwn dystiolaeth 4 PAC(4)-14-15
papur 2 – Cartrefi NPT PAC(4)-14-15 papur 3 – Tai Wales & West Papur
briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil Jim
McKirdle - Swyddog Polisi Tai, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Linda
Whittaker - Prif Weithredwr, Cartrefi NPT Claire Maimone
- Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Cartrefi NPT Steve Porter – Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Tai Wales
& West Mike Halloran – Rheolwr Tai, Tai Wales & West Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Jim McKirdle, Swyddog Polisi Tai,
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; Linda Whittaker, Prif Weithredwr, a Claire
Maimone, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Cartrefi Castell-nedd Port Talbot
(NPTHomes); Steve Porter, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, a Mike Halloran - Rheolwr
Tai, Tai Wales & West ar ei ymchwiliad i ddiwygio lles. 4.2 Cytunodd Steve Porter i anfon manylion am faint o'r 200 o gartrefi sy'n
cael eu hadeiladu ar hyn o bryd fydd yn dai un neu ddwy ystafell wely, a'r hyn
y mae hynny'n cyfateb iddo fel canran y tai y mae Tai Wales & West yn eu
hadeiladu ar hyn o bryd. Hefyd, faint o'r 1000 o gartrefi arfaethedig sydd i'w
hadeiladu yn ystod y pum mlynedd nesaf fydd yn dai un neu ddwy ystafell wely. 4.3 Cytunodd Jim McKirdle i ddarparu nodyn ar y canlynol: · polisi'r awdurdodau
lleol ar gyfer trosglwyddo tai pan fydd gan denant ôl-ddyledion tai. Pan oedd
yr aelodau'n ystyried y dystiolaeth a gafwyd, gofynnwyd am gael gweld copi o'r
cytundeb Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn. · pa ddau awdurdod lleol
sydd heb ymrwymo i'r cytundeb. · un ar ddeg awdurdod
lleol sydd â chynlluniau i adeiladu tai cymdeithasol gan gynnwys y nifer
arfaethedig o dai y maent yn dymuno eu hadeiladu. · ffigurau ynglŷn â nifer y tenantiaid ag anableddau sydd wedi cael eu
heffeithio a'u hail-leoli o ganlyniad i'r polisi. · a yw awdurdodau lleol
yn ystyried Lwfans Byw i'r Anabl wrth ystyried Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn. |
|
(10:45) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitemau 6
& 7 Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10:45-10:50) |
Diwygiad Lles: Ystyried y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 6.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(10:50-11:00) |
Trefniadau Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon: Nodyn Cyngor Cyfreithiol PAC(4)-14-15 papur 4 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y llythyr drafft yn amodol ar newid ar ddiwedd
paragraff 2. |