Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michael Kay 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Derbyniodd y Pwyllgor, ar 28 Ebrill 2015, gynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod hwn.

(09:00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1         Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2         Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

(09:00-09:05)

2.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru (24 Ebrill 2015)

Dogfennau ategol:

2.2

Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Gwybodaeth ychwanegol gan y Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Chludiant

Dogfennau ategol:

2.3

Craffu ar Gyfrifon y Comisiynwyr ar gyfer 2013-14: Llythyr gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Comisiynydd Plant Cymru, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (28 Ebrill, 2015)

Dogfennau ategol:

2.4

Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Llythyr gan James Price, Llywodraeth Cymru (28 Ebrill 2015)

Dogfennau ategol:

(09:05-09:15)

3.

Trefniadau cyflenwi ar gyfer absenoldeb athrawon: Trafod y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru

PAC(4)-12-15 Papur 1

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Bu’r Aelodau yn trafod y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru, ac yn benodol, Argymhelliad 3, lle’r oedd y Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn diwygio’r Rheoliadau i’w gwneud yn ofynnol bod o leiaf un aelod o bob corff llywodraethu yn cael ei ddynodi i arwain ar faterion adnoddau dynol, a bod pob aelod o’r fath wedi’i hyfforddi’n briodol i gyflawni’r rôl hon.

3.2 Cytunodd Cynghorydd Cyfreithiol y Pwyllgor i baratoi Nodyn Cyngor Cyfreithiol ar y Rheoliadau ar gyfer ei drafod ymhellach gan y Pwyllgor.

3.3 Ar ôl cael y Nodyn Cyngor Cyfreithiol, cytunodd y Cadeirydd y byddai’n ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn nodi’n glir beth yr oedd y Pwyllgor yn gobeithio y byddai Argymhelliad 3 yn ei gyflawni, ac yn gofyn am roi rhagor o ystyriaeth i’r mater.

3.4 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Addysg Plant, Pobl Ifanc i godi materion sydd o ddiddordeb fel rhan o’i ymchwiliad i drefniadau cyflenwi ar gyfer absenoldeb athrawon.

 

(09:15-09:30)

4.

Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru - Caerdydd i Ynys Môn

PAC(4)-12-15 Papur 2

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd yr Aelodau yr Adroddiad Arup a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar ddiwedd mis Mawrth, a thrafodwyd ef.

4.2 Gofynnodd yr Aelodau i’r Clercod baratoi adroddiad drafft i’w ystyried.

 

(09:30-10:00)

5.

Llywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru: Memorandwm Archwilydd Cyffredinol Cymru a thystiolaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

PAC(4)-12-15 Papur 3

PAC(4)-12-15 Papur 4

PAC(4)-12-15 Papur 5

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Bu’r Aelodau yn trafod Memorandwm Archwilydd Cyffredinol Cymru ar Lywodraethu’r GIG.

5.2 Trafododd yr Aelodau’r wybodaeth ychwanegol a gafwyd gan Dr Peter Higson, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dilyn ei ymddangosiad yn y Pwyllgor ar 24 Mawrth.

5.3 Gofynnodd yr Aelodau i’r Clercod baratoi adroddiad drafft i’w ystyried.

 

(10:00-10:20)

6.

Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: y prif faterion dan sylw

PAC(4)-12-15 Papur 6

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Bu’r Aelodau yn ystyried a thrafod y papur materion allweddol, a nodwyd y bydd y Clercod yn drafftio adroddiad i’w ystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

(10:20-10:40)

7.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus 2014-2015.

PAC(4)-12-15 Papur 7

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Ystyriodd yr Aelodau’r adroddiad drafft a chytunwyd y byddai fersiwn ddiwygiedig yn cael ei dosbarthu drwy e-bost er mwyn cael sylwadau arni.

 

(10:40-11:00)

8.

Cydnerthedd ariannol cynghorau yng Nghymru: Sesiwn friffio gyda Swyddfa Archwilio Cymru

Cofnodion:

8.1 Oherwydd prinder amser, gohiriwyd yr eitem hon a chaiff ei hail-drefnu ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol.