Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Michael Kay
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09:00-09:05) |
Glastir PAC(4)-28-14 papur 1 Dogfennau ategol: Cofnodion: 1.1 Trafododd yr Aelodau ymateb
Llywodraeth Cymru i adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, gan gytuno i gynnal
sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru. 1.2 Yn dilyn y sesiwn honno, bydd yr
Aelodau'n trafod a ydynt am gynnal unrhyw waith arall yng nghyswllt Glastir. |
|
(09:05-09:10) |
Cyllid Iechyd 2013-14: Gwybodaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru PAC(4)-28-14
papur 2 Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1
Rhoddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru drosolwg byr o brif ganfyddiadau ei
adroddiad i'r Aelodau. |
|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod. |
||
(09:10) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 3.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod. Ni
chafwyd ymddiheuriadau. |
|
(09:10-09:15) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Nodwyd
y papurau. |
|
Gofal heb ei drefnu: Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (27 Hydref 2014) Dogfennau ategol: |
||
Craffu ar Gyfrifon y Comisiynwyr ar gyfer 2013-14: Gwybodaeth ychwanegol gan Gomisiynydd Plant Cymru Dogfennau ategol: |
||
Craffu ar Gyfrifon y Comisiynwyr ar gyfer 2013-14: Llythyr gan Mike Shooter (3 Tachwedd 2014) Dogfennau ategol: |
||
Craffu ar Adroddiad Blynyddol Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer 2013-14: Gwybodaeth ychwanegol Dogfennau ategol: |
||
Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan Dr Andrew Goodall (4 Tachwedd 2014) Dogfennau ategol: |
||
Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan y Cadeirydd at Dr Andrew Goodall (6 Tachwedd 2014) Dogfennau ategol: |
||
(09:15-10:30) |
Cyllid Iechyd 2013-14 PAC(4)-28-14
papur 3 Briff
Ymchwil Dr Andrew
Goodall - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru, Llywodraeth Cymru Simon Dean, Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru, Llywodraeth Cymru Martin Sollis, Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1Bu'r Pwyllgor yn craffu ar Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr
Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru;
Simon Dean, Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru; a Martin Sollis, Llywodraeth
Cymru, ynghylch Cyllid Iechyd 2013-14. 5.2 Cytunodd Dr Goodall i ddarparu nodyn ar y canlynol: · Casgliad Canolfan
Metaddadansoddi Cochrane (2012) bod y driniaeth pan fo pwysedd gwaed yn ymylu
ar fod yn uchel yn fwy tebygol o niweidio cleifion na'u helpu, ac eithrio yn
achos diabetes, a bod hynny'n un o'r contractau fframwaith ansawdd a
deilliannau ar gyfer meddygon teulu · Sut y rhoddir
ystyriaeth i ardaloedd gwledig wrth ddyrannu unrhyw adnoddau yn y dyfodol · Rheoli
meddyginiaethau · Sut y mae Llywodraeth
Cymru yn dwyn byrddau iechyd i gyfrif yn erbyn yr amcan gofal iechyd darbodus · Gweithio gyda
chyfarwyddwyr gweithluoedd yng Nghymru, amlinellu eu dull gweithredu o ran
polisïau disgyblu a sut y gellir cyflymu'r broses |
|
(10:30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitem 7 Cofnodion: 6.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10:30-10:45) |
Cyllid Iechyd 2013-14: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 7.1 Bu'r
Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunwyd y byddai'r
Cadeirydd yn ysgrifennu at Dr Goodall i ofyn am eglurhad ynghylch nifer o
faterion a godwyd. 7.2 Nododd
y Pwyllgor fod disgwyl i adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar amseroedd
aros gael ei gyhoeddi yn fuan a chytunodd i'w drafod cyn cyflwyno adroddiad. |