Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Michael Kay
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod. |
||
(09:00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau i’r Pwyllgor. |
|
(09:00-09:05) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Nodwyd
y papurau. |
|
Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru - Caerdydd i Ynys Môn: Llythyr gan James Price (6 Hydref 2014) Dogfennau ategol: |
||
Craffu ar Gyfrifon y Comisiynwyr ar gyfer 2013-14: Llythyr gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (14 Hydref 2014) Dogfennau ategol: |
||
Y Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru): Llythyr at Archwilydd Cyffredinol Cymru (14 Hydref 2014) Dogfennau ategol: |
||
Craffu ar Adroddiad Blynyddol Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer 2013-14: Llythyr gan Nick Capaldi (17 Hydref 2014) Dogfennau ategol: |
||
Y wybodaeth ddiweddaraf am Gronfeydd Strwythurol yr UE: Llythyr gan Syr Derek Jones (21 Hydref 2014) Dogfennau ategol: |
||
Rheoli Grantiau yng Nghymru: Llythyr gan Syr Derek Jones (22 Hydref 2014) Dogfennau ategol: |
||
(09:05-09:55) |
Llywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru PAC(4)-27-14
Papur 1 PAC(4)-27-14
Papur 2 PAC(4)-27-14
Papur 3 Briff
Ymchwil Dr Andrew
Goodall - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru, Llywodraeth Cymru Simon Dean –
Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru, Llywodraeth Cymru Ruth Hussey
- Prif Swyddog Meddygol, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol,
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru; Simon Dean,
Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru; a, Dr Ruth Hussey, Prif Swyddog Meddygol,
Llywodraeth Cymru, ynghylch llywodraethu byrddau iechyd GIG Cymru, yn benodol
ar faterion yn ymwneud â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. 3.2 Datganodd Dr Hussey fuddiant am ei bod yn perthyn i Gadeirydd Bwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. 3.3 Cytunodd Dr Goodall i anfon manylion am gostau ariannol darparu
cefnogaeth ychwanegol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gan gynnwys
defnyddio meddygon locwm a nyrsys asiantaeth, ac i anfon enwau'r holl aelodau
cyfetholedig ar y bwrdd ynghyd â manylion am eu sgiliau a'u pecynnau tâl (os yn
briodol). Cytunodd hefyd i ddarparu rhagor o fanylion ac amserlen ar y
Fframwaith Safonau Iechyd ar gyfer Papur Gwyrdd GIG Cymru a gyhoeddwyd gan y
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 3 Tachwedd 2014. 3.4 Cytunodd Dr Goodall i ystyried cyhoeddi lefel yr ymyrraeth ym mhob
bwrdd iechyd yn fwy cyhoeddus, efallai ar wefan Fy Ngwasanaeth Iechyd Lleol. |
|
(09:55-10:50) |
Llywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru Yr Athro
Andrew Davies – Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Paul
Roberts - Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Rory Farrelly
– Cyfarwyddwr Nyrsio, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Hamish Laing - Cyfarwyddwr Meddygol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro
Morgannwg , Cofnodion: 4.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar yr Athro Andrew Davies,
Cadeirydd; Paul Roberts, Prif Weithredwr; Rory Farrelly, Cyfarwyddwr Nyrsio a
Phrofiad y Claf; a, Hamish Laing, Cyfarwyddwr Meddygol, Bwrdd Iechyd Prifysgol
Abertawe Bro Morgannwg, ynghylch llywodraethu byrddau iechyd GIG Cymru. |
|
(10:50) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitem 6 ac eitem
1 y cyfarfod ar 11 Tachwedd 2014 Cofnodion: 5.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10:50-11:00) |
Llywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 6.1 Trafododd
y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a chytunodd y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at
Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
a Phrif Weithredwr GIG Cymru, yn gofyn am eglurhad ynghylch dosbarthiad yr
adnoddau ariannol ychwanegol yn ystod y flwyddyn ar gyfer byrddau iechyd yn
2014-15. |