Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Michael Kay 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13:30-14:00)

1.

Craffu ar Gyfrifon y Comisiynwyr ar gyfer 2013-14:

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Cofnodion:

1.1 Trafododd yr Aelodau y papurau briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil cyn y sesiynau craffu gyda Chomisiynydd Plant Cymru, Comisiynydd y Gymraeg a Chyngor Celfyddydau Cymru.

 

Trawsgrifiad

(14:00)

2.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Alun Ffred Jones a Julie Morgan. Dirprwyodd Jocelyn Davies a Keith Davies ar eu rhan.

 

(14:00-14:05)

3.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nodwyd y papurau.

3.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Syr Derek Jones yn gofyn a oes polisi sy'n ymwneud â phecynnau diswyddo ac, os felly, a ydynt yn gymwys i staff ar bob gradd.

 

3.1

Rheoli Cyflyrau Cronig: Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (30 Medi 2014)

Dogfennau ategol:

3.2

Cyfrifon Blynyddol Cyfun Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14: Llythyr gan Syr Derek Jones (6 Hydref 2014)

Dogfennau ategol:

(14:05-14:15)

4.

Y Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru): Gohebiaeth y Pwyllgor

PAC(4)-26-14 papur 1

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd yr Aelodau yr ohebiaeth ac roeddent yn cefnogi cais y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i Archwilydd Cyffredinol Cymru wneud trefniadau i archwilio'r data sy'n sail i'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol ym Memorandwm Esboniadol Llywodraeth Cymru i'r Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).

4.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Archwilydd Cyffredinol Cymru yn rhoi gwybod iddo am ei benderfyniad.

 

(14:15-15:00)

5.

Craffu ar Gyfrifon y Comisiynwyr ar gyfer 2013-14: Comisiynydd Plant Cymru

PAC(4)-26-14 papur 2

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Keith Towler Comisiynydd Plant Cymru

Tony Evans – Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol, Comisiynydd Plant Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Craffodd y Pwyllgor ar Gyfrifon Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2013-14, gan holi Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru a Tony Evans, Pennaeth y Gwasanaethau Corfforaethol.

5.2 Cytunodd Comisiynydd Plant Cymru i ddarparu manylion am gost prydlesu'r car, a sut y mae'r costau hynny'n cymharu â'r defnydd o gerbyd preifat. Cytunodd hefyd i ddarparu manylion am y cynnydd mewn gwariant gweinyddol arall o £18,000 rhwng 2012-13 a 2013-14.

 

(15:00-15:45)

6.

Craffu ar Gyfrifon y Comisiynwyr ar gyfer 2013-14: Comisiynydd y Gymraeg

PAC(4)-26-14 papur 3

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Meri Huws - Comisiynydd y Gymraeg

Richard Davies - Swyddog Cyllid, Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Craffodd y Pwyllgor ar Gyfrifon Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2013-14, gan holi Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg a Richard Davies, y Swyddog Cyllid.

 

(15:55-16:40)

7.

Craffu ar Adroddiad Blynyddol Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer 2013-14

PAC(4)-26-14 papur 4

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Nick Capaldi – Prif Weithredwr, Cyngor Celfyddydau Cymru

Hywel Tudor – Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Canolog, Cyngor Celfyddydau Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Craffodd y Pwyllgor ar Adroddiad Blynyddol Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer 2013-14, gan holi Nick Capaldi, y Prif Weithredwr a Hywel Tudor, y Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau.

6.2 Cytunodd Nick Capaldi i ddarparu rhagor o wybodaeth am y cynllun benthyciadau 'Collectorplan', gan gynnwys cymhwysedd gwaith celf, rhywedd, incwm a daearyddiaeth. Cytunodd hefyd i ddarparu nodyn ar sut y mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gweithredu'r strategaeth i wella cyfranogiad pobl o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol fel rhan o'u targedau ar gyfer 2014-15 a'u nodau ar gyfer 2018.

 

(16:40)

8.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Itemau 9 a 10

 

Cofnodion:

8.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(16:40-16:50)

9.

Craffu ar Gyfrifon y Comisiynwyr ar gyfer 2013-14: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunwyd i ysgrifennu at Dr Shooter fel rhan o'i adolygiad o'r Comisiynydd Plant ar y materion a godwyd, yn ogystal ag ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch lefel yr adnoddau.

 

(16:50-17:00)

10.

Craffu ar Adroddiad Blynyddol Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer 2013-14: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

10.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunwyd i ysgrifennu at Gyngor Celfyddydau Cymru yn gofyn am ragor o wybodaeth am rannau o'r Adroddiad Blynyddol na chawsant eu holi yn eu cylch oherwydd prinder amser.