Rheoli cyflyrau cronig
Rheoli cyflyrau cronig
Cyhoeddodd Swyddfa
Archwilio Cymru ei adroddiad, ‘Rheoli
Cyflyrau Cronig yng Nghymru – Diweddariad’ ym mis Mawrth 2014. Roedd yr
adroddiad yn ymwneud â’r problemau cynyddol sy’n wynebu gwasanaethau iechyd a
gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru oherwydd cyflyrau cronig. Nododd yr
adroddiad fod tua 80,0000 o bobl yn dweud bod ganddynt o leiaf un cyflwr
cronig. Mae achosion o'r fath yn cynyddu gydag oedran, ac wrth i fwy o bobl
fyw'n hirach mae'r effaith ar y system iechyd yn debygol o gynyddu. Deliodd y
Pwyllgor â’r materion a godwyd yn yr adroddiad trwy ohebiaeth.
Math o fusnes:
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 28/05/2014