Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Buckle 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09:00)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.

 

(09:00)

2.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Nodwyd y papurau.

 

2.1

Ymdrin â’r Heriau Ariannol sy’n wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru: Llythyr gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol Llywodraeth Leol a Chymunedau (1 Gorffennaf 2014)

Dogfennau ategol:

(09:00)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitemau 4 a 6

 

Cofnodion:

3.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(09:05-09:15)

4.

Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Papur briffio gan Swyddfa Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(4)-20-14(paper 1)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cyflwynodd swyddogion o Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wybodaeth i'r Pwyllgor am yr adroddiad ar y cyd a gyhoeddwyd ar 4 Gorffennaf 2014.

 

(09:15-10:50)

5.

Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Y wybodaeth ddiweddaraf am adroddiadau

PAC(4)-20-14(papur 2)

PAC(4)-20-14(papur 3)

PAC(4)-20-14(papur 4)

PAC(4)-20-14(papur 5)

PAC(4)-20-14(papur 6)

 

Dr Peter Higson - Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Yr Athro Trevor Purt - Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Geoff Lang – Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Iechyd Sylfaenol, Iechyd Cymunedol ac Iechyd Meddwl, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Grace Lewis-Parry - Cyfarwyddwr Llywodraethu a Chyfathrebu, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Holodd y Pwyllgor swyddogion o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ynglŷn â'u trefniadau llywodraethu, sef Dr Peter Higson, Cadeirydd, yr Athro Trevor Purt, Prif Weithredwr, Geoff Lang, Cyfarwyddwr Gweithredol ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Sylfaenol, Iechyd Cymunedol ac Iechyd Meddwl, a Grace Lewis-Parry, Cyfarwyddwr Llywodraethu a Chyfathrebu.

5.2 Cytunodd Geoff Lang i anfon gwybodaeth bellach ynghylch y canlynol:

·       Cyfanswm yr achosion yn ymwneud â diogelwch cleifion yn 2012-13 a sut y mae'r data hwn yn cymharu â'r blynyddoedd blaenorol;

·       Y meysydd clinigol y mae Uned Gyflawni Llywodraeth Cymru yn asesu eu perfformiad.

 

(10:50-11:00)

6.

Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1 Am fod amser yn brin, cytunodd yr Aelodau i drafod y dystiolaeth a gafwyd yn breifat ar ddechrau'r cyfarfod ar 15 Gorffennaf 2014.