Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Buckle
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod. |
||
(09:00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd y cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor. 1.2
Cafwyd ymddiheuriadau gan Alun Ffred Jones. Roedd Jocelyn Davies yn
dirprwyo ar ei ran. |
|
(09:00) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Nodwyd y papurau. |
|
(09:05 - 09:30) |
Cyllid Iechyd ar gyfer 2012-13 a thu hwnt: Trafod yr ymateb gan Lywodraeth Cymru PAC(4)-12-14 (papur 1) PAC(4)-12-14 (papur 2) Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Trafododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru a nododd nad oedd
yn darparu gwybodaeth am y gost o ddiogelu cyflogau yn GIG Cymru (Argymhelliad
12). Gofynnodd yr Aelodau i'r Archwilydd
Cyffredinol edrych ar y mater hwn fel rhan o'r gwaith pellach y mae wedi
ymrwymo i'w wneud. |
|
(09:30-10:30) |
Cyflogau Uwch-reolwyr: Sesiwn dystiolaeth 5 Briff ymchwil Mark Jones, Pennaeth Coleg Gŵyr a Chadeirydd Colegau Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Bu'r pwyllgor yn holi Mark Jones, Pennaeth
Coleg Gŵyr a Chadeirydd Colegau Cymru, ar gyflogau uwch-reolwyr. 4.2 Cytunodd Mark Jones i anfon y wybodaeth ganlynol: ·
manylion pellach am sut y cyrhaeddwyd y ffigurau ar gyfer Coleg Catholig
Dewi Sant a Choleg Gwent; ·
beth yw 'benefit in kind'; ·
yr adroddiad meincnodi diweddaraf gan Gymdeithas y Colegau. |
|
(10:30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau 6 & 7 Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10:30-10:45) |
Cyflogau Uwch-reolwyr: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law. 6.2 Gofynnodd yr Aelodau fod y Gwasanaeth Ymchwil a/neu Swyddfa Archwilio
Cymru yn ystyried a yw uno'r colegau wedi arwain at gynnydd mewn cyflogau
penaethiaid. |
|
(10:45-11:00) |
Trefniadau cyflenwi ar gyfer absenoldeb athrawon: Trafod yr adroddiad drafft PAC(4)-12-14 (papur 3) Cofnodion: 7.1 Yn amodol ar un newid bach, cytunodd yr Aelodau yr adroddiad drafft. |