Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Buckle
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Darllenwch y trawsgrifiad o'r cyfarfod. |
||
(09:00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r Pwyllgor. 1.2
Cafwyd ymddiheuriadau gan Mohammad Asghar. Dirprwyodd William Graham ar ei ran. |
|
(09:00) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1
Nodwyd y papurau. |
|
Trefniadau Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon: Llythyr gan Owen Evans (28 Chwefror 2014) Dogfennau ategol: |
||
Cyflog Uwch Reolwyr: Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru (5 Mawrth 2014) Dogfennau ategol: |
||
Rheoli Grantiau yng Nghymru: Llythyr gan yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru (3 Mawrth 2014) Dogfennau ategol: |
||
(09:00-10:15) |
Sesiwn ymadawol: Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant, Llywodraeth Cymru David
Sissling - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif
Weithredwr, GIG Cymru Briff
ymchwil Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn ymadawol gyda David
Sissling, Cyfarwyddwr Cyffredinol ymadawol, Iechyd, Gwasanaethau
Cymdeithasol a Phlant, Prif Weithredwr GIG Cymru, Llywodraeth Cymru. 3.2 Cytunodd y Cyfarwyddwr Cyffredinol i
anfon nodyn at y Pwyllgor am faterion iechyd meddwl. 3.3 Diolchodd y Pwyllgor i David
Sissling am ei wasanaeth i’r GIG ac i’r sector cyhoeddus yng Nghymru ac am y
modd yr oedd wedi cyfrannu at waith y Pwyllgor. Dymunodd y Pwyllgor yn dda iddo
yn y dyfodol. |
|
(10:15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitem
5 Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10:45-11:00) |
Gofal heb ei drefnu: Trafod yr adroddiad drafft PAC(4)-08-14 Papur 1 Cofnodion: 5.1 Trafododd yr Aelodau weddill yr
adroddiad drafft. Bydd y Clercod yn llunio fersiwn ddiwygiedig a’i hanfon at yr
Aelodau drwy’r e-bost i gael eu sylwadau. Bydd y Pwyllgor yn dychwelyd i’r
eitem yn y cyfarfod ar 3 Ebrill. |