Mr Darren Millar AC
Cadeirydd
Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
28 Chwefror 2014
Annwyl Darren
Trefniadau Llanw yn Absenoldeb Athrawon
Diolch am eich llythyr dyddiedig 19 Chwefror a oedd yn gofyn am wybodaeth bellach am y dadansoddiad anffurfiol o’r Radd Meistr mewn Ymarfer Addysgol (MEP) a’r cylch gorchwyl ar gyfer y gwerthusiad allanol o’r rhaglen.
Mae’r tîm Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi yn ymgymryd â gwaith cwmpasu ar gyfer y gwerthusiad allanol ar hyn o bryd. Rhagwelir y bydd cylch gorchwyl ar gael yn fuan ar gyfer y gwerthusiad a byddaf yn sicrhau bod copi yn cael ei anfon i'r pwyllgor, fel y gofynnwyd amdano.
O ran y dadansoddiad anffurfiol o MEP, ers lansio'r rhaglen ym mis Medi 2012, mae'r Is-adran Safonau Ymarferwyr a Datblygu Proffesiynol wedi ymgymryd â dadansoddiad anffurfiol parhaus o sut y mae'r Gynghrair[1] yn rhoi'r contract ar waith er mwyn sicrhau bod y rhaglen yn cael ei chyflwyno i'r safon uchaf ac i sicrhau gwerth am arian. Fel y soniais yn fy llythyr ar 7 Chwefror, mae hyn wedi cynnwys canolbwyntio’n benodol ar ddefnyddio mentoriaid allanol, sef un o'r materion yr oedd y Pwyllgor eisiau mwy o wybodaeth amdano.
Seiliwyd ein dadansoddiad anffurfiol ar wybodaeth a gasglwyd ynghyd gan swyddogion o amrywiaeth o ffynonellau gan gynnwys:
· Bod yn bresennol ym mhob digwyddiad hyfforddi i fentoriaid allanol a ddarperir gan y Gynghrair ac ymgysylltu â mentoriaid i gasglu adborth ar eu rôl
· Bod yn bresennol ym mhob digwyddiad dysgu modiwl a ddarperir gan y Gynghrair ac ymgysylltu ag athrawon i gasglu adborth ar eu profiad o raglen MEP
· Cadeirio’r Grŵp Rheoli Mentoriaid, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r Gynghrair, Llywodraeth Cymru a mentoriaid allanol. Y grŵp hwn sy’n cytuno ar yr holl faterion gweithredol sy'n berthnasol i hyfforddi a defnyddio mentoriaid allanol. Mae’r Is-grŵp Sicrhau Ansawdd, sy'n cynnwys yr un cynrychiolwyr yn ogystal â chynrychiolwyr o'r Awdurdodau Lleol, hefyd yn monitro ansawdd y ddarpariaeth
· Bod yn bresennol ym mhob cyfarfod o Fwrdd Gweithredol y Gynghrair i drafod yr holl faterion sy'n berthnasol i ddarparu MEP. (Mae'r Bwrdd Gweithredol hefyd yn gwasanaethu fel Bwrdd Prosiect y Gynghrair)
· Cynnal cyfarfodydd contract misol rhwng Rheolwr Prosiect y Gynghrair a Rheolwr Prosiect MEP Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y contract yn cael ei gyflenwi yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru ac yn unol ag egwyddorion rheoli contract effeithiol
· Lleoli Cydlynwyr Rhaglen Proffesiynol ym mhob consortiwm i weithio'n uniongyrchol ag athrawon, ysgolion ac awdurdodau lleol/consortia sy’n cymryd rhan. Mae'r Cydlynwyr hyn o’r consortia ar secondiad i Lywodraeth Cymru i ddarparu cefnogaeth yn y maes ac i gasglu gwybodaeth am agweddau gweithredol ar ddarparu MEP a rhaglenni eraill Llywodraeth Cymru, megis ymsefydlu statudol.
Gyda'i gilydd, mae'r ffynonellau hyn wedi darparu gwybodaeth yn rheolaidd i'r Is-adran Safonau Ymarferwyr a Datblygu Proffesiynol am ddarpariaeth MEP, yn enwedig o ran profiad athrawon sy'n cymryd rhan a defnyddio mentoriaid allanol. Mae'r Is-adran yn fodlon bod defnyddio ymarferwyr profiadol o ysgolion fel mentoriaid allanol wedi darparu gwerth am arian, hyd yma, o ran y gefnogaeth a ddarperir i athrawon ac ysgolion, ac rydym yn disgwyl i hyn barhau. Byddwn, felly, yn parhau i fonitro'r agwedd hon ar y ddarpariaeth yn agos.
Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod angen dulliau gwerthuso mwy ffurfiol i gadarnhau dadansoddiad anffurfiol o'r fath, a bydd gofyn i'r gwerthusiad allanol, sy'n cael ei gynllunio ar hyn o bryd, eu darparu.
Gobeithiaf fod yr wybodaeth ychwanegol hon yn mynd i'r afael â'r materion a godwyd gennych ond mae croeso ichi gysylltu â mi os ydych angen rhagor o fanylion eto.
Yn gywir,
Owen Evans
[1]Caiff contract MEP ei gyflenwi gan gynghrair o Sefydliadau Addysg Uwch - Prifysgolion Caerdydd, Bangor ac Aberystwyth mewn partneriaeth â Sefydliad Addysg Llundain.