Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Buckle
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod. |
||
(09:00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor. |
|
(09:00) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: 2.1 Nodwyd y
papurau. |
|
Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-Coed a Gwynllŵg: Llythyr gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd (5 Chwefror 2014) Dogfennau ategol: |
||
(09:05) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau 4, 5, 6, 7 & 8 Cofnodion: 3.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(09:05-09:20) |
Rheoli Grantiau yng Nghymru: Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru 2013 PAC(4)-06-14 (papur 1) Cofnodion: 4.1 Trafododd
yr Aelodau yr adroddiad gan nodi y gwneir trefniadau i drafod yr eitem hon
ymhellach ar ôl y Pasg pan fydd dau adroddiad cysylltiedig gan Swyddfa Archwilio
Cymru ar gael. Cytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru
i ofyn am ragor o wybodaeth cyn y cyfarfod hwnnw. |
|
(09:20 - 09:50) |
Trefniadau Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon: Trafod tystiolaeth ychwanegol PAC(4)-06-14 (papur 2) PAC(4)-06-14 (papur 3) Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Nododd yr
Aelodau y dystiolaeth ychwanegol. Cytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu
at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurder ynghylch nifer o faterion a bydd y
clercod yn llunio adroddiad drafft. |
|
(09:50-10:15) |
Cyllid Iechyd ar gyfer 2012-13 a thu hwnt: Trafod tystiolaeth ychwanegol PAC(4)-06-14 (papur 4) Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.1 Nododd yr
Aelodau y dystiolaeth ychwnaegol. Mynegodd yr Aelodau rai pryderon a chytunwyd
i ymdrin â'r rhain yn y sesiwn lafar sydd i ddod gyda Phrif Weithredwr GIG Cymru. 6.2 Bydd y
clercod yn llunio fersiwn derfynol o'r adroddiad ac yn ei ddosbarthu i'r
Aelodau er mwyn iddynt gytuno arno. |
|
(10:15-10:40) |
Gofal heb ei drefnu: Trafod tystiolaeth ychwanegol PAC(4)-06-14 (papur 5) Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.1 Nododd yr
Aelodau y dystiolaeth ychwanegol a gaiff ei hadlewyrchu yn adroddiad y
Pwyllgor. |
|
(10:40-11:00) |
Ymdrin â’r Heriau Ariannol sy’n wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru: Sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru Cofnodion: 8.1 Cafodd yr
Aelodau sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru ar Ymdrin â'r heriau
ariannol sy'n wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru. 8.2 Cytunwyd
y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth
Leol Cymru i ofyn am ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru. Bydd y
Cadeirydd hefyd yn ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a
Llywodraeth Leol i roi gwybod i'r Pwyllgor am yr adroddiad hwn a gofyn iddo
ystyried cynnal ymchwiliad i'r mater. 8.3 Ar ôl i'r
ymatebion ddod i law, bydd y Pwyllgor yn trafod a ddylid cynnal ymchwiliad i'r
mater. |