Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Ty Hywel
Cyswllt: Fay Buckle
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
(09:00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r Pwyllgor. |
|
(09:00-10:00) |
Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru PAC(4)-04-14
(papur 1) Yr
Athro Jean White - Prif Swyddog Nyrsio, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Bu’r
Pwyllgor yn holi’r Athro Jean White, Prif Swyddog Nyrsio, Peter Jones, Dirprwy
Gyfarwyddwr Digital Health and Care a Peter Wiles, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran
Polisi a Pherfformiad ynglŷn ag arlwyo a maeth mewn ysbytai. 2.2 Cytunodd
yr Athro White i anfon rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r ffordd y mae’r
rhaglen hyfforddi maeth e-ddysgu’n cael ei hariannu a’r
amserlen ar gyfer cynnwys yr holl hyfforddiant ar holl gofnodion staff
electronig. 2.3 Cytunodd
yr Athro White i ysgrifennu at y Pwyllgor ym mis Ebrill gyda gwerthusiad o’r
cynllun peilot sy’n cael ei gynnal ar wastraff bwyd yn Ysbyty Llandochau ym mis
Mawrth. Byddai hefyd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau y mae’r
byrddau iechyd yn eu cael gydag awdurdodau lleol ynglŷn â chasglu gwastraff bwyd. Cytunodd
hefyd i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r ffordd y mae hyfforddiant
cyn-gofrestru’n cael ei grynhoi. |
|
(10:00-10:20) |
Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-Coed a Gwynllŵg: Ymateb Swyddfa Archwilio Cymru i argymhellion yr adroddiad PAC(4)-04-14 (papur 2) Adroddiad Swyddfa Archwilio
Cymru: Gwella
Llywodraethu a Rheolaeth Ariannol: Materion yn deillio o Archwilio Cyfrifon Cyngor
Cymuned 2011-12 (Medi 2013) Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Cafodd y
Pwyllgor sesiwn friffio gan swyddogion o Swyddfa Archwilio Cymru ynglŷn â’u hymatebion i’r
argymhellion a oedd wedi’u cynnwys yn adroddiad y Pwyllgor
ar Fwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-Coed a Gwynllŵg, a oedd yn hollol berthnasol i Swyddfa Archwilio Cymru. |
|
(10:20) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Nodwyd y
papurau. |
|
Cyllid Iechyd ar gyfer 2012-13 a thu hwnt: Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru (27 Ionawr 2014) Dogfennau ategol: |
||
(10:20) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau
6, 7 a 8 Cofnodion: 5.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10:20-10:25) |
Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 6.1 Bu’r
Aelodau’n trafod y dystiolaeth a gafwyd yn gynharach a chytunwyd i ystyried y
wybodaeth ychwanegol yn gynnar yn ystod tymor yr haf gyda golwg ar gynnal
sesiwn dystiolaeth bellach gyda’r Athro White. |
|
(10:25-10:40) |
Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed: Sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru Cofnodion: 7.1 Cafodd yr
Aelodau sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru ar Wasanaethau Iechyd Meddwl
Plant a’r Glasoed. 7.2 Cytunodd
y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am ymateb i adroddiad
Swyddfa Archwilio Cymru a fyddai’n cael ei rannu gyda’r Pwyllgor Plant, Pobl
Ifanc ac Addysg. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i fynd ar drywydd unrhyw faterion na
chawsant eu cynnwys yn ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. |
|
(10:40-11:00) |
Ymgynghoriad ynghylch cod ymarfer archwilio newydd a datganiad ymarfer PAC(4)-04-14 (papur 3) Dogfennau ategol: Cofnodion: 8.1 Rhoddodd
Swyddfa Archwilio Cymru sesiwn friffio ar yr Ymgynghoriad ar god ymarfer
archwilio newydd a datganiad ymarfer. Cytunwyd hefyd i anfon nodyn cyfreithiol
ynglŷn â’r ymrwymiad penodol mewn perthynas
ag archwilio landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac a gafodd yr argymhelliad
yn Adolygiad Essex ar newid y swyddogaeth hon ei dderbyn. |