Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Fay Buckle 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09:00)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor a chroesawodd Alun Ffred Jones yn sgîl cael ei ethol yn aelod o'r Pwyllgor ar 21 Ionawr.  

 

(09:00-09:05)

2.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Nodwyd y papurau.

 

2a

Cyllid Iechyd ar gyfer 2012-13 a thu hwnt: Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru (14 Ionawr 2014)

Dogfennau ategol:

2b

Gofal heb ei drefnu: Llythyr gan David Sissling (14 Ionawr 2013)

Dogfennau ategol:

2c

Gofal heb ei drefnu: Gwybodaeth gan Gyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda

Dogfennau ategol:

2d

Gofal heb ei drefnu: Llythyr gan Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Hywel Dda (22 Ionawr 2014)

Dogfennau ategol:

(09:05)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitemau 4 a 5

 

Cofnodion:

3.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(09:10-09:30)

4.

Cyllido Addysg Uwch: Sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru

Cofnodion:

4.1 Cynhaliwyd sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru ar yr adroddiad ar Gyllid Addysg Uwch a gyhoeddwyd ar 21 Tachwedd 2013.

 

4.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn ceisio ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru.  Cytunodd hefyd i ddychwelyd at y mater hwn unwaith y bydd rhagor o waith wedi cael ei gwblhau yn ddiweddarach eleni.

 

(09:30-11:00)

5.

Cyllid Iechyd ar gyfer 2012-13 a thu hwnt: Trafod yr adroddiad

PAC(4)-03-14 (papur 1)

 

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft. Awgrymwyd nifer o fân welliannau a chytunwyd y byddai drafft arall yn cael ei ddosbarthu ar gyfer cytuno arno y tu allan i'r Pwyllgor.