Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Fay Buckle
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r
cyfarfod. |
||
(09:00 - 09:45) |
Cyllid Iechyd ar gyfer 2012-13 a thu hwnt: Tystiolaeth gan Gonffederasiwn GIG Cymru PAC(4)-29-13
papur 1 Helen
Birtwhistle – Cyfarwyddwr, Conffederasiwn GIG Cymru Allison
Williams, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Holodd y Pwyllgor Helen Birtwhistle, Cyfarwyddwr
Conffederasiwn GIG Cymru, ac Allison Williams, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Cwm
Taf, ynghylch y Cyllid Iechyd ar gyfer 2012-13 a thu hwnt. Camau gweithredu: Cytunodd Allison Williams i anfon nodyn ar sefyllfa
ariannol Bwrdd Iechyd Cwm Taf yn seithfed mis y flwyddyn ariannol hon. Cytunodd Allison Williams i anfon nodyn ar gyfanswm y
cyffuriau a gafodd eu gwastraffu gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf ym mlwyddyn ariannol
2012-13. |
|
(09:45 - 10:30) |
Gofal heb ei drefnu: Ymateb gan Lywodraeth Cymru PAC(4)-29-13
papur 2 David
Sissling - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif
Weithredwr, GIG Cymru Kevin Flynn
- Cyfarwyddwr Cyflenwi a Brif Weithredwr GIG Cymru Dr Grant
Robinson - Arweinydd Clinigol ar gyfer Gofal heb ei Drefnu Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Holodd y Pwyllgor David Sissling, y Cyfarwyddwr
Cyffredinol ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr GIG
Cymru, Kevin Flynn, Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru, a Dr Grant Robinson, yr
Arweinydd Clinigol ar gyfer Gofal heb ei drefnu, Llywodraeth Cymru, ynghylch
Gofal heb ei drefnu. Camau gweithredu: Cytunodd Mr Sissling i anfon nodyn yn cwmpasu'r pum maes
blaenoriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio arnynt wrth ddatblygu'r
rhaglen genedlaethol ar gyfer gofal heb ei drefnu, enghreifftiau o fentrau i
helpu cleifion bregus ac oedrannus a sut y caiff y rhain eu hyrwyddo'n lleol ac
yn genedlaethol. Cytunodd Mr Sissling i anfon nodyn ar gost Dewis Doeth a
gwerthusiad o'r cynllun ar gyfer y dyfodol, a'r nifer gwirioneddol o bobl sy'n
defnyddio Galw Iechyd Cymru. |
|
(10:30) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Nodwyd y papurau. |
|
(10:30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau 6,
7 ac 8 |
|
(Gohirio Busnes) Gan fod y sesiynau blaenorol wedi gor-redeg, cafodd
gweddill y busnes ei ohirio ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol. |
||
(10:30 - 10:35) |
Cyllid Iechyd ar gyfer 2012-13 a thu hwnt: Trafod y dystiolaeth |
|
(10:35 - 10:40) |
Gofal heb ei drefnu: Trafod y dystiolaeth |
|
(10:40 - 11:00) |
Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Trafod yr adroddiad drafft PAC(4)-29-13
papur 3 |