Cyllid Iechyd

Cyllid Iechyd

Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru adolygiad manwl o gyllid iechyd ym mis Gorffennaf 2012. Roedd yr adroddiad hwn yn nodi, gan fod y GIG a gwasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru yn wynebu heriau ariannol digynsail, nad oedd y patrymau hanesyddol yn gynaliadwy, lle’r oedd Llywodraeth Cymru yn darparu arian ychwanegol i gyrff y GIG yn ystod y flwyddyn i ymdopi â diffygion.

 

Cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ymchwiliad ar sail materion a nodwyd yn adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru. Ymchwiliodd y Pwyllgor i’r safbwyntiau canlynol:

 

  • rôl Llywodraeth Cymru o ran cefnogi gwasanaethau iechyd;
  • barn gyffredinol ar yr heriau y mae’r Gwasanaeth Iechyd yn ei gyfanrwydd yn eu hwynebu;
  • a’r heriau penodol i’r gwahanol fyrddau iechyd, fel materion daearyddol, demograffeg, ffiniau â Lloegr etc.

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/04/2013

Dogfennau