Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Davies
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod. |
||
(09.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Alun Ffred Jones AC. |
|
(09.00 - 09.05) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cafodd
y papurau eu nodi. |
|
(09.05 - 10.00) |
Craffu at Gyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2015-2016 Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth. Jo Salway, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllidebu Strategol,
Llywodraeth Cymru Jeff Andrews, Cynghorydd Polisi Arbenigol, Llywodraeth
Cymru Papur 1 – Cynnig y Gyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth
Cymru 2015-2016. Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd
y Pwyllgor dystiolaeth gan Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid a Busnes y
Llywodraeth; Matt Denham-Jones, Pennaeth
Rheoli a Chofnodi Cyllidebau, Llywodraeth Cymru; a Jeff Andrews, Cynghorydd
Polisi Arbenigol. |
|
(10.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau 5, 6, 7, 8 a 9 Cofnodion: 4.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10.15 - 10.30) |
Craffu ar Gyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2015-2016: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(10.30 - 10.45) |
Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013: Gohebiaeth gan Gadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru Papur 2 - Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid gan
Gadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.1 Bu’r
Pwyllgor yn trafod yr ohebiaeth, a chytunodd i ysgrifennu at Gadeirydd Swyddfa
Archwilio Cymru. |
|
(10.45 - 11.00) |
Ymchwiliad etifeddiaeth Papur 3 - Ymchwiliad etifeddiaeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1
Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad etifeddiaeth. |
|
(11.00 - 11.15) |
Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru): Ystyried yr amserlen Papur 4 – Llythyr gan y Llywydd at Gadeirydd y Pwyllgor
Cyllid Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Bu’r
Pwyllgor yn trafod yr amserlen arfaethedig ar gyfer y Bil Casglu a Rheoli
Trethi (Cymru), a bydd yn ysgrifennu at y Llywydd. |
|
(11.15 - 11.30) |
Perfformiad Corfforaethol Comisiwn y Cynulliad – Ebrill 2014 – Mawrth 2015 Papur 5 – Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid gan Brif
Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Dogfennau ategol: Cofnodion: 9.1
Eithriodd Peter Black ei hun o’r eitem yn sgîl ei rôl fel Comisiynydd. 9.2 Bu’r
Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad ar Berfformiad Corfforaethol Comisiwn y
Cynulliad ar gyfer Ebrill 2014 tan fis Mawrth 2015. 9.3 Nododd
y Pwyllgor yr adroddiad, a chytunodd i ysgrifennu at Claire Clancy i gael
rhagor o wybodaeth. |