Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15 - 09.30)

1.

Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru): Trafod penodi cynghorydd arbenigol

Papur 1 - Ceisiadau

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1 Trafododd y Pwyllgor y ceisiadau a bydd y Clerc yn cysylltu â'r ymgeisydd a ffafriwyd.

 

(09.30 - 09.45)

2.

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): Ystyriaeth gychwynnol

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor oblygiadau ariannol Bil Iechyd Cyhoeddus (Cymru) a chytunodd i wahodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gyfarfod er mwyn craffu ymhellach.

 

Trawsgrifiad

(10.00)

3.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

3.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Mike Hedges AC.

 

(10.00 - 11.00)

4.

Ariannu yn y dyfodol: Sesiwn dystiolaeth 2

Alistair Brown, Cyfarwyddwr Strategaeth Ariannol, Llywodraeth yr Alban

Sean Neill, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyfrifoldeb Ariannol, Llywodraeth yr Alban

 

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth drwy gynhadledd fideo gan Alistair Brown, Cyfarwyddwr Strategaeth Ariannol, a Sean Neill, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyfrifoldeb Ariannol, Llywodraeth yr Alban.

 

4.2 Cytunodd swyddogion Llywodraeth yr Alban i ddarparu gwybodaeth ychwanegol i'r Pwyllgor ar City Deals, ac i ymateb yn ysgrifenedig i'r cwestiynau nas cyrhaeddwyd yn ystod y sesiwn dystiolaeth.

 

(11.00 - 12.00)

5.

Ariannu yn y dyfodol: Sesiwn dystiolaeth 3

Alan Trench, arbenigwr ar ddatganoli ac aelod o Gomisiwn Adolygu Canolfan Bingham ar gyfer Trefn y Gyfraith

 

Adroddiad Canolfan Bingham ar Reolaeth y Gyfraith: ‘Croesffordd Gyfansoddiadol: Ffyrdd Ymlaen ar gyfer y Deyrnas Unedig’ (Saesneg yn unig)

 

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Alan Trench, arbenigwr ar ddatganoli ac aelod o Gomisiwn Adolygu Canolfan Bingham ar gyfer Trefn y Gyfraith.

 

(12.00)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitemau 7 ac 8

 

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

 

(12.00 - 12.15)

7.

Ariannu yn y dyfodol: Trafod y dystiolaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(12.15 - 12.30)

8.

Cyllid Cymru: Trafod y dystiolaeth ymhellach

Papur 2 – Cyllid Cymru  – dilyn y mater

Papur 3 – Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid gan Kevin O’Leary, Prif Weithredwr Dros Dro, Cyllid Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y mater a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth.