Casglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru

Casglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru

O fis Ebrill 2018 ymlaen, bydd angen sefydlu trefniadau i gasglu a rheoli’r ddwy dreth newydd yng Nghymru. Penderfynodd Lywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth ar gasglu a rheoli trethi’n gyntaf. Cyflwynwyd bil yn ymdrin â’r trefniadau hyn, y Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) ei gyflwyno gerbron y Cynulliad yn ystod haf 2015, a daeth yn gyfraith yng Nghymru yn Ebrill 2016.

 

Wrth baratoi ar gyfer y cyfrifoldebau newydd hyn, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Bapur Gwyn, sef Casglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru. Nod y Papur Gwyn oedd ceisio barn am y camau y gellid eu cymryd i annog pobl i gydymffurfio â’r trefniadau ac i fynd i’r afael â’r rhai nad ydynt yn gwneud hynny.

 

Cynhaliodd y Pwyllgor Cyllid ymchwiliad i gasglu trethi datganoledig.

 

Tystiolaeth gan y cyhoedd

 

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y testun yma.

Math o fusnes: Gwaith cyn y broses Ddeddfu (e.e. Papurau Gwyn)

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 17/03/2015

Dogfennau

Ymgynghoriadau