Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Price 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

View the trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 929KB) Gweld fel HTML (192KB)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Eluned Parrott AC a Gwenda Thomas AC. Dirprwyodd William Powell AC ar ran Eluned Parrott AC ar gyfer eitemau un a dau.

 

1.2 Datganodd Dafydd Elis-Thomas AC a William Graham AC eu bod ill dau yn aelodau o’r Gymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad.

(09.30-10.20)

2.

Trafod materion sy'n effeithio ar yr economi wledig

Ross Murray, Llywydd, y Gymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Atebodd Ross Murray gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.

2.2 Cynigiodd Ross Murray ddarparu’r hyn a ganlyn:

·         unrhyw sylwadau y mae’r Gymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad wedi eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru ynghylch yr agenda trechu tlodi.

·         copi o’r dystiolaeth a ddarperir gan y Gymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad i Bwyllgor Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig San Steffan ar gyfer sesiwn dystiolaeth Ross Murray fis Ebrill, mewn perthynas â sut y mae tir yn cael ei ddefnyddio yn cyfrannu at greu neu rwystro llifogydd, gan gynnwys manylion am Brosiect Pontbren.

(10.40-11.30)

3.

Craffu ar waith Llysgenhadon Cyllid yr UE

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Atebodd Hywel Ceri Jones a Grahame Guilford gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.

4.

Papurau i'w nodi

4.1

Helpu Pobl Ifanc i gael Gwaith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.

4.2

Datganoli Ardrethi Busnes i Gymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.

4.3

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y Bil Menter

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.3.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.

4.4

Pwysau sy'n wynebu'r diwydiant dur yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.4.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.

4.5

Cyllido Addysg Uwch

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.5.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

(11.30-11.55)

6.

Trafodaeth am yr adroddiad drafft ar y Blaenoriaethau ar gyfer Dyfodol Seilwaith y Rheilffyrdd yng Nghymru

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar y Blaenoriaethau ar gyfer Dyfodol Seilwaith y Rheilffyrdd yng Nghymru.