Ymchwiliad i’r Blaenoriaethau ar gyfer dyfodol Seilwaith y Rheilffyrdd yng Nghymru
Cynhaliodd y Pwyllgor Menter a Busnes ymchwiliad i
ystyried a yw seilwaith rheilffyrdd Cymru yn diwallu anghenion teithwyr a
busnesau wrth i'r galw gynyddu
Y
cefndir
Yng Nghymru, mae nifer y siwrneiau gan deithwyr wedi
cynyddu tua 50 y cant, o ychydig o dan 20 miliwn o siwrneiau yn 2003-04 i
oddeutu 30 miliwn yn 2014-15.
Mae Network Rail yn credu y bydd nifer y teithwyr yng
Nghymru yn parhau i gynyddu yn y dyfodol. Er enghraifft, mae'n credu y bydd
nifer y teithwyr sy’n cymudo i Gaerdydd yn cynyddu 144 y cant rhwng 2013 ac
2043. Mae hefyd yn disgwyl cynnydd o 151 y cant yn nifer y teithwyr sy'n
teithio rhwng arfordir gogledd Cymru a Llundain, a chynnydd o 77 y cant yn y
nifer sy’n teithio rhwng gogledd a de Cymru erbyn 2043.
Rydym yn gwybod bod y seilwaith rheilffyrdd drwy Brydain
o dan bwysau wrth i nifer gynyddol ddefnyddio gwasanaethau trên. Gofynnodd y
Pwyllgor am farn ynghylch:
- A ydych yn credu bod
seilwaith rheilffyrdd Cymru yn ymdopi â’r nifer sy'n defnyddio trenau’n
awr, a fydd yn gallu ymdopi yn y dyfodol, a sut y mae angen ei wella?
- A yw Network Rail a phobl eraill sy'n
cynllunio sut i weithredu, cynnal a chadw a gwella'r seilwaith rheilffyrdd
yn rhoi ystyriaeth briodol i anghenion defnyddwyr o Gymru?
- A oes unrhyw beth arall y gellid ei wneud i
sicrhau bod penderfyniadau am y rheilffyrdd yng Nghymru a Lloegr yn
gydgysylltiedig er mwyn darparu’r gwasanaeth gorau bosibl yn y ddwy wlad.
Mae hyn yn bwysig oherwydd nad yw ein rheilffyrdd yn
dod i ben pan fyddant yn cyrraedd ffiniau.
O ran gwella traciau, gorsafoedd a rhannau eraill o’r
seilwaith, mae penderfyniadau ynghylch lle i fuddsoddi yn
cael eu gwneud yn eithaf pell o flaen llaw a chânt eu cyflwyno mewn cynlluniau
pum mlynedd. Mae'r cynllun pum mlynedd nesaf yn dechrau yn 2019. Mae'r
dewisiadau ynghylch sut a lle i fuddsoddi yn y dyfodol yn cael eu hystyried yn
awr ac rydym yn awyddus i ddylanwadu ar y rhain.
Gwyddom fod angen rheilffordd fodern ac effeithlon yng
Nghymru i wella'r economi, a hefyd i helpu pobl i deithio am resymau eraill ee
hamdden, ymweld â theulu neu fynd i'r ysbyty. Mae rheilffyrdd gwell nid yn unig
yn gwneud bywyd yn haws i deithwyr, ond hefyd yn ei gwneud yn haws i fusnesau
gludo nwyddau ar drenau.
Mae'r broses gynllunio yn dechrau gyda Network Rail sy'n
gweithio gyda'r diwydiant rheilffyrdd ac eraill i gyhoeddi adroddiad sy'n
awgrymu sut y gellir gwella’r rhwydwaith rheilffyrdd. Hon yw 'Astudiaeth Llwybr
Cymru' a chaiff y fersiwn derfynol ei chyhoeddi’n gynnar yn 2016.
Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf o
benderfyniadau ynghylch yr arian a gaiff ei wario ar y seilwaith rheilffyrdd
yng Nghymru. Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, Patrick McLoughlin
AS, yn esbonio’r hyn y mae am i’r rheilffordd ei gyflawni, y prosiectau mawr a
gaiff eu rhoi ar waith, a faint o arian sydd ar gael. Nodir y rhain mewn dau
adroddiad sy’n dwyn y teitl 'Manyleb Allbwn Lefel Uchel’ neu HLOS, a'r
"Datganiad o’r cyllid sydd ar gael" neu SOFA. Bydd Network Rail wedyn
yn ystyried sut y bydd yn cyflawni hyn, a bydd y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd yn
gwneud yn siŵr bod ei gynllun yn debygol o fod yn effeithiol. Rydym yn
cynnal yr ymchwiliad hwn yn awr er mwyn medru cyflwyno adroddiad tra mae’r
penderfyniadau hyn yn cael eu trafod.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn buddsoddi arian yn y
rhwydwaith rheilffyrdd, felly mae’r ymchwiliad hwn yn cynnwys penderfyniadau
gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.
Tystiolaeth gan y cyhoedd
Rhwng mis
Tachwedd 2015 a mis Ionawr 2016 cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i
gasglu tystiolaeth.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/11/2015
Dogfennau
- Adroddiad - Blaenoriaethau ar gyfer dyfodol Seilwaith Rheilffyrdd Cymru (PDF 1.3 MB)
- * Ymateb Llywodraeth Cymru - Ebrill (208KB)
Ymgynghoriadau