Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod (PDF 385KB) Gweld
fel HTML (287KB) |
||
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Cafwyd ymddiheuriadau gan Keith Davies AC, Mick Antoniw AC, Eluned Parrott AC a
Gwenda Thomas AC. |
||
Ymchwiliad i’r Blaenoriaethau ar gyfer Dyfodol Seilwaith y Rheilffyrdd yng Nghymru |
||
(09.30-10.20) |
Ymchwiliad i’r Blaenoriaethau ar gyfer Dyfodol Seilwaith y Rheilffyrdd yng Nghymru - Tystiolaeth gan Transport Scotland Aidan Grisewood, Cyfarwyddwr Rheilffyrdd, Transport Scotland Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1.1 Atebodd Aidan Grisewood gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor. |
|
(10.30-11.30) |
Ymchwiliad i’r Blaenoriaethau ar gyfer Dyfodol Seilwaith y Rheilffyrdd yng Nghymru - Tystiolaeth gan Network Rail Paul McMahon, Rheolwr Gyfarwyddwr Llwybrau – Cymru, Network Rail Tim James, Pennaeth Strategaeth a Chynllunio, Network Rail Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.2.1 Atebodd Paul McMahon a Tim James gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor. 2.2.2 Cynigiodd Paul McMahon a Tim James ddarparu'r wybodaeth a ganlyn: ·
Manylion am y dadansoddiad a gynhaliwyd gan dîm rheoli asedau Network Rail
o'r ardaloedd yng Nghymru y mae llifogydd wedi effeithio arnynt droeon a sut y
maent yn mesur y risg i'r rhwydwaith yn y dyfodol a'r gost ar gyfer gwella
gallu'r rhwydwaith i wrthsefyll llifogydd o'r fath. ·
Data Network Rail ar faterion ariannol a pherfformiad mewn perthynas â
llwybr Cymru. |
|
(11.30-12.30) |
Ymchwiliad i’r Blaenoriaethau ar gyfer Dyfodol Seilwaith y Rheilffyrdd yng Nghymru - Cyrff rheoleiddio a chynllunio rheilffyrdd John Larkinson, Cyfarwyddwr Rheoleiddio Economaidd a
Defnyddwyr, y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd Paul Plummer, Prif Weithredwr, Rail Delivery Group Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.3.1 Atebodd John Larkinson a Paul Plummer gwestiynau gan aelodau'r
Pwyllgor. 2.3.2 Cynigiodd John Larkinson ddarparu adroddiad blynyddol y Swyddfa
Rheilffyrdd a Ffyrdd ar effeithlonrwydd / perfformiad ariannol Network Rail yn
ôl llwybr. |
|
(13.30-14.30) |
Ymchwiliad i’r Blaenoriaethau ar gyfer Dyfodol Seilwaith y Rheilffyrdd yng Nghymru - Tystiolaeth gan Lywodraeth y DU Colin Poole, Rheolwr Strategaeth Rheilffyrdd Rhanbarthol,
Yr Adran Drafnidiaeth Brian Etheridge, Cyfarwyddwr Cyflenwi Integredig, Yr
Adran Drafnidiaeth Cofnodion: 2.4.1 Atebodd Colin Poole a Brian Etheridge gwestiynau gan aelodau'r
Pwyllgor. |
|
Papurau i’w nodi |
||
Canlyniad Arolwg y Rail Freight Group 2015 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1.1 Nododd y Pwyllgor y papur. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod a dechrau'r cyfarfod nesaf. Cofnodion: 4.1 Cytunodd y Pwyllgor i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod a
dechrau'r cyfarfod nesaf. |
||
(14.30-14.40) |
Trafodaeth am y blaenoriaethau ar gyfer y Pwyllgor olynol Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y blaenoriaethau ar gyfer y Pwyllgor olynol. |