Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Siân Phipps
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
(09:15-09:50) |
Sesiwn Friffio ar yr Ymchwiliad (preifat) Cofnodion: 1.1 Cyflwynwyd yr ymchwiliad newydd i Gyfleoedd
Cyflogaeth i Bobl Dros 50 Oed i’r Aelodau. |
|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 2.1 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Gwenda Thomas, Dafydd Elis-Thomas a Byron Davies. Dirprwyodd
Suzy Davies ar ran Byron Davies am ran o’r cyfarfod. |
||
(09.50-10.50) |
Swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru Daisy Cole, Cyfarwyddwr Lles a Grymuso, Swyddfa
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru Iwan Williams, Arweinydd Cymunedau, Llywodraeth Leol a
Llesiant, Swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Cafwyd tystiolaeth gan Iwan Williams a Daisy Cole. 3.2 Cytunodd Swyddfa’r Comisiynydd Pobl Hŷn
i anfon awgrymiadau ynghylch sut y gallai cynllun sy’n debyg i gynllun cyfredol
Twf Swyddi Cymru ar gyfer pobl dros 50 oed gael ei strwythuro a’i gyllido. |
|
(11.00-12.00) |
Canolfan Byd Gwaith Huw Thomas, Uwch Reolwr Partneriaethau Grwp (Cymru), Canolfan
Byd Gwaith Kevin Morgan, Rheolwr Partneriaethau Grwp (Cymru), Canolfan Byd Gwaith Cofnodion: 4.1 Cafwyd tystiolaeth gan Huw Thomas. 4.2 Cytunodd y Ganolfan Byd Gwaith i ddarparu’r wybodaeth
a ganlyn: ·
gwybodaeth bellach ac unrhyw ystadegau ar y cynllun
gwarantu cyfweliad. ·
Ystadegau ar nifer y bobl dros 50 oed sy’n ymuno/gadael y
broses hawlio lwfans ceisio gwaith. ·
unrhyw wybodaeth sydd ar gael o ran nifer y sancsiynau
DWP/JCP i bobl dros 50 oed ·
copi o’r pecyn adnoddau a ddefnyddir gan eu hyfforddwyr
gwaith ·
edrych i mewn i sefyllfa perchennog busnes bach o ran y
system fudd-daliadau os yw’r perchennog hwnnw yn penderfynu cau’r busnes ei hun
os yw’r busnes yn methu. |
|
(13.00-14.00) |
Cynghrair Henoed Cymru ac Age Cymru Graeme Francis, Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus, Age
Cymru David Pugh, Prif Weithredwr, Cynghrair Henoed Cymru/Prime
Cymru Hayley Ridge-Evans, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Cynghrair
Henoed Cymru/Prime Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Cafwyd tystiolaeth gan Graeme Francis, David Pugh a
Hayley Ridge-Evans. 5.2 Cytunodd Prime Cymru i anfon awgrymiadau ynghylch
sut y gallai cynllun sy’n debyg i gynllun cyfredol Twf Swyddi Cymru ar gyfer
pobl dros 50 oed gael ei strwythuro a’i gyllido. |
|
(14:00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 6.1 Cytunodd y Pwyllgor i wahardd y cyhoedd o weddill y
cyfarfod. |
|
(14.15-15.00) |
Adroddiad Drafft ar Helpu Pobl Ifanc i Gael Gwaith Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar Helpu
Pobl Ifanc i Gael Gwaith. |
|
Papurau i'w nodi |
||
Ymchwiliad Dilynol i Sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM): Ymateb gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg i’r llythyr gan y Cadeirydd ar 27 Tachwedd. Dogfennau ategol: Cofnodion: 8.1.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor. |