Ymchwiliad Dilynol i Sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM)
Cynhaliodd
Bwyllgor Menter a Busnes Cynulliad
Cenedlaethol Cymru ymchwiliad dilynol i sgiliau gwyddoniaeth, technoleg,
peirianneg a mathemateg (STEM)
Cylch gorchwyl:
- Pa effaith y mae strategaeth Llywodraeth Cymru
Gwyddoniaeth i Gymru a'r Cynllun Cyflenwi wedi'i gael ar sgiliau
gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) yng Nghymru?
- Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran mynd i'r
afael â'r materion a nodwyd yn ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Dysgu i'r
agenda STEM yn 2011, gan gynnwys:
- Digonolrwydd y ddarpariaeth o sgiliau STEM
mewn ysgolion, colegau addysg bellach, sefydliadau addysg uwch a dysgu'n
seiliedig ar waith (gan gynnwys prentisiaethau);
- Gwerth am arian o'r cyllid ychwanegol i
gefnogi a hyrwyddo sgiliau STEM ac a yw'r cyflenwad presennol o sgiliau
STEM yn diwallu anghenion marchnad lafur Cymru;
- Y cyflenwad o weithwyr addysg proffesiynol a
all addysgu pynciau STEM ac effaith Grantiau Hyfforddiant Cychwynnol
Athrawon a'r Rhaglen Athrawon Graddedig ar recriwtio athrawon a gweithwyr
addysg proffesiynol STEM;
- Effeithiolrwydd y cysylltiadau addysg a
busnes rhwng sefydliadau addysg a chyflogwyr STEM.
- A oes unrhyw gynnydd wedi'i wneud o ran mynd
i'r afael â'r safbwyntiau negyddol a'r stereoteip ar sail rhyw sy'n
gysylltiedig â STEM a hyrwyddo arfer da i annog menywod i feithrin sgiliau
STEM a dilyn gyrfaoedd sy'n gysylltiedig â STEM.
- Pa gynnydd sydd wedi'i wneud ar
ddysgu sgiliau STEM drwy addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg?
Tystiolaeth gan y Cyhoedd
Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad
cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y
testun yma.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 28/02/2014
Dogfennau
- Adroddiad - Medi 2014 (PDF 684KB)
- * Ymateb Llywodraeth Cymru (PDF 288KB)
- Llythyr gan y Cadeirydd at y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg - 27/11/14
PDF 301 KB Gweld fel HTML (3) 10 KB
- Llyther gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg at y Cadeirydd - 14/01/15 (PDF 141KB)
PDF 140 KB
Ymgynghoriadau