Cyfleoedd cyflogaeth i bobl dros 50 oed
Cynhaliodd y Pwyllgor Menter a Busnes ymchwiliad i
gyfleoedd cyflogaeth i bobl dros 50 oed.
Cylch gorchwyl
- Y rhwystrau sy'n wynebu pobl dros 50 oed wrth iddynt geisio ailymuno â'r
farchnad lafur
- Y graddau y ceir gwahaniaethu ar sail oed a'r effaith ar recriwtio
pobl dros 50 oed
- A oes unrhyw anfanteision pan fo pobl dros 50 oed yn ailymuno â'r
farchnad lafur
- Effeithiolrwydd Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Pobl Hŷn
yng Nghymru 2013-23 wrth helpu pobl dros 50 oed i gael gwaith
- Y cymorth sydd fwyaf effeithiol i bobl dros 50 oed sy'n ceisio
ailymuno â'r farchnad lafur (yn benodol, rhaglenni a phrosiectau).
Fel rhan o'r cylch gorchwyl hwn, roedd y Pwyllgor wedi
ystyried:
- Argaeledd ac addasrwydd cyfleoedd swyddi lleol
- Yr angen am gymorth perthnasol a hyfforddiant sgiliau
- Anawsterau o ran trafnidiaeth, gan gynnwys argaeledd a chost (yn
enwedig mewn ardaloedd gwledig)
- Diffyg hyder (er enghraifft, ar ôl dileu swyddi)
- Helpu a chynorthwyo pobl sydd â heriau ychwanegol (er enghraifft, y
rhai sydd ag anabledd)
- Y rhwystrau posibl i bobl dros 50 oed gael gafael ar gyflogaeth
oherwydd cyfrifoldebau gofalu (er enghraifft, gofalu am rieni hŷn)
- Rôl pobl dros 50 oed wrth fentora gweithwyr iau a throsglwyddo eu
sgiliau a'u gwybodaeth
- Sut y gall pobl dros 50 oed sy'n ailymuno â'r farchnad lafur effeithio
ar nifer y swyddi a chyfleoedd datblygu gyrfa sydd ar gael i weithwyr iau
- Helpu'r rhai mewn ardaloedd lle y mae lefel uchel o ddiweithdra
- Effaith a gwerth am arian cyllid Ewropeaidd.
Tystiolaeth
gan y Cyhoedd
Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y testun yma.
Math o fusnes:
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/11/2014
Dogfennau
- Adroddiad - Gorffennaf 2015 (PDF 875KB)
- Crynodeb o'r adroddiad - Gorffennaf 2015
PDF 557 KB Gweld fel HTML (2) 19 KB
- * Ymateb Llywodraeth Cymru - Medi 2015
PDF 133 KB
- Llythyr gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru - 14 Awst 2015
PDF 486 KB Gweld fel HTML (4) 17 KB
Ymgynghoriadau
- Cyfleoedd cyflogaeth i bobl dros 50 oed (Wedi ei gyflawni)