Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Siân Phipps  Deputy Clerk: Meriel Singleton

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Daeth ymddiheuriadau i law gan Eluned Parrott, a bu William Powell yn dirprwyo ar ei rhan.

(9:30-10:30)

2.

Ymchwiliad i'r cynigion deddfwriaethol drafft ynghylch Cronfeydd Strwythurol yr UE ar gyfer 2014-2020: sesiwn dystiolaeth

EBC(4)-01-12 Papur 1,2 & 3

 

Iestyn Davies, Ffederasiwn Busnesau Bach

 

Yr Athro Richard B. Davies, Addysg Uwch Cymru

Greg Walker, Addysg Uwch Cymru

Berwyn Addysg Uwch Cymru

 

Yr Athro Phil Gummett Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Iestyn Davies, yr Athro Phil Gummett, yr Athro Richard B Davies, Greg Walker a Berwyn Davies i’r cyfarfod. Bu’r Aelodau’n holi’r tystion.

 

2.2 Cytunodd Addysg Uwch Cymru i anfon gwybodaeth i’r Pwyllgor am nifer y prosiectau FP7 sy’n bodoli yng Nghymru ar hyn o bryd.

(10:30 - 11:30)

3.

Ymchwiliad i'r cynigion deddfwriaethol drafft ynghylch Cronfeydd Strwythurol yr UE ar gyfer 2014-2020: sesiwn dystiolaeth

EBC(4)-01-12 Papur 4 & 5

 

Judith Stone; Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Phil Fiander; Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Katy Chamberlain; Chwarae Teg -Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

 

Lowri Gwilym;  Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Neville Davies; Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Peter Mortimer; Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd Judith Stone, Phil Fiander, Katy Chamberlain, Lowri Gwilym, Neville Davies a Peter Mortimer i’r cyfarfod. Bu’r Aelodau’n holi’r tystion.

 

3.2 Cytunodd tystion Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i roi rhagor o wybodaeth i’r Pwyllgor am raglenni ymchwil a datblygu llwyddiannus ledled Ewrop a oedd wedi defnyddio cronfeydd strwythurol.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau a ganlyn:

Cofnodion:

4.1 Gwnaeth y Cadeirydd gynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

 

4.2 Cytunodd yr Aelodau ar y cynnig, a symudodd y cyfarfod i sesiwn breifat.

 

5.

Ymchwiliad i adfywio canol trefi: trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod yr adroddiad, a chytunodd arno, yn amodol  ar weithredu’r gwelliannau a gynigwyd.

6.

Papurau i'w nodi

Y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Gaffael: Newid i’r Cylch Gorchwyl

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y cylch gorchwyl diwygiedig ar gyfer y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Gaffael.

Trawsgrifiad