Ymchwiliad i'r cynigion deddfwriaethol drafft ynghylch Cronfeydd Strwythurol yr UE ar gyfer 2014-2020

Ymchwiliad i'r cynigion deddfwriaethol drafft ynghylch Cronfeydd Strwythurol yr UE ar gyfer 2014-2020

Cynhaliodd y Pwyllgor Menter a Busnes ymchwiliad i’r cynigion deddfwriaethol drafft ynghylch Cronfeydd Strwythurol UE ar gyfer 2014-2020

 

Y cylch gorchwyl:

 

  • sut y gallai cynigion deddfwriaethol drafft y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer Cronfeydd Strwythurol yr UE (2014-2020) effeithio ar Gymru, a nodi unrhyw agweddau ar y cynigion hyn sy’n gadarnhaol neu’n negyddol ar gyfer Cymru;
  • gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ar yr hyn y dylai eu blaenoriaethu wrth geisio llywio safiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig yng Nghyngor y Gweinidogion;
  • dylanwadu ar drafodaethau ym Mrwsel ar y cynigion deddfwriaethol drafft ar gyfer dyfodol Cronfeydd Strwythurol yr UE, yn benodol drwy Senedd Ewrop (o bosibl drwy gynnig gwelliannau i’r cynigion deddfwriaethol drafft).

 

Roedd gan y Pwyllgor ddiddordeb yn y canlynol:

 

  • yr hyn y gallai cynigion y Comisiwn Ewropeaidd ei olygu i Gymru.
  • yr hyn y dylai fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru wrth gynnal trafodaethau a fydd yn sicrhau’r canlyniad gorau i Gymru.
  • sut y gall Cymru sicrhau bod ei barn yn llywio’r broses drafod.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 14/04/2016

Dogfennau